Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu'r Cabinet - Dydd Mercher, 19eg Chwefror, 2020 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Canolfan Ddinesig Port Talbot. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datganiadau o gysylltiadau

Cofnodion:

Gwnaeth yr aelod canlynol ddatganiad o fudd ar ddechrau'r cyfarfod:

 

Y Cynghorydd S Reynolds: Parthed Polisi Hysbysebu a Noddi (papurau Bwrdd y Cabinet) gan mai hi yw cynrychiolydd yr awdurdod ar gyfer sefydliadau trydydd sector amrywiol.

 

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 65 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd blaenorol a gynhaliwyd ar 30 Hydref, 20 Tachwedd, 9 Rhagfyr 2019 a 10 Ionawr 2020.

 

 

3.

Craffu cyn penderfynu

·        Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet ar gufer yr Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar agenda'r Cabinet:

 

Sefydlu Cadetiaid y Maer

 

Canmolodd yr aelodau ymrwymiad y cyngor at bobl ifanc, a fyddai'n helpu iddynt gael profiadau yn y dyfodol. 

 

Nododd yr aelodau y penodir tri chadét y Maer ar gyfer pob blwyddyn ddinesig o fis Mai 2020. Byddai'r rhain yn cael eu dewis o aelodau'r fyddin, y llynges frenhinol a Chadetiaid yr Awyrlu Brenhinol. Byddai darn o waith yn cael ei gynnal ar gyfer estyn y cyfrifoldeb i gynnwys cadetiaid eraill, megis yr heddlu, y gwasanaeth ambiwlans a'r gwasanaeth tân.

 

Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet.

 

Polisi Hysbysebu a Noddi

 

Trafodwyd cwmpas y polisi yn unol â chaffael corfforaethol/moesegol, tendro a chreu incwm. Trafodwyd y trefniadau presennol ynghylch noddi cylchfannau ac a fyddai'r trefniadau hyn yn parhau neu'n cael eu cyflawni'n fewnol ar ddiwedd cyfnod y contract cyfredol.

 

Roedd y pynciau eraill a drafodwyd yn cynnwys:

 

·        Ceisiadau cynllunio a chaniatâd priffyrdd

·        Cydweithio â sefydliadau trydydd sector

·         Sicrhau bod hysbysebu'n parchu'r amgylchedd.

 

Oherwydd newidiadau diweddar i bortffolio aelodau'r Cabinet, nododd yr aelodau y dylid newid y cyfeiriadau at y Dirprwy Arweinydd yn y polisi, fel y manylwyd yn nhudalen 53 adroddiad Bwrdd y Cabinet a ddosbarthwyd o 'Ddirprwy Arweinydd' i 'Aelod y Cabinet Dros Gyllid'.

 

Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet.

 

4.

Blaenraglen Waith 2019-20 pdf eicon PDF 83 KB

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Blaenraglen Waith ar gyfer 2019/2020.