Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu'r Cabinet - Dydd Iau, 17eg Medi, 2020 2.00 pm

Lleoliad: Remotely via Mocrosoft Teams

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Gwnaeth yr aelodau canlynol ddatganiad o fudd ar ddechrau'r cyfarfod:

 

Y Cynghorydd P Richards     Parthed cynrychiolaeth y cyngor ar gyrff allanol gan mai ef yw cynrychiolydd y cyngor ar gyfer gwasanaethau Gofal a Thrwsio Castell-nedd Port Talbot.

 

Y Cynghorydd S Rahaman    Parthed cynrychiolaeth y cyngor ar gyrff allanol gan ei fod yn un o gynrychiolwyr y cyngor ar Gymdeithas Cymunedau Lleiafrifoedd Ethnig a Du Castell-nedd Port Talbot ac ar hyn o bryd mae'n ysgrifennydd y gymdeithas.

 

Y Cynghorydd S Reynolds    Parthed y newidiadau i gynrychiolaeth Tai Tarian gan mai hi yw cynrychiolydd y cyngor ar fwrdd gwirfoddol Tai Tarian.

 

Y Cynghorydd D Jones         Parthed cynrychiolaeth y cyngor ar gyrff allanol gan ei bod yn un o gynrychiolwyr y cyngor ar Gymdeithas Cymunedau Lleiafrifoedd Ethnig a Du Castell-nedd Port Talbot ac mae'n aelod o fwrdd Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot (CGGCNPT) mewn cymhwyster annibynnol.

 

Y Cynghorydd S Penry          Parthed Cynrychiolaeth y Cyngor ar Gyrff Allanol gan ei bod yn un o gynrychiolwyr y cyngor ar fwrdd Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot (CGGCNPT).

 

Y Cynghorydd L Jones          Parthed Cynrychiolaeth y Cyngor ar Gyrff Allanol gan ei bod yn un o gynrychiolwyr y cyngor ar Gymdeithas Cymunedau Lleiafrifoedd Ethnig a Du Castell-nedd Port Talbot .

 

 Y Cynghorydd N Hunt          Parthed Cynrychiolaeth y Cyngor ar Gyrff Allanol gan ei fod yn aelod o fwrdd Ardal Gwella Busnes Port Talbot (BID) mewn cymhwyster annibynnol.

 

 

2.

Craffu Cyn Penderfynu

·        Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar agenda'r Cabinet:

 

Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020 - 2024

 

Eglurwyd bod Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024 yn cael ei gyflwyno i'r Aelodau mewn dwy ran:

 

·        Rhan un – yr amcanion cydraddoldeb strategol a'r holl wybodaeth berthnasol arall yr oedd yn ofynnol ei chynnwys yn y cynllun er mwyn sicrhau bod y cyngor yn bodloni'r holl reoliadau cydraddoldeb. Soniwyd bod y comisiwn yn gofyn bod yr holl gynlluniau cydraddoldeb strategol ar waith erbyn mis Hydref.

 

Nodwyd bod angen cwblhau gwaith ar y camau gweithredu a fydd yn sail i gyflawni'r amcanion a geir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd; roedd y gwaith hwn eisoes wedi dechrau, gyda thrafodaethau'n cael eu cynnal o fewn y Gymdeithas Cymunedau Lleiafrifoedd Ethnig a Du ac ymhlith y staff, a byddai'n ffurfio cynllun gweithredu.

·        Rhan dau – y cynllun gweithredu ar gyfer cyflawni'r amcanion a gyflwynir i Bwyllgor Craffu'r Cabinet tua diwedd y flwyddyn.

 

Awgrymodd yr Aelodau pan fyddai unigolion yn cyflwyno cais am swydd o fewn y cyngor, y dylid rhoi rhif i'w cais yn hytrach na’u henw er mwyn osgoi unrhyw gysylltiadau â rhyw, ethnigrwydd ac ati. Nodwyd y gellid trafod hyn yn ail ran cyflawni'r cynllun cydraddoldeb strategol, pan fyddai'r camau gweithredu'n cael eu cyflwyno.

 

Cafwyd dyfyniad yn yr adroddiad a ddosbarthwyd sef 'fel person di-Gymraeg sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru, rwyf eisoes yn teimlo bod polisi ac arferion Llywodraeth Cymru yn gwahaniaethu yn fy erbyn'. Gofynnodd yr Aelodau a oedd yr unigolyn wedi rhoi unrhyw fanylion mwy penodol mewn perthynas â'i bryderon. Nodwyd na ddarparwyd rhagor o fanylion, fodd bynnag byddai swyddogion yn ceisio penderfynu beth arall y gallai'r cyngor fod yn ei wneud a pha wybodaeth ychwanegol y gellid ei chasglu mewn ymarferion ymgynghori yn y dyfodol.

 

Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet.

 

Cynrychiolaeth ar Gyrff Allanol

 

(Cadarnhaodd y Cynghorydd S Rahaman ei fudd ar y pwynt hwn a gadawodd y cyfarfod)

 

(Cadarnhaodd y Cynghorydd P Richards ei fudd ar y pwynt hwn a gadawodd y cyfarfod)

 

(Cadarnhaodd y Cynghorydd D Jones ei budd ar y pwynt hwn a gadawodd y cyfarfod)

 

(Cadarnhaodd y Cynghorydd N Hunt ei fudd ar y pwynt hwn a gadawodd y cyfarfod)

 

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad ar Gynrychiolaeth y Cyngor ar Gyrff Allanol i ystyried manteision ac anfanteision

Aelodau'n cael eu cynnwys yn ffurfiol ar fyrddau gwirfoddol detholiad o sefydliadau. Roedd swyddogion wedi cynnig dewisiadau amgen i'r trefniad i amddiffyn Aelodau rhag y gwrthdrawiadau buddiannau a fyddai'n codi mewn perthynas â pharhau â'r trefniadau presennol.

 

Amlygwyd nad oedd canllawiau penodol gan CLlLC ar y mater hwn, ac yn hytrach mater i gynghorau unigol oedd penderfynu pa drefniadau y dylid eu rhoi ar waith a pha rôl roeddent yn rhagweld y byddai eu Haelodau’n ei chael yn y gymuned.

 

O ran yr hyn yr oedd cynghorau eraill wedi'i wneud, nodwyd bod nifer o gynghorau lle nad oedd Aelodau'n rhan o fyrddau a chynghorau eraill lle roeddent yn gwneud hynny,  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.