Lleoliad: Remotely via Teams
Rhif | Eitem |
---|---|
Strategaeth Adferiad PDF 559 KB Cofnodion: Cyflwynwyd strategaeth ddrafft ar sefydlogi i'r
Aelodau, sef y cyfnod rhwng ymateb ac adferiad yn dilyn cychwyniad COVID-19.
Roedd y strategaeth yn cynnwys fframwaith cyffredinol a fyddai'n cefnogi
ymagwedd gyson a chydlynus wrth i'r cyngor symud tuag at adferiad. Nodwyd bod y
strategaeth ddrafft yn cael ei chyflwyno i'r holl Bwyllgorau Craffu er mwyn
iddynt wneud sylwadau cyn ei chyflwyno i'r Cabinet ar 30 Gorffennaf 2020 i'w
chymeradwyo. Rhoddodd swyddogion drosolwg cryno o gynnwys y
strategaeth, gan esbonio ei bod wedi'i rhannu'n dair adran a oedd yn cynnwys
edrych yn ôl ar yr hyn a wnaeth y cyngor yn ystod y cyfnod ymateb i'r argyfwng,
edrych at y dyfodol wrth i'r DU symud o'r cyfnod ymateb a map ffordd o gamau
gweithredu. Nodwyd bod trydedd ran y strategaeth yn cael ei
chyflwyno fel map ffordd o gamau gweithredu - roedd yn dilyn trefn system goleuadau
traffig ac yn nodi sut i symud ymlaen o'r cyfnod dan gyfyngiadau symud llwyr,
drwy'r system goleuadau traffig i sefyllfa lle gall gwasanaethau weithredu
unwaith eto. Amlygwyd mai'r prif reswm dros yr adroddiad hwn
oedd rhoi cyd-destun ar gyfer sefyllfa bresennol pob cyfarwyddiaeth a'r hyn
roeddent wedi'i wneud yn ystod y pandemig. Manylwyd ar hyn yng nghyflwyniad pob
cyfarwyddiaeth. Mynegwyd pryder am y gwrthdaro rhwng trefniadau
aelodaeth pwyllgor craffu'r cabinet ac aelodau'r panel adferiad. Bydd
swyddogion yn archwilio hyn yn fanylach ac yn rhoi cyngor yn ôl yr angen. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau
Corfforaethol y diweddaraf am faterion ariannol yn dilyn cychwyniad diweddar
COVID-19. Nodwyd y byddai adroddiad cyllideb pellach yn cael ei gyflwyno i'r
Cabinet ym mis Medi a fydd yn manylu ar y sefyllfa ariannol arfaethedig ar
gyfer gweddill 2020-2021 ac yn egluro cyfleoedd ariannu pellach. Cafwyd trafodaethau ynghylch sicrhau bod y cyngor
yn cyfathrebu â'r cyhoedd yn gywir. Nodwyd bod cynnwys y cyhoedd yn hanfodol ac
felly byddai prif bwyntiau'r adroddiad a oedd yn ymwneud â chyfathrebu'n cael
eu hegluro cyn eu cyflwyno i'r Cabinet ym mis Gorffennaf. Nodwyd efallai y byddai Pwyllgor Craffu'r Cabinet
yn dymuno cynnwys y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn eu Blaenraglen Waith er
mwyn craffu ymhellach a gweld yr effeithiau y mae COVID-19 wedi'u cael ar
feysydd megis yr economi a chydraddoldebau. Edrychodd Aelodau ymlaen at gael y diweddaraf am
fonitro'r strategaeth yn sesiynau'r dyfodol.
|
|
Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol - Cynlluniau Cyflenwi ac Adfer Gwasanaethau Cyfredol PDF 137 KB Cofnodion: Rhoddodd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau
Corfforaethol drosolwg cryno o'r gwaith a wnaed gan y gyfarwyddiaeth yn ystod
pandemig COVID-19. Caiff aelodau eu diweddaru'n rheolaidd am gylch y
gyllideb flynyddol yng nghyfarfodydd y pwyllgor craffu. Rhoddwyd gwybodaeth
iddynt am yr effaith a gafwyd ar y gwasanaethau canlynol oherwydd pandemig
COVID-19 a'r galw am y gwasanaethau hynny: ·
Gwasanaethau Cyfreithiol ·
Adnoddau Dynol a ·
Gwasanaethau Ariannol. Canmolwyd y Gwasanaethau Cyfreithiol am barhau i
gael y diweddaraf am newidiadau i ddeddfwriaeth yn ystod y cyfnodau digynsail
hyn, i sicrhau bod y cyngor yn gweithio'n effeithlon. Nodwyd bod y cyngor wedi parhau i dalu'r holl staff
yn ystod y pandemig hwn ac wedi rhoi cymorth i fusnesau gyda'u hardrethi
busnes. Canmolwyd y staff gan Gadeirydd y Pwyllgorau
Cynllunio a Thrwyddedu am safon eu gwaith ac am roi cefnogaeth i'r pwyllgor er
mwyn ei gynnal o bell. Nododd y pwyllgor y diweddariad. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd aelodau gyflwyniad am y cyflwyniad
gwasanaeth a ddarperir ar hyn o bryd a'r cynlluniau adferiad ar gyfer y
gwasanaethau polisi, democrataidd a digidol, a ddosbarthwyd cyn y cyfarfod. Nodwyd bod gwasanaethau megis y Tîm Cyfathrebiadau
wedi gorfod cynyddu oriau a hyd eu hwythnos gwaith i ateb y galw. Amlygwyd bod pandemig COVID-19 wedi rhoi llawer o
syniadau newydd i fusnesau y gallant eu defnyddio, megis roedd y Tîm
Cyfathrebiadau'n postio fideos ar-lein, yn darparu arwyddion yn y fwrdeistref
sirol ac yn cadw mewn cysylltiad â'r cyhoedd drwy alwadau ffôn yn ogystal â
thrwy gyhoeddi’u datganiadau arferol i'r wasg. Roedd y galw wedi bod yn uchel hefyd yn Adran y
Gwasanaethau Digidol wrth sicrhau bod y gweithlu'n gallu gweithio gartref.
Roeddent wedi darparu gwasanaethau ar-lein er mwyn ateb y galw megis ar wefan
leol, drwy'r Chat Bot, Chat Live a thrwy roi cyngor gyda Threth y Cyngor
ar-lein. Rhoddwyd y diweddaraf i aelodau am y gwaith a wnaed
gan yr Adran Gwasanaethau Democrataidd i sicrhau y gellid cynnal cyfarfodydd
pwyllgor o bell. Roeddent yn rhoi'r cyngor a'r arweiniad diweddaraf am
newidiadau i aelodau'n rheolaidd drwy alwadau lles, camau gweithredu brys a
gwefan holi ac ateb. Fe'u canmolwyd am alluogi i gyfarfodydd o bell fynd yn eu
blaenau ar ôl i ddeddfwriaeth gael ei diwygio, a nodwyd mai Castell-nedd Port
Talbot oedd yr awdurdod cyntaf i gynnal cyfarfod o'r cyngor o bell. Pwysleisiwyd y cydweithio a gafwyd rhwng adrannau
gwahanol ac fe'i hanogwyd ar gyfer y dyfodol. Nodwyd bod dyletswyddau'r Gymraeg wedi'u llacio
oherwydd effaith COVID-19 ar y gweithlu, fodd bynnag mae swyddogion yn gweithio
i ailddechrau gwasanaethau dwyieithog yn y dyfodol agos. Cafwyd trafodaethau am sut y bydd blaenoriaethau'n
wahanol yn y dyfodol oherwydd effaith COVID-19. Nodwyd bod y pwyllgor craffu'n
canolbwyntio ar flaenoriaethu'r hyn sy’n bwysig iddo’i ystyried yn ei
Flaenraglen Waith, megis y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Roedd aelodau'n falch o nodi'r diweddariadau gan
bob Cyfarwyddiaeth a chytunwyd y byddai sesiwn ar y Blaenraglen Waith yn cael
ei threfnu ar gyfer yr hydref er mwyn canolbwyntio ar y prif bynciau a
drafodwyd yn y cyflwyniadau i helpu gyda'r cam adferiad. |