Lleoliad: Via Microsoft Teams
Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Gwnaeth
yr aelodau canlynol ddatganiad o fudd ar ddechrau'r cyfarfod: Y Cynghorydd Nigel Hunt
Parthed: Estyn y Cymorth Grant i Fusnesau yr effeithiwyd arnynt gan gyfyngiadau
masnachu ychwanegol ym mis Mawrth 2021, gan ei fod yn derbyn y grant cymorth i
fusnesau. Y Cynghorydd Saif Rahaman
Parthed: Estyn y Cymorth Grant i Fusnesau yr effeithiwyd arnynt gan gyfyngiadau
masnachu ychwanegol ym mis Mawrth 2021, gan ei fod yn berchen ar fusnes. Y Cynghorydd Linet
Purcell Parthed: Estyn y Cymorth Grant i
Fusnesau yr effeithiwyd arnynt gan gyfyngiadau masnachu ychwanegol ym mis
Mawrth 2021, gan fod aelod o'r teulu'n derbyn y grant cymorth i fusnesau. Y Cynghorydd Rhidian Mizen
Parthed: Estyn y Cymorth Grant i Fusnesau yr effeithiwyd arnynt gan gyfyngiadau
masnachu ychwanegol ym mis Mawrth 2021, gan ei fod yn ysgrifennydd cymdeithasol
Cwm Rygbi Cwmafan. Y Cynghorydd Sharon Freeguard Parthed: Estyn y Cymorth
Grant i Fusnesau yr effeithiwyd arnynt gan gyfyngiadau masnachu ychwanegol ym
mis Mawrth 2021, gan ei fod yn aelod o fwrdd Age Connects CNPT. |
|||
Eitemau brys Unrhyw
eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn y
Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth
Leol 1972. Cofnodion: Oherwydd
yr angen i ymdrin â'r materion sydd wedi'u cynnwys yng Nghofnod Rhif. 3 isod,
cytunodd y Cadeirydd y gellid codi'r eitemau hyn yng nghyfarfod heddiw fel
eitemau brys yn unol ag Offeryn Statudol Rhif 2290 (fel y'i diwygiwyd) Rheswm
dros y mater brys: Oherwydd
yr elfen amser. |
|||
Estyn y Cymorth Grant i Fusnesau yr effeithiwyd arnynt gan gyfyngiadau masnachu ychwanegol ym mis Mawrth 2021. Cofnodion: (Ar
y pwynt hwn o'r cyfarfod, atgyfnerthodd y Cynghorwyr N Hunt, S Rahaman, S
Knoyle, R Mixen, L Purcell ac S Freeguard eu budd â'r eitem hon a gadawsant y
cyfarfod ar gyfer y drafodaeth a'r bleidlais). Hysbyswyd
yr aelodau am estyniad i'r cynllun cymorth grant presennol, a oedd yn
galluogi'r cyngor i wneud taliadau grant o £4,000 a £5,000 i fusnesau cymwys
yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae hyn yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth
Cymru ar barhad y cyfyngiadau a ddaeth i rym ar 20 Rhagfyr 2020 i fis Mawrth
2021. Nododd
aelodau, gyda'r estyniad hwn ni fyddai unrhyw gymorth dewisol ar gael i
fasnachwyr unigol fel yr oedd ar gael gynt yn y rownd flaenorol. Nodwyd bod hwn
yn gyfnod anodd i fusnesau o hyd ac y byddai rhai busnesau'n dibynnu ar y
cymorth dewisol hynny, felly awgrymwyd y dylai sylwadau gael eu hanfon i
Lywodraeth Cymru yn gofyn am gymorth ychwanegol. Hysbysodd swyddogion yr
aelodau eu bod wedi gofyn am gyllid ychwanegol ar gyfer cymorth dewisol ac y
darparwyd £300,000 ychwanegol, sy'n golygu y byddai arian ar gael ar gyfer 135
grant. Yn
dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried
gan y Cabinet. |
|||
Mynediad i gyfarfodydd Cofnodion: )Ailymunodd y Cynghorwyr N
Hunt, S Rahaman, S Knoyle, R Mizen, L Purcell ac S Freeguard â'r cyfarfod)
|
|||
Craffu ar Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu · Dewis eitemau preifat priodol
o agenda cyn craffu Bwrdd y Cabinet (Adroddiadau Bwrdd y Cabinet yn amgaeedig
ar gyfer yr aelodau craffu). Cofnodion: Craffodd
y pwyllgor ar yr eitem breifat ganlynol ar agenda'r Cabinet: Y
Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Rheilffyrdd yng Nghymru Rhoddwyd
y diweddaraf i aelodau am sefyllfa bresennol y Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer
Rheilffyrdd yng Nghymru, fel a fanylwyd o fewn yr adroddiad a ddosbarthwyd yn
breifat. Yn
dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd
y Cabinet. |