Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu'r Cabinet - Dydd Mercher, 12fed Mai, 2021 2.00 pm

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Cyswllt: Charlotte Davies / Chloe Plowman - 01639 763745 / 01639 763301 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Gwnaeth yr Aelod canlynol ddatganiad o fudd:

 

Y Cyng. S Reynolds Parthed.  Eitem 6 - Model Ariannu Cludiant Cymunedol Arfaethedig ar gyfer y Dyfodol gan ei bod yn Ymddiriedolwr Canolfan Maerdy ac yn ariannwr Cludiant Cymunedol yng Nghwm Afan drwy'r cynllun Cynghorwyr Ward

 

 

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 50 KB

·       24 Chwefror 2021

·       8Mawrth 2021

·       16 Mawrth 2021

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 24 Chwefror 2021, 8 Mawrth 2021 a 16 Mawrth 2021.

 

 

3.

Craffu Cyn Penderfynu

·       Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)

·       Dewis eitemau priodol o agenda Is-bwyllgor (Cyllid) y Cabinet at ddiben craffu cyn penderfynu (amgaeeir adroddiadau Is-bwyllgor Cyllid y Cabinet ar gyfer yr Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar agenda'r Cabinet:

 

Model Ariannu Cludiant Cymunedol Arfaethedig ar gyfer y Dyfodol

 

Diweddarwyd yr aelodau am y cais i ddiwygio'r dull o ddyrannu cyllid y Grant Cefnogi Gwasanaethau Bysus, sydd ar gael i sefydliadau Trafnidiaeth Gymunedol, fel a fanylwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Gofynnwyd a fyddai unrhyw sefydliadau trafnidiaeth gymunedol eraill yn gymwys i wneid cais am y cyllid. Cadarnhawyd y byddai'r cynllun ar agor i bob sefydliad sy'n gweithredu o fewn Castell-nedd Port Talbot.

 

Cafwyd trafodaethau ynghylch strategaeth Llywodraeth Cymru, wrth gefnogi cynlluniau o'r natur hon sy'n gynaliadwy ac a ddarperir yn lleol. Nodwyd bod Llywodraeth Cymru'n adolygu'r holl gynlluniau ariannu ar hyn o bryd o ran trafnidiaeth, ac roedd y cyngor yn aros am y manylion.

 

Mynegwyd pryderon am y prif gwmnïau trafnidiaeth megis 'First Cymru' yn lleihau eu gwasanaethau yn dilyn integreiddio trafnidiaeth gymunedol. Sicrhaodd swyddogion yr aelodau na fyddai'r gwasanaethau yn gweithio'n gystadleuol yn erbyn ei gilydd ac yn hytrach yn gweithio gyda'i gilydd. Trafnidiaeth gymunedol yn cael ei hystyried fel gwasanaeth ychwanegol.

 

Gofynnodd yr aelodau i'r swyddogion a fyddent yn ystyried amlygu'r pryderon ynghylch materion trafnidiaeth mewn adrannau eraill i Lywodraeth Cymru. Defnyddiodd yr aelodau y Gwasanaethau Cymdeithasol fel enghraifft, gan amlygu'r anawsterau y mae gofalwyr yn eu hwynebu wrth geisio teithio i'r rheini y mae angen gofal arnynt. Roedd swyddogion yn cydnabod bod y pryderon hyn yn berthnasol nid yn unig i'r Gwasanaethau Cymdeithasol ond mewn meysydd eraill hefyd, gan y gall trafnidiaeth fod yn gyfyngedig ar wahanol adegau o'r diwrnod a byddent yn rhoi adborth am hyn i'r grŵp adolygu bysus.

 

Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet.

 

Cynllun Corfforaethol 2021-2023

 

Darparwyd Cynllun Corfforaethol diweddaredig i'r aelodau ar gyfer y cyfnod 2021 - 2023 i'w ystyried, fel a fanylwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Nododd aelodau fod yr Amcanion Lles yr un amcanion a gytunwyd yn 2017 ac roedd y cynllun drafft yn fwy o ddatganiad sefyllfa a oedd yn manylu ar sefyllfa bresennol y cyngor o ran y pandemig a'r cynllun adfer.

 

Gofynnodd yr aelodau am eglurder ynghylch y cynllun ymgynghori ac ymgysylltu a fanylwyd yn yr adroddiad. Esboniodd swyddogion eu bod yn y broses o ddatblygu cynllun ymgynghori ac ymgysylltu a fyddai'n cynnwys barn y gymuned a sefydliadau cymunedol.

 

Cafwyd trafodaethau ynghylch Ansawdd Aer, nodwyd yn y cyfarfod y byddai'n well trafod y pwnc hwn y tu allan i'r cyfarfod.

 

Gofynnodd yr aelodau beth fyddai'r mecanwaith adrodd mewn perthynas â'r camau gweithredu a nodwyd o'n cynllun gweithredu Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant, a fanylwyd ar dudalen 79 o'r adroddiad. Cadarnhaodd swyddogion y byddent yn darparu'r wybodaeth hon y tu allan i'r cyfarfod.

 

Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet

 

Cyd-bwyllgor Corfforedig Rhanbarthol De-orllewin Cymru

 

Rhoddwyd trosolwg cryno i'r aelodau am y gofyniad i sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig (CBC) ynghyd â cheisio awdurdod dirprwyedig i swyddogion gymryd rhan mewn trafodaethau gyda'r awdurdodau, fel a  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

Blaenraglen Waith 2021-22 pdf eicon PDF 70 KB

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Flaenraglen Waith Craffu'r Cabinet

Lywodraethwyr 2020/21.