Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu'r Cabinet - Dydd Mercher, 12fed Ionawr, 2022 2.00 pm

Lleoliad: O Bell Trwy Teams

Cyswllt: Charlotte Davies / Chloe Plowman - 01639 763745 / 01639 763301 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Croeso a galw’r rhestr

Cofnodion:

 

Croesawodd y Cynghorydd S Rahaman bawb i'r cyfarfod a galwyd yr enwau.

 

2.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

 

 Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau.

 

3.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Gwnaeth yr aelodau canlynol ddatganiad o fudd ar ddechrau'r cyfarfod.

 

Y Cynghorydd S Freeguard

Parthed: Eitem rhif 10 ar yr agenda, Arian Grant y Trydydd Sector, cais ychwanegol am gyllid, gan ei bod hi'n aelod o fwrdd Age Connects. Teimlodd y Cynghorydd Freeguard fod ei chysylltiad yn rhagfarnol a gadawodd y cyfarfod am yr eitem honno'n unig. 

 

Cyflwynodd y Cynghorydd D Jones

Parthed: Eitem rhif 10 ar yr agenda, Arian Grant y Trydydd Sector, cais ychwanegol am gyllid, gan ei bod hi'n aelod o fwrdd Age Connects. Teimlodd y Cynghorydd Jones fod ei chysylltiad yn rhagfarnol a gadawodd y cyfarfod am yr eitem honno'n unig.

 

 

4.

Craffu Cyn Penderfynu

·         Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet:

 

Strategaeth Seiberddiogelwch Castell-nedd Port Talbot

 

Darparwyd trosolwg i aelodau o Strategaeth Seiberddiogelwch Cyngor Castell-nedd Port Talbot, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Cynhaliwyd trafodaethau ynghylch diogelwch e-byst ac atal e-byst maleisus. Nodwyd bod protocolau ar waith o fewn y gwasanaethau TG i helpu i ddiogelu gwasanaethau rhag unrhyw e-byst maleisus.

Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet

 

Swyddfa Archwilio Cymru - Archwilio asesiad Cyngor Castell-nedd Port Talbot o berfformiad 2020-21

 

Rhoddodd aelodau glod i swyddogion ar yr adborth gan Swyddfa Archwilio Cymru mewn perthynas â Chyngor Castell-nedd Port Talbot yn bodloni ei oblygiadau cyfreithiol.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

Arian Grant y Trydydd Sector - Cais ychwanegol am gyllid

 

Derbyniodd aelodau wybodaeth mewn perthynas â chais a dderbyniwyd ar gyfer arian grant y trydydd sector ar ôl y dyddiad cau swyddogol.

 

Gofynnodd aelodau am y rhesymau dros y cais hwyr a gofynnwyd am sicrwydd na fyddai ceisiadau hwyr yn y dyfodol yn cael eu blaenoriaethu. Cadarnhaodd swyddogion ei bod yn broblem weinyddol ac na fyddent yn cael eu blaenoriaethu wrth symud ymlaen.

 

Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet

 

 

5.

Blaenraglen Waith 2020/21 pdf eicon PDF 429 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Flaenraglen Waith.