Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Charlotte Davies - 01639 763745
Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd y Pwyllgor. Tynnodd y Cadeirydd sylw at y ffaith bod gwall yn
yr Adroddiad Llywodraethu Blynyddol a nodwyd ym Mhapurau'r Cabinet. Nodwyd bod
y cyfnod gweithredu ar goll ac y dylid ei ddiwygio i ddarllen 'Cynigir rhoi’r
penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn'. |
|||||||||
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Gwnaeth yr aelodau a'r Swyddogion canlynol
ddatganiadau o fuddiant ar ddechrau'r cyfarfod:
|
|||||||||
Craffu Cyn Penderfynu Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu cyn
penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet ar gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Ysgol Ddechreuol Cyfrwng Cymraeg - Mynachlog Nedd Ailddatganodd y Cynghorwyr James Henton a Martyn Peters eu budd a gadawsant
y cyfarfod ar gyfer yr eitem hon. Cafodd yr Aelodau'r wybodaeth ddiweddaraf am y
cynnig i sefydlu Ysgol Gynradd Gymraeg newydd ym Mynachlog Nedd. Tynnodd
Swyddogion sylw at y ffaith bod pryder wedi'i godi ynghylch elfen traffig a
pharcio'r ysgol. Nodwyd bod Swyddogion yn gwneud eu gorau glas i liniaru pwysau
posib traffig neu barcio a'u bod yn ystyried mesurau y gellid eu rhoi ar waith
i liniaru hyn. Trafodwyd hefyd fod pryderon ynghylch oedran yr ysgol. Nodwyd
bod yr ysgol wedi'i chynnal a'i chadw'n dda a'i bod mewn cyflwr da iawn. Cyfeiriodd yr Aelodau at ymateb y Swyddog ar Goed
Darcy fel a nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Tynnwyd sylw at y ffaith, gan
ddibynnu ar niferoedd disgyblion yn y dyfodol, fod potensial i'r disgyblion
drosglwyddo i Goed Darcy pan gaiff yr ysgol newydd ei hadeiladu neu fel arall,
os bydd y galw am addysg Gymraeg yn tyfu yn ôl y disgwyl, mae posibilrwydd y
bydd yr ysgol fwydo Gymraeg yn aros yn Sgiwen ac y gellid adeiladu ysgol
Gymraeg ychwanegol yng Nghoed Darcy. Tynnwyd sylw at y ffaith nad oedd yn bosib
yn y cyfamser i aros i'r ysgol yng Nghoed Darcy gael ei hadeiladu ac roedd hyn
yn gyfle i ganiatáu i'r cyngor sefydlu Ysgol Gymraeg mewn cyfnod byr o amser. Roedd yr Aelodau'n falch o weld yr adroddiad ac fe
dynnon nhw sylw at y ffaith y byddai sefydlu'r ysgol yn cyfrannu at darged
Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Yn dilyn Craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r
cynigion i'w hystyried gan y Cabinet. Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg 2021-2022 Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg ar
gyfer 2021-2022 i'r Aelodau, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Tynnodd yr Aelodau sylw at eu hawydd i ddysgu'r
Gymraeg ond nodwyd ganddynt fod hyn yn absennol o'r adroddiad a gofynnwyd a all
gwybodaeth gael ei rhannu rhwng yr aelodau ac iddi gael ei chydnabod mewn
adroddiadau yn y dyfodol. Tynnodd Swyddogion sylw at y ffaith bod hyfforddiant
ar gael i'r Aelodau a byddai'r wybodaeth hon yn cael ei dosbarthu y tu allan
i'r cyfarfod. Hysbyswyd Swyddogion gan yr Aelodau o bwysigrwydd y
rhestr o siaradwyr Cymraeg a oedd ar gael yn flaenorol fel rhan o'r Cyfeiriadur
Gweithwyr ar y fewnrwyd a gofynnwyd i’r swyddogion a ellid diweddaru'r
wybodaeth hon. Cadarnhaodd Swyddogion fod y rhestr o siaradwyr Cymraeg wedi'i
diweddaru a'i hadfer. Nodwyd y byddai'r wybodaeth hon yn cael ei dosbarthu i'r
aelodau. Yn dilyn y broses graffu, cytunwyd nodi'r
adroddiad. Cyflawni Cynllun Cymorth Costau Byw Disgresiynol
Llywodraeth Cymru Ar yr adeg hon o'r cyfarfod, cadarnhaodd y
Cadeirydd ei fuddiannau rhagfarnol a gadawodd y cyfarfod ynghyd â'r Aelodau a'r
Swyddogion eraill a oedd wedi datgan buddiannau rhagfarnol. Ymgymerodd
Chris James â'r rôl fel Cadeirydd ar gyfer yr eitem hon. Rhoddwyd gwybodaeth i'r Aelodau am y meini prawf ar gyfer darparu elfen ddisgresiynol cynllun cymorth ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|||||||||
Eitemau brys (Unrhyw eitemau
brys (boed yn gyhoeddus neu
wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn
y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972) Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |
|||||||||
Mynediad i gyfarfodydd Mynediad i gyfarfodydd
i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem
ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau
eithriedig perthnasol o Ran
4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod. Cofnodion:
|
|||||||||
Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu Dewis eitemau priodol
o Agenda Bwrdd y Cabinet ar
gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet ar gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Ceisiadau ar gyfer Cronfa Codi'r
Gwastad Cafodd yr Aelodau’r wybodaeth ddiweddaraf a rhoddwyd cyflwyniad iddynt ar y
pecyn arfaethedig o geisiadau ar gyfer etholaeth Aberafan, etholaeth
Castell-nedd a chais trafnidiaeth yn unig i'w cyflwyno i lywodraeth y DU i
wneud cais am arian o Gronfa Codi'r Gwastad y DU, fel y nodir yn yr adroddiad
preifat. Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn
gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet. Cyfle Porthladd Rhydd Posib Castell-nedd Port Talbot Amlygodd Swyddogion eu bod yn ceisio cymeradwyaeth i'r cyngor gymryd rhan
mewn gwaith archwilio, ymchwil a thrafodaethau pellach gyda phartneriaid posib
i archwilio potensial y cyngor i gyflwyno cais am Borthladd Rhydd, naill ai ar
ei ben ei hun neu mewn partneriaeth â sefydliadau eraill, fel y nodir yn yr
adroddiad preifat a ddosbarthwyd. Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w
hystyried gan y Cabinet. |