Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu'r Cabinet - Dydd Mercher, 22ain Medi, 2021 2.00 pm

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Cyswllt: Charlotte Davies / Chloe Plowman - 01639 763745 / 01639 763301 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Hysbyswyd y Pwyllgor am newid i'r adroddiad canlynol ar Agenda Bwrdd y Cabinet:

 

·       Eitem 10 ar yr Agenda – Adroddiad Blynyddol y Cynllun Corfforaethol

 

Roedd addasiad i'w wneud i'r frawddeg ganlynol ar dudalen 56 yr adroddiad a ddosbarthwyd:

'Ar draws y tri amcan lles ar gyfer 2020/21, mae 64% (53 o 83) o'n 'camau', h.y. y camau strategol a bennwyd gennym i gyflawni’n blaenoriaethau gwella ar y trywydd iawn, mae 24 o'r camau 'ychydig oddi ar' y trywydd iawn' ac mae 6 ohonynt oddi ar y trywydd iawn'

Roedd y frawddeg i'w haddasu i'r canlynol:

'Ar draws y tri amcan lles ar gyfer 2020/21, mae 65% (54 o 83) o'n 'camau', h.y. y camau strategol a bennwyd gennym i gyflawni’n blaenoriaethau gwella ar y trywydd iawn, mae 24 o'r camau 'ychydig oddi ar' y trywydd iawn ac mae 5 ohonynt oddi ar y trywydd iawn'

Byddai angen gwneud yr un addasiad hefyd i dudalennau 66 a 182 o'r adroddiad a ddosbarthwyd.

Yn dilyn y diweddariad, roedd yr Aelodau'n hapus â'r newidiadau, felly dewiswyd peidio â chraffu ar yr adroddiad.

 

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 127 KB

·        9 June 2021

·        30 June 2021

·        28 July 2021

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 9 Mehefin 2021, 30 Mehefin 2021 a 28 Gorffennaf 2021, gyda'r diwygiad canlynol i gofnodion 30 Mehefin 2021:

 

Wrth graffu ar yr eitem agenda sy'n ymwneud â 'Buddsoddiadau o Gronfeydd Wrth Gefn 2021/22', trafododd y Pwyllgor Gronfa Codi'r Gwastad. Gofynnodd yr Aelodau a ellid cynnwys y pwyntiau canlynol yn naratif y cofnodion:

 

·     Nodwyd bod aelodau wedi mynegi eu siom yn ystod y cyfarfod mai dim ond 25% o gymhwysedd Cronfa Codi'r Gwastad y gwnaed cais amdano; fodd bynnag, darparodd Swyddogion atebion trylwyr a oedd wedi bodloni'r Aelodau.

·     Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg ac Adfywio fod £125,000 ar gael ar gyfer gwaith ymgynghori a fydd yn caniatáu i Swyddogion weithio drwy gynlluniau manwl unrhyw gyllid yn y dyfodol e.e. Y Gronfa Ffyniant Gyffredin

·     Roedd yr Aelodau am fynegi eu diolch i Swyddogion a Chyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio.

 

 

3.

Craffu Cyn Penderfynu

·        Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)9c

·        Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet (Cylliad) ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet:

Adroddiad Monitro a Diweddaru'r Gyllideb Refeniw 2021/2022

Cafodd yr Aelodau'r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â rhagamcanion cyfredol y gyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22.

Soniodd swyddogion fod yr Adroddiadau Monitro a Diweddaru'r Gyllideb Refeniw yn cael eu darparu i'r Aelodau bob mis oherwydd effaith COVID-19.

Tynnwyd sylw at y ffaith mai £1.583m oedd y  tanwariant a ragwelwyd ar hyn o bryd eleni; roedd hyn yn rhannol oherwydd ad-dalu colli incwm a'r gwariant o Gronfa Galedi Llywodraeth Cymru. Roedd yr adroddiad a ddosbarthwyd yn nodi bod y cyngor, hyd yma, wedi cael ad-daliad o £2.4m, ac y cytunwyd hefyd ar hawliad colli incwm o £1.221m ar gyfer chwarter un.

Mewn cyfarfod blaenorol o'r Pwyllgor, hysbyswyd yr Aelodau fod £12m ychwanegol wedi'i glustnodi’r ddiweddar i'r cyngor oddi wrth Llywodraeth Cymru; Gofynnodd yr Aelodau a oedd yr arian ychwanegol hwn wedi'i adlewyrchu yn nhanwariant a gorwariant yr adroddiad a ddosbarthwyd, ac os nad oedd, a ellid ei roi yn y cronfeydd wrth gefn i wrthbwyso'r beichiau y gall preswylwyr eu hwynebu wrth symud ymlaen, megis Treth y Cyngor.

Tynnwyd sylw at y ffaith bod yr Aelodau wedi cael gwybod am y £12m ychwanegol a roddwyd mewn cronfeydd wrth gefn yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Mehefin 2021; yn ystod y cyfarfod hwn, dywedwyd bod yr arian hwn wedi'i neilltuo i gronfeydd wrth gefn penodol ar draws y gwahanol feysydd gwasanaeth. Cadarnhaodd swyddogion fod yr arian hwn yn dal i fod yn y cronfeydd wrth gefn, ac eithrio'r symudiadau wrth gefn fel y nodir ar dudalennau 26 a 27 o'r adroddiad a ddosbarthwyd.  Ychwanegwyd bod adroddiad a gymeradwywyd gan y Cabinet ar 30 Mehefin 2021 hefyd wedi nodi'r defnydd o tua £4m o gronfeydd wrth gefn, a ddangoswyd yn yr cronfeydd wrth gefn a nodwyd yn Atodiad 3 yr adroddiad a ddosbarthwyd.

Hysbyswyd y Pwyllgor fod y cronfeydd wrth gefn penodol a ragwelwyd tua £54m ar hyn o bryd; ni fydd y sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn yn hysbys tan fis Mai 2022. Soniwyd y bydd y cyngor yn pennu’i gyllideb ar gyfer 2022/23 ar ddechrau mis Mawrth 2022, a oedd cyn diwedd y flwyddyn ariannol hon.

Drwy roi diweddariadau misol i aelodau, roedd yn rhoi gwybodaeth iddynt am beth fydd y sefyllfa a ragwelir ar gyfer cyfarfod pennu'r gyllideb ym mis Mawrth; bydd cyfleoedd i adolygu lefel y cronfeydd wrth gefn sy'n cael eu defnyddio er mwyn ategu'r gyllideb sylfaenol a/neu ar gyfer mentrau penodol y mae'r cyngor yn eu cynnig.   Fodd bynnag, nodwyd y dylai Aelodau fod yn ymwybodol o'r gostyngiad mewn cronfeydd wrth gefn a chynaliadwyedd ariannol y cyngor.

Amlygwyd bod tanwariant o £17 mil ar gymhorthion a chyfarpar yn y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai. Gofynnwyd a oedd gan yr Awdurdod y ddarpariaeth i adennill ac ailddefnyddio unrhyw gyfarpar pan fydd preswylydd yn marw. Esboniodd swyddogion fod y tanwariant rhagweledig yn ganlyniad i ddyrannu arian ychwanegol i'r gyllideb honno yn ystod blynyddoedd blaenorol. Cadarnhawyd bod mecanweithiau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

Blaenraglen Waith 2020/21 pdf eicon PDF 428 KB

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Flaenraglen Craffu'r Cabinet ar gyfer 2021/22.