Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-leoliad Siambr y Cyngor, Timau Port Talbot a Microsoft

Cyswllt: Charlotte Davies - 01639 763745 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gyhoeddiadau.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

3.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 403 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf 2022 fel cofnod cywir.

 

4.

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu

cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet aa gyfer yr

Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Adroddiad Monitro'r Gyllideb Gyfalaf 2022/23 - yn ôl diwedd mis Medi 2022

 

Derbyniodd yr aelodau wybodaeth mewn perthynas â chyflawni Rhaglen Gyfalaf 2022/23.

 

Holodd yr aelodau ynghylch llinellau’r gyllideb yn atodiad 1 yr adroddiad a ddosbarthwyd sydd â gwariant o 0 ar hyn o bryd. Roedd aelodau am gael sicrwydd ynghylch gwariant yr arian hynny. Roedd gan yr aelodau ddiddordeb arbennig mewn cael rhagor o wybodaeth ynghylch y gyllideb mewn perthynas ag 'Adfywio: Tasglu'r Cymoedd'. Dywedodd swyddogion wrth yr aelodau y byddent yn casglu gwybodaeth y tu allan i'r cyfarfod ac yn siarad â'r swyddogion perthnasol er mwyn darparu ymateb i'r aelodau.

 

Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.

 

Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw 2022/2023 - yn ôl diwedd mis Medi 2022

Rhoddwyd gwybodaeth i'r aelodau mewn perthynas â sefyllfa'r gyllideb refeniw ragamcanol y cyngor.

 

Trafodwyd y dyfarniad cyflog ar gyfer 2022/23 a holodd yr aelodau ynghylch yr effaith y gallai'r dyfarniad cyflog ei chael ar ysgolion. Gofynnwyd a fyddai ysgolion yn gallu talu'r 1% oherwydd bod y dyfarniad cyflog a ragwelir yn 5% ac mae  setliad llywodraeth Cymru yn caniatáu ar gyfer 4% yn unig. Eglurodd swyddogion y byddai'r Cyngor yn dyrannu 4% i'r dyfarniad cyflog gan mai dyma'r hyn a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru. Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith, oherwydd y dyfarniad cyflog a'r costau ychwanegol, efallai y bydd angen i ysgolion ddefnyddio cronfeydd wrth gefn i ariannu gwarged o 2 filiwn. Nid oedd swyddogion yn ymwybodol o unrhyw ysgolion a all fod mewn ddiffyg oherwydd y dyfarniad cyflog hwn, ond cadarnhaodd swyddogion y byddent yn casglu dadansoddiad ac yn ei rannu gydag aelodau.

 

Rhannodd aelodau eu pryderon ynghylch y diffyg posib o 2 filiwn a’r defnydd o’u cronfeydd wrth gefn. Nodwyd y bydd y gost ychwanegol o 1% mewn perthynas â chyllideb rhai ysgolion yn sicr yn cael effaith andwyol ar y rheini sydd â chyllideb fwy o gymharu ag ysgolion llai. Gofynnwyd bod gwybodaeth yn cael ei darparu am yr effaith y bydd y gost ychwanegol o 1% mewn perthynas â'r dyfarniad cyflog yn ei chael ar ysgolion cynradd ac uwchradd sydd ar gynlluniau adfer sy'n seiliedig ar ddiffygion wrth symud ymlaen. Gofynnwyd hefyd i'r wybodaeth hon gael ei dosbarthu i'r pwyllgor a'i throsglwyddo i'r Cadeirydd y Pwyllgor Craffu ar Addysg, Sgiliau a Lles i'w hystyried.

 

Holodd yr aelodau ynghylch y costau ar gyfer cyflwyno Prydau Ysgol Am Ddim ar gyfer yr holl blant y derbyn mewn ysgolion cynradd. Nodwyd bod costau bwyd ac ynni wedi cynyddu a gofynnwyd a fyddai effaith ar y gyllideb, ynghyd â Llywodraeth Cymru'n adolygu'r gyfradd fesul pryd i sicrhau bod cyllid yn sylweddol. Cadarnhaodd swyddogion y bydden nhw'n casglu ffigurau a gwybodaeth bellach y tu allan i'r cyfarfod.

 

Yn dilyn Craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet

 

Cynllun Ariannol Tymor Canolig 2022/23 i 2027/2028

 

Rhoddwyd y diweddaraf am y Cynllun Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 2023/24 i 2027/28 i aelodau, yn seiliedig ar ragdybiaethau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Rhaglen Gwaith Cychwynnol 2022/23 pdf eicon PDF 404 KB

Cofnodion:

Nodi'r Flaenraglen Waith.

 

6.

Eitemau brys

(Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972)

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gyhoeddiadau.