Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot and Microsoft Teams
Cyswllt: Charlotte Davies - 01639 763745
Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|||
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|||
Craffu Cyn Penderfynu Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet aa gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Cyflwyno
Cais Porthladd Rhydd Croesawodd
y Cadeirydd Andrew Harston, Alice Jones a Mike Stacy o Gymdeithas Porthladdoedd
Prydain yn ogystal â David Gwynne o Eurus Consulting i'r cyfarfod. Cyflwynodd
swyddogion yr adroddiad a darparwyd gwybodaeth mewn perthynas â chais i
lywodraethau Cymru a'r DU am Borthladd Rhydd a oedd yn cynnwys porth Port
Talbot a phorth Aberdaugleddau a'r ardaloedd cyfagos. Nododd
aelodau'r camgymeriad yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, mewn perthynas â thudalen
10 a oedd yn dweud "Mae hyn yn cynnwys £21 miliwn (neu fwy o bosib)".
Dylai darllen £25 miliwn. Gofynnodd
yr aelodau am eglurder ynghylch y goblygiadau ariannol sy'n tynnu sylw at y
ffaith y byddai £1m o gyllid gan y Llywodraeth ar gael ar gyfer datblygiadau.
Cadarnhaodd y swyddogion y byddai hwn yn swm untro i gefnogi'r cynigiwr i
gefnogi'r cais o'r cam amlinellu i'r cam achos busnes terfynol yn unol â
rheolau Llyfr Gwyrdd y Trysorlys. Byddai angen datblygu model busnes mewn
perthynas ag unrhyw gostau parhaus. Tynnodd
aelodau sylw at y datganiad o argyfwng hinsawdd diweddar a gofynnwyd beth
fyddai'r goblygiadau wrth adeiladu'r datblygiad hwn. Dywedodd swyddogion gydag
unrhyw waith adeiladu byddai cynnydd mewn allyriadau o ganlyniad i draffig
Cerbydau Masnachol Trwm, fodd bynnag, bydd y datblygiad er budd bioamrywiaeth a
throsglwyddo i ynni adnewyddadwy a fyddai'n lleihau'r ôl troed carbon. Cynhaliwyd
trafodaethau ynghylch y costau a'r adnoddau posib. Tynnwyd sylw at y pwysau y
mae swyddogion wedi'i brofi yn ystod y blynyddoedd diwethaf gyda'r pandemig a
phrosiectau mawr eraill y mae'r cyngor wedi cofrestru ar eu cyfer. Roedd
aelodau'n bryderus am y pwysau hwn. Cytunodd y Prif Weithredwr fod swyddogion
wedi bod dan bwysau o ganlyniad i'r pandemig a phrosiectau eraill a rhoddwyd
sicrwydd i'r aelodau y byddai adnoddau'n cael eu hystyried yn barhaus wrth
symud ymlaen. |
|||
Mynediad i gyfarfodydd Mynediad i gyfarfodydd
i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol
yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r
paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod. Cofnodion:
|
|||
Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu Dewis eitemau priodol
o Agenda Bwrdd y Cabinet ar
gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir
adroddiadau Bwrdd y Cabinet
ar gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Cyflwyniad
Porth Rhydd - Atodiad B Derbyniodd
aelodau gyflwyniad gan Andrew Harston, Alice Jones o Gymdeithas Porthladdoedd
Prydain a David Gwynne o Eurus Consulting mewn perthynas ag elfennau
preifat yr adroddiad a nodwyd o fewn Cyflwyniad Porth Rhydd - Atodiad B. |
|||
- Sesiwn Gyhoeddus - Cofnodion: Penderfynodd
yr aelodau symud yn ôl i sesiwn gyhoeddus. |
|||
Craffu Cyn Penderfynu Cofnodion: Cyflwyno Cais
Porthladd Rhydd Rhoddodd y Cadeirydd grynodeb
o'r trafodaethau a chyfeiriwyd at yr argymhellion a restrwyd ar dudalen 12 yr
adroddiad a ddosbarthwyd. Cynigiwyd ac eiliwyd y
diwygiad canlynol i bwynt bwled rhif 2 yn yr argymhellion gan yr aelodau: 'Rhoddodd aelodau awdurdod
dirprwyedig i'r Prif Swyddog Gweithredol, mewn ymgynghoriad â'r Arweinydd, ac
Aelodau’r Cabinet dros Gynllunio Strategol, Trafnidiaeth a Chysylltedd ac
Adfywio'r Economi a Chymunedau l gytuno ar ddiwygiadau i'r Cais cyn ei
gyflwyniad terfynol i Lywodraeth Cymru' Yn dilyn y bleidlais, methodd
y diwygiad ac felly ni chaiff ei gefnogi. Cynigiwyd ac eiliwyd yr
argymhelliad gwreiddiol fel y manylir isod gan yr aelodau: Argymhellir,
gan roi sylw dyledus i'r Asesiad Sgrinio Effaith Integredig: ·
Bydd aelodau'n cymeradwyo cyflwyno cais am Borthladd Rhydd sy'n cynnwys
porth Port Talbot a phorth Aberdaugleddau a'r ardaloedd cyfagos yn y ffurflen a
ychwanegir at Atodiad B, yn destun unrhyw amrywiadau y bydd angen eu gwneud cyn
ei gyflwyno. ·
Bydd aelodau'n rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Prif Weithredwr, mewn
ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor, gytuno ar ddiwygiadau i'r cais cyn ei
gyflwyniad terfynol i Lywodraeth Cymru ·
Bydd aelodau'n cymeradwyo enwebiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd
Port Talbot fel y Corff Atebol ar gyfer y Porthladd Rhydd arfaethedig. ·
Bydd aelodau'n rhoi'r awdurdod i Arweinydd y Cyngor gyflwyno llythyr i
Lywodraeth Cymru sy'n adlewyrchu cefnogaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol
Castell-nedd Port Talbot o borthladd rhydd sy'n cynnwys porth Port Talbot a
phorth Aberdaugleddau. ·
Bydd aelodau'n rhoi'r awdurdod i'r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad
â'r Arweinydd, weithredu mewn ffordd a all fod yn angenrheidiol i hyrwyddo
rhinweddau'r cais ar ôl ei gyflwyno hyd at benderfyniadau'r Gweinidogion ar
lwyddiant y cais, neu fel arall. Yn
dilyn craffu, roedd aelodau'n gefnogol o drosglwyddo'r argymhelliad hwn i'r
Cabinet. |
|||
Eitemau brys (Unrhyw eitemau
brys (boed yn gyhoeddus neu
wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn
y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972) Cofnodion: Ni
chafwyd unrhyw eitemau brys. |