Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu'r Cabinet - Dydd Mercher, 9fed Mehefin, 2021 2.00 pm

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Cyswllt: Charlotte Davies / Chloe Plowman - 01639 763745 / 01639 763301 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Craffu Cyn Penderfynu

·        Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)

 

Cofnodion:

Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar agenda'r Cabinet:

 

Cronfa Codi'r Gwastad y DU - cynigion prosiect Castell-nedd Port Talbot

 

Rhoddwyd diweddariad a chyflwyniad i'r aelodau ar y pecyn arfaethedig o gynigion ar gyfer etholaethau Castell-nedd ac Aberafan er mwyn cyflwyno cais am gyllid gan Gronfa Codi'r Gwastad y DU i Lywodraeth y DU.

 

Mynegodd yr aelodau eu pryderon ynghylch darparu Cronfa Codi'r Gwastad y DU, fodd bynnag roeddent yn croesawu'r cynnig am gyllid.

 

Cafwyd trafodaethau ynghylch cau banciau ar draws y DU a p'un a oedd y cyngor mewn sefyllfa i atal adeiladau banciau rhag cael eu prynu drwy ddefnyddio'r grant eiddo masnachol, a'u defnyddio at ddibenion eraill gan fod hen fanciau yn adeiladau pwysig yn y gymuned.

 

Soniwyd bod trafnidiaeth yn flaenoriaeth a bod swyddogion yn cydnabod bod trafnidiaeth yn hollbwysig i sicrhau bod cysylltedd ar gyfer twristiaeth a chyflogaeth. Nodwyd bod swyddogion yn archwilio ffyrdd o wneud trafnidiaeth gymunedol yn fwy cynaliadwy  dan y gronfa hon.

 

Cafwyd trafodaethau am amserlenni cynhyrchu ceisiadau ar gyfer y cais, a nodwyd bod y broses o gasglu a chynhyrchu'r ceisiadau yn un gyflym iawn. Awgrymwyd yn y dyfodol y byddai angen cynyddu nifer y timau sy'n paratoi ceisiadau er mwyn helpu i ddatblygu'r cynigion wrth wynebu amserlenni byr iawn.

 

Roedd yr aelodau'n awyddus i weld budd go iawn ac effaith gadarnhaol i'r cymoedd yn dilyn derbyn buddsoddiad Cronfa Codi'r Gwastad y DU.

 

Gofynnodd yr aelodau am esboniad ynghylch yr hyn a olygir gan gynnwys y cyngor fel Awdurdod Lleol Categori 1 ym meini prawf Cronfa Codi'r Gwastad y DU. Cadarnhaodd swyddogion y byddent yn darparu gwybodaeth y tu hwnt i'r cyfarfod ynghylch sut mae Castell-nedd Port Talbot yn rhan o Gategori 1.

 

Roedd yr aelodau eisiau eglurder mewn perthynas â chyfranogaeth ysgolion cymunedol yn y broses ymgynghori. Esboniodd swyddogion nad oedd digon o amser wedi bod i ymgynghori â phawb, fodd bynnag amlygwyd bod nifer o randdeiliaid yr ymgynghorwyd â nhw, megis ASau Castell-nedd ac Aberafan, cynrychiolwyr y Sector Preifat a'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

Canmolodd yr aelodau y tîm am eu gwaith caled i gyflwyno'r cynigion o fewn amserlenni mor dynn.

 

Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet.

 

2.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 71 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Blaenraglen Waith.