Agenda a Chofnodion

Special, Pwyllgor Craffu'r Cabinet - Dydd Mercher, 5ed Ionawr, 2022 2.00 pm

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Cyswllt: Charlotte Davies / Chloe Plowman - 01639 763745 / 01639 763301 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Gwnaeth yr aelod canlynol ddatganiad o fudd ar

ddechrau'r cyfarfod:

 

Y Cyng. M Harvey                            Parthed: Mae'r Ymgynghoriad ar Gyllideb Ddrafft 2022/23 fel Atodiad 1 yn cyfeirio at deledu cylch cyfyng ac mae'n cael ei gyflogi gan Heddlu De Cymru.

 

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 216 KB

·        1 Medi 2021

·        22 Medi 2021

·        17 Tachwedd 2021

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 1 Medi 2021, 22 Medi 2021 a 17 Tachwedd 2021, yn amodol ar y sylwadau canlynol ar y cofnodion dyddiedig 1 Medi 2021:

Wrth graffu ar yr eitem agenda sy'n ymwneud â 'Rheoli Risgiau a Chyfrifoldebau mewn perthynas â Thomenni Glofeydd a Chwareli Segur o fewn yr awdurdod a rheoli Diogelwch Tomenni Glo yn y dyfodol', nododd yr aelodau bryder, er bod y cyfrifoldeb am gynnal a chadw Tomenni Glo o fewn perchnogaeth y Fwrdeistref Sirol a Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU oedd yn parhau i fanteisio ar y glo/mwynau.

 

 

3.

Craffu Cyn Penderfynu

·        Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet:

Cynllun Corfforaethol 2022-2027 - Adfer, Ailosod, Adnewyddu

Derbyniodd yr aelodau adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth i ymgynghori ar Gynllun Corfforaethol diweddaredig ar gyfer y cyfnod 2022-2027.

Dywedodd y Prif Weithredwr fod yr adroddiad yn cyfleu ymateb y cyngor i'r pandemig, ac yn nodi'r effeithiau ar gymunedau a'r economi leol; roedd yr effeithiau wedi newid cyd-destun y ffordd yr oedd angen i'r cyngor gynllunio wrth symud ymlaen. Nodwyd bod gan y cyngor ddyletswydd statudol i lunio'r cynlluniau hyn a bu'n rhaid iddo ystyried, fel rhan o'r gwaith hwn, a oedd yr amcanion lles blaenorol yn parhau'n briodol neu a oedd angen eu newid; daethpwyd i'r casgliad bod angen diwygio'r amcanion lles yng ngoleuni’r newid cyd-destun. Roedd rhan arall o'r gwaith hwn a amlygwyd yn cynnwys edrych ymlaen at nodi ffactorau amrywiol a fyddai'n cael effaith yn y dyfodol megis newid yn yr hinsawdd, setliadau ariannol a rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru ei hun.

Nodwyd bod yr adroddiad a ddosbarthwyd hefyd yn crynhoi'r camau adfer cychwynnol yr oedd y cyngor wedi'u cymryd; roedd camau yn erbyn adferiad wedi mynd rhagddynt pan allent, gan ddibynnu ar sefyllfa'r pandemig. Un o’r darnau gwaith y dywedodd swyddogion eu bod wedi cwblhau oedd nodi'r blaenoriaethau ar gyfer y cam nesaf, a oedd wedi'u rhannu'n bedwar amcan lles newydd:

1.   Y dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn a pherson ifanc;

2.   Adeiladu cymunedau ffyniannus a chynaliadwy drwy ddefnyddio'r cryfderau a welwyd mewn cymunedau yn ystod y pandemig;

3.   Rhoi blaenoriaeth uwch i'r gwaith a wneir sy’n ymwneud â’r amgylchedd, diwylliant a threftadaeth leol;

4.   Adnewyddu a dwysáu gwaith er mwyn creu swyddi gwyrdd o ansawdd da yn yr ardal, a helpu pobl leol i ennill y sgiliau a'r hyder i ymgymryd â'r gyflogaeth honno.

 

Dywedodd swyddogion y bydd angen i raglen newid sefydliadol sylweddol o fewn y cyngor fod yn sail i’r holl waith hwn, wrth ddatblygu'r Cynllun Corfforaethol, roedd swyddogion wedi cysylltu ag aelodau ynghylch y mathau o newidiadau i'r diwylliant a'r ffyrdd o weithio y bydd angen eu cyflwyno. Soniwyd bod bod yn un fel cyngor wrth wraidd y newid hwn, yn ystod y pandemig, roedd llawer o adrannau ar draws cyngor wedi dod at ei gilydd fel tîm, ac roedd seilos rhwng adrannau wedi'u dadansoddi. Ychwanegodd y Prif Weithredwr y byddai hyn yn rhan bwysig iawn o'r ffordd y mae'r cyngor yn symud yn ei flaen.

Nodwyd mai un elfen nad oedd wedi'i chwblhau eto oedd cyfrifo'r mesurau mewn perthynas â'r amcanion lles newydd; roedd rhywfaint o waith i'w gwblhau dros yr wythnosau nesaf i sicrhau y gallai'r cyngor ddangos y gwahaniaeth y bydd y rhain yn ei wneud. Tynnwyd sylw at y ffaith y bydd gan swyddogion ddiddordeb mewn unrhyw farn a allai fod gan y cyhoedd am y ffyrdd y gallai'r cyngor fesur llwyddiant fel rhan o'r ymgynghoriad. Hysbyswyd y pwyllgor y bydd cyfle i'r weinyddiaeth newydd gynnal adolygiad pellach o flaenoriaethau a pholisïau'r cynghorau ar ôl yr  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.