Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu'r Cabinet - Dydd Mercher, 12fed Chwefror, 2020 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Canolfan Ddinesig Port Talbot. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Craffu Cyn Penderfyniad

Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet ar gufer yr Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar agenda'r Cabinet:

 

Ymateb ar y cyd i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015

 

Trafododd yr aelodau gwmpas y Ddeddf mewn perthynas รข'r gwasanaethau a'r gefnogaeth a gynigir yn lleol. Gall dynion a menywod gael mynediad at y gwasanaethau hyn yr un mor hawdd, ac mae nifer o ddynion eisoes wedi derbyn cymorth yn yr ardal leol.

 

Tueddiad a nodwyd yn ddiweddar oedd cam-drin domestig gan blant tuag at eu rhieni. Gellir cynnig cymorth hefyd i bobl hŷn sydd wedi profi cam-drin emosiynol neu ariannol gan eu partneriaid.

 

Mae gwaith partneriaeth yn allweddol, a chafodd trinwyr gwallt lleol eu briffio ynghylch ble i gyfeirio dioddefwyr cam-drin domestig/trais posib, oherwydd y gallai rhai cleientiaid fod yn fwy parod i ddweud pethau personol neu rannu gwybodaeth gyda thrinwyr gwallt. Roedd hyn yn nodi'r dulliau gwahanol y mae angen eu defnyddio i hybu pobl wahanol i gyfaddef.

 

Enghraifft weithredol arall o weithio mewn partneriaeth oedd yr heddlu, sy'n rhannu gwybodaeth am adroddiadau o gam-drin domestig gydag ysgolion. Gellid monitro a rhoi cymorth i ddisgyblion y mae eu rhieni wedi profi cam-drin domestig dros y penwythnos neu'r gwyliau ysgol lle bo angen.

 

Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet.

 

 

2.

Blaenraglen Waith 2019-20 pdf eicon PDF 83 KB

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Blaenraglen Waith ar gyfer 2019/2020.