Agenda a Chofnodion

Special, Pwyllgor Craffu'r Cabinet - Dydd Llun, 21ain Tachwedd, 2022 10.00 am

Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot and Microsoft Teams

Cyswllt: Charlotte Davies - 01639 763745 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

3.

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu

cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet aa gyfer yr

Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Cyflwyno Cais Porthladd Rhydd

 

Croesawodd y Cadeirydd Andrew Harston, Alice Jones a Mike Stacy o Gymdeithas Porthladdoedd Prydain yn ogystal â David Gwynne o Eurus Consulting i'r cyfarfod.

 

Cyflwynodd swyddogion yr adroddiad a darparwyd gwybodaeth mewn perthynas â chais i lywodraethau Cymru a'r DU am Borthladd Rhydd a oedd yn cynnwys porth Port Talbot a phorth Aberdaugleddau a'r ardaloedd cyfagos.

 

Nododd aelodau'r camgymeriad yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, mewn perthynas â thudalen 10 a oedd yn dweud "Mae hyn yn cynnwys £21 miliwn (neu fwy o bosib)". Dylai darllen £25 miliwn.

 

Gofynnodd yr aelodau am eglurder ynghylch y goblygiadau ariannol sy'n tynnu sylw at y ffaith y byddai £1m o gyllid gan y Llywodraeth ar gael ar gyfer datblygiadau. Cadarnhaodd y swyddogion y byddai hwn yn swm untro i gefnogi'r cynigiwr i gefnogi'r cais o'r cam amlinellu i'r cam achos busnes terfynol yn unol â rheolau Llyfr Gwyrdd y Trysorlys. Byddai angen datblygu model busnes mewn perthynas ag unrhyw gostau parhaus.

 

Tynnodd aelodau sylw at y datganiad o argyfwng hinsawdd diweddar a gofynnwyd beth fyddai'r goblygiadau wrth adeiladu'r datblygiad hwn. Dywedodd swyddogion gydag unrhyw waith adeiladu byddai cynnydd mewn allyriadau o ganlyniad i draffig Cerbydau Masnachol Trwm, fodd bynnag, bydd y datblygiad er budd bioamrywiaeth a throsglwyddo i ynni adnewyddadwy a fyddai'n lleihau'r ôl troed carbon. 

 

Cynhaliwyd trafodaethau ynghylch y costau a'r adnoddau posib. Tynnwyd sylw at y pwysau y mae swyddogion wedi'i brofi yn ystod y blynyddoedd diwethaf gyda'r pandemig a phrosiectau mawr eraill y mae'r cyngor wedi cofrestru ar eu cyfer. Roedd aelodau'n bryderus am y pwysau hwn. Cytunodd y Prif Weithredwr fod swyddogion wedi bod dan bwysau o ganlyniad i'r pandemig a phrosiectau eraill a rhoddwyd sicrwydd i'r aelodau y byddai adnoddau'n cael eu hystyried yn barhaus wrth symud ymlaen.

 

4.

Mynediad i gyfarfodydd

Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd

o'r eitem ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf

Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

Gwahardd y cyhoedd yn unol ag Adran 100A (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn debygol o gynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 ac Adran 4 o Atodlen 12A y Ddeddf uchod.

 

 

5.

Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu

cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet ar gyfer yr

Aelodau Craffu)

Cofnodion:

 

Cyflwyniad Porth Rhydd - Atodiad B

 

Derbyniodd aelodau gyflwyniad gan Andrew Harston, Alice Jones o Gymdeithas Porthladdoedd Prydain a David Gwynne o Eurus Consulting mewn perthynas ag elfennau preifat yr adroddiad a nodwyd o fewn Cyflwyniad Porth Rhydd - Atodiad B.

 

6.

- Sesiwn Gyhoeddus -

Cofnodion:

Penderfynodd yr aelodau symud yn ôl i sesiwn gyhoeddus.

 

7.

Craffu Cyn Penderfynu

Cofnodion:

Cyflwyno Cais Porthladd Rhydd

 

Rhoddodd y Cadeirydd grynodeb o'r trafodaethau a chyfeiriwyd at yr argymhellion a restrwyd ar dudalen 12 yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd y diwygiad canlynol i bwynt bwled rhif 2 yn yr argymhellion gan yr aelodau:

 

'Rhoddodd aelodau awdurdod dirprwyedig i'r Prif Swyddog Gweithredol, mewn ymgynghoriad â'r Arweinydd, ac Aelodau’r Cabinet dros Gynllunio Strategol, Trafnidiaeth a Chysylltedd ac Adfywio'r Economi a Chymunedau l gytuno ar ddiwygiadau i'r Cais cyn ei gyflwyniad terfynol i Lywodraeth Cymru'

 

Yn dilyn y bleidlais, methodd y diwygiad ac felly ni chaiff ei gefnogi.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gwreiddiol fel y manylir isod gan yr aelodau:

 

Argymhellir, gan roi sylw dyledus i'r Asesiad Sgrinio Effaith Integredig:

·        Bydd aelodau'n cymeradwyo cyflwyno cais am Borthladd Rhydd sy'n cynnwys porth Port Talbot a phorth Aberdaugleddau a'r ardaloedd cyfagos yn y ffurflen a ychwanegir at Atodiad B, yn destun unrhyw amrywiadau y bydd angen eu gwneud cyn ei gyflwyno.

·        Bydd aelodau'n rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor, gytuno ar ddiwygiadau i'r cais cyn ei gyflwyniad terfynol i Lywodraeth Cymru

·        Bydd aelodau'n cymeradwyo enwebiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot fel y Corff Atebol ar gyfer y Porthladd Rhydd arfaethedig.

·        Bydd aelodau'n rhoi'r awdurdod i Arweinydd y Cyngor gyflwyno llythyr i Lywodraeth Cymru sy'n adlewyrchu cefnogaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot o borthladd rhydd sy'n cynnwys porth Port Talbot a phorth Aberdaugleddau.

·        Bydd aelodau'n rhoi'r awdurdod i'r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â'r Arweinydd, weithredu mewn ffordd a all fod yn angenrheidiol i hyrwyddo rhinweddau'r cais ar ôl ei gyflwyno hyd at benderfyniadau'r Gweinidogion ar lwyddiant y cais, neu fel arall.

 

Yn dilyn craffu, roedd aelodau'n gefnogol o drosglwyddo'r argymhelliad hwn i'r Cabinet.

 

8.

Eitemau brys

(Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972)

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw eitemau brys.