Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu'r Cabinet - Dydd Mawrth, 16eg Mawrth, 2021 2.00 pm

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Gwnaeth yr aelodau canlynol ddatganiad o fudd ar ddechrau'r cyfarfod:

 

Y Cynghorydd Nigel Hunt Parthed: Estyn y Cymorth Grant i Fusnesau yr effeithiwyd arnynt gan gyfyngiadau masnachu ychwanegol ym mis Mawrth 2021, gan ei fod yn derbyn y grant cymorth i fusnesau.

 

Y Cynghorydd Saif Rahaman Parthed: Estyn y Cymorth Grant i Fusnesau yr effeithiwyd arnynt gan gyfyngiadau masnachu ychwanegol ym mis Mawrth 2021, gan ei fod yn berchen ar fusnes.

 

Y Cynghorydd Linet Purcell  Parthed: Estyn y Cymorth Grant i Fusnesau yr effeithiwyd arnynt gan gyfyngiadau masnachu ychwanegol ym mis Mawrth 2021, gan fod aelod o'r teulu'n derbyn y grant cymorth i fusnesau.

 

Y Cynghorydd Rhidian Mizen Parthed: Estyn y Cymorth Grant i Fusnesau yr effeithiwyd arnynt gan gyfyngiadau masnachu ychwanegol ym mis Mawrth 2021, gan ei fod yn ysgrifennydd cymdeithasol Cwm Rygbi Cwmafan.

 

Y Cynghorydd  Sharon Freeguard Parthed: Estyn y Cymorth Grant i Fusnesau yr effeithiwyd arnynt gan gyfyngiadau masnachu ychwanegol ym mis Mawrth 2021, gan ei fod yn aelod o fwrdd Age Connects CNPT.

 

 

 

 

 

 

2.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf

Llywodraeth Leol 1972.

Cofnodion:

Oherwydd yr angen i ymdrin â'r materion sydd wedi'u cynnwys yng Nghofnod Rhif. 3 isod, cytunodd y Cadeirydd y gellid codi'r eitemau hyn yng nghyfarfod heddiw fel eitemau brys yn unol ag Offeryn Statudol Rhif 2290 (fel y'i diwygiwyd)

 

Rheswm dros y mater brys:

Oherwydd yr elfen amser.

 

3.

Estyn y Cymorth Grant i Fusnesau yr effeithiwyd arnynt gan gyfyngiadau masnachu ychwanegol ym mis Mawrth 2021.

Cofnodion:

(Ar y pwynt hwn o'r cyfarfod, atgyfnerthodd y Cynghorwyr N Hunt, S Rahaman, S Knoyle, R Mixen, L Purcell ac S Freeguard eu budd â'r eitem hon a gadawsant y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth a'r bleidlais).

 

Hysbyswyd yr aelodau am estyniad i'r cynllun cymorth grant presennol, a oedd yn galluogi'r cyngor i wneud taliadau grant o £4,000 a £5,000 i fusnesau cymwys yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae hyn yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ar barhad y cyfyngiadau a ddaeth i rym ar 20 Rhagfyr 2020 i fis Mawrth 2021.

 

Nododd aelodau, gyda'r estyniad hwn ni fyddai unrhyw gymorth dewisol ar gael i fasnachwyr unigol fel yr oedd ar gael gynt yn y rownd flaenorol. Nodwyd bod hwn yn gyfnod anodd i fusnesau o hyd ac y byddai rhai busnesau'n dibynnu ar y cymorth dewisol hynny, felly awgrymwyd y dylai sylwadau gael eu hanfon i Lywodraeth Cymru yn gofyn am gymorth ychwanegol. Hysbysodd swyddogion yr aelodau eu bod wedi gofyn am gyllid ychwanegol ar gyfer cymorth dewisol ac y darparwyd £300,000 ychwanegol, sy'n golygu y byddai arian ar gael ar gyfer 135 grant. 

 

Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet.

 

4.

Mynediad i gyfarfodydd

Cofnodion:

)Ailymunodd y Cynghorwyr N Hunt, S Rahaman, S Knoyle, R Mizen, L Purcell ac S Freeguard â'r cyfarfod)

 

PENDERFYNWYD:

gwahardd y cyhoedd yn unol ag Adran 100A (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn debygol o gynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 ac Adran 4 o Atodlen 12A y Ddeddf uchod.

 

 

5.

Craffu ar Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu

·       Dewis eitemau preifat priodol o agenda cyn craffu Bwrdd y Cabinet (Adroddiadau Bwrdd y Cabinet yn amgaeedig ar gyfer yr aelodau craffu).

Cofnodion:

Craffodd y pwyllgor ar yr eitem breifat ganlynol ar agenda'r Cabinet:

 

Y Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Rheilffyrdd yng Nghymru

 

Rhoddwyd y diweddaraf i aelodau am sefyllfa bresennol y Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Rheilffyrdd yng Nghymru, fel a fanylwyd o fewn yr adroddiad a ddosbarthwyd yn breifat.

 

Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.