Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Remotely via Teams

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Gwnaeth yr aelod canlynol ddatganiad o fuddiant ar ddechrau'r cyfarfod:

 

Y Cynghorydd S Reynolds: Parthed cynllun 'Safe and Well' CNPT – Cymorth dyngarol a ddarparwyd gan y cyngor mewn ymateb i bandemig COVID-19 (papurau'r Cabinet), gan mai hi yw rheolwr gweithredol gwirfoddol Canolfan Maerdy ac mae'n un o'r ymddiriedolwyr

 

2.

Craffu Cyn Penderfynu

·        Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet ar gufer yr Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar agenda'r Cabinet:

Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg 2019-2020

Croesawodd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg ar gyfer 2019-2020.

Roedd yr Aelodau'n falch o glywed, o edrych ar yr ystadegau, fod nifer y staff a gofrestrodd i ddysgu Cymraeg wedi cynyddu. 

Gofynnwyd a fyddai effeithiau COVID-19, yn arbennig adleoli staff, yn cael effaith gyffredinol ar y gwaith yr oedd Grŵp Swyddogion y Gymraeg wedi'i gynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf. Cadarnhaodd swyddogion fod y pandemig yn effeithio ar waith y grŵp; canslwyd cyfarfodydd y grŵp a chafodd rhai o'r swyddogion dan sylw eu hadleoli. Fodd bynnag, nodwyd bod rhai swyddogion wedi dechrau dychwelyd i'w swyddi go iawn, ac roedd cynlluniau ar waith i gynnal cyfarfod ym mis Medi lle byddai'r grŵp yn trafod canlyniadau'r adolygiad o'r ymarfer siopwr dirgel, gwerthusiadau o'r hyfforddiant a dderbyniodd rheolwyr atebol ym mis Mawrth 2020 a'r rhaglen waith wedi'i hail-flaenoriaethu am weddill y flwyddyn.

Yn yr adroddiad a ddosbarthwyd dywedwyd bod yr achosion o COVID-19 yn golygu y gwnaed newidiadau sylweddol i'r ffordd yr oedd y cyngor yn gweithredu ac oherwydd y sgiliau ieithyddol mewnol cyfyngedig, effeithiwyd ar allu'r cyngor i ddarparu cyfathrebiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg ei am gyfnod o amser. Tynnwyd sylw at y ffaith bod cynnydd wedi'i wneud ers hynny a bod y cyngor bellach yn cyhoeddi fersiynau Cymraeg a Saesneg o ddatganiadau i'r wasg ac wedi ailddechrau cyfrifon cyfryngau cymdeithasol Cymraeg a Saesneg; lle byddai post yn cael ei rannu gan drydydd parti, a oedd ar gael yn Saesneg yn unig, byddai staff yn ychwanegu sylwadau priodol yn Gymraeg ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol Cymraeg. Soniodd swyddogion hefyd fod fideo 'Buy Local Welcome Back to Pontardawe' CNPT yn cynnwys perchnogion siopau Cymraeg a Saesneg a darparwyd isdeitlau ar gyfer y ddwy iaith. Cadarnhawyd hefyd fod y cyfrifon Cymraeg yn cael eu monitro ar gyfer negeseuon a lle'r oedd angen ymateb, byddai'n cael ei ddarparu yn Gymraeg. Hysbyswyd yr Aelodau mai'r darn nesaf o waith allweddol fyddai edrych ar dudalennau COVID-19 ar wefan y cyngor, lle'r oedd archwiliad eisoes wedi dechrau i ddileu gwybodaeth nad oedd yn berthnasol; byddai'r wybodaeth sy'n gorfod aros ar y wefan yn cael ei chyfieithu'n dilyn hyn.

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

'Safe and Well' CNPT – Cymorth dyngarol a ddarparwyd gan y cyngor mewn ymateb i'r pandemig COVID-19

Cafwyd trafodaeth mewn perthynas â'r rheini a oedd â hawl i gael cymorth gan y gwasanaeth 'Safe and Well', yn dilyn pryder yr Aelodau nad oedd y rhestr cymhwysedd yn cynnwys cleifion iechyd meddwl, yn arbennig y cleifion nad oeddent wedi derbyn llythyr gwarchod gan y GIG. Nodwyd gan fod unigolion sydd ar hyn o bryd yn derbyn cefnogaeth gan y gwasanaeth Safe and Well bellach yn cael eu trosglwyddo, a'u bod yn bobl yr oedd gan staff bryderon amdanynt, fod y gwasanaethau cymdeithasol yn ymwneud â hyn i sicrhau bod cymorth priodol ar gael. Gofynnwyd i'r Aelodau gyfeirio unrhyw unigolion yr oeddent yn pryderu amdanynt,  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.