Lleoliad: Via Microsoft Teams
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiad o Gysylltiadau Cofnodion: Gwnaeth yr Aelod canlynol ddatganiad o fudd: Y Cyng. C Clement-Williams - Parthed. Eitem 10 - Gorchmynion Creu neu
Ddiddymu Arfaethedig ar gyfer y llwybr troed o Hodgsons Road i afon Tawe -
Cymuned Ystalyfera - gan fod ganddi deulu sy'n byw yn Hodgsons Road. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 69 KB ·
11 Tachwedd 2020 Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a
gynhaliwyd ar 11 Tachwedd 2020 fel cofnod cywir. |
|
Craffu Cyn Penderfynu ·
Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu
(amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar
agenda'r Cabinet: Ymrwymiad i System TG a ffefrir i Gefnogi
Swyddogaethau Gwasanaethau Cymdeithasol Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am
system TG a ffefrir i gefnogi swyddogaethau'r Gwasanaethau Cymdeithasol. Cynhaliwyd trafodaethau i sicrhau a fyddai'r system
arfaethedig yn gydnaws â'r gwasanaeth Iechyd er mwyn parhau i gydweithio'n
effeithiol. Esboniwyd y byddai'r system TG ei hun yn gwella gwaith tîm am ei
fod yn gwella'r elfennau ymarferol. Tynnwyd sylw at y ffaith y byddai fersiwn wedi'i
diweddaru o Oracle Forms ar gael o fewn yr ychydig flynyddoedd nesaf. Gofynnwyd
sut y byddai ailfodelu'r gwasanaethau i oedolion yn cyd-fynd â'r amserlenni
diweddaru TG. Nodwyd y byddai'r diweddariadau'n gwella ailfodelu'r Gwasanaethau
i Oedolion. Nodwyd, wrth i'r ailfodelu barhau, y byddai'r cyngor yn diweddaru'r
System TG berthnasol yn ôl y gofyn. Trafododd yr Aelodau y dyddiad cynharaf o ran pryd
y byddai'r cyngor yn mudo'n realistig i blatfform WCCIS. Cadarnhaodd swyddogion
na fyddent yn ystyried newid eu barn o fewn y 5 mlynedd nesaf gan eu bod yn
buddsoddi yn eu system eu hunain ar hyn o bryd.
Holwyd ynghylch yr elfennau risg, megis dyrannu
adnoddau staffio TG a phwy fyddai'n ariannu'r gwaith. Sicrhaodd swyddogion yr
aelodau bod gan y tîm y sgiliau i ddatblygu’r system o fewn y tîm ac roedd
cynllun wedi’i ystyried i sicrhau bod adnoddau ar gael o fewn y tîm. Nodwyd
hefyd y byddai cronfeydd cyllideb wrth gefn yn cael eu trosglwyddo o'r
Gwasanaethau Cymdeithasol i'r Tîm TG canolog i dalu'r costau. Gofynnwyd a fyddem dan anfantais am ddefnyddio’n
system TG ein hunain. Sicrhaodd swyddogion na fyddai'r cyngor dan anfantais gan
y byddai'r system TG yn cael ei theilwra'n benodol ar gyfer Castell-nedd Port
Talbot. Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r
cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet. Gorchmynion Creu neu Ddiddymu Arfaethedig ar gyfer
y llwybr troed o Hodgsons Road i afon Tawe - Cymuned Ystalyfera (Cadarnhaodd y Cynghorydd Clement Williams ei budd
ar y pwynt hwn a gadawodd y cyfarfod) Gwnaeth swyddogion ddiwygiad i'r adroddiad, gan
newid yr Ward yr Effeithir arni o 'Ystalyera' i ' Godre'r-Graig’ Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r
cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet. |
|
Cofnodion: Nodwyd y Blaenraglen Waith. |