Lleoliad: Via Microsoft Teams
Cyswllt: Charlotte Davies / Chloe Plowman - 01639 763745 / 01639 763301
Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
Craffu Cyn Penderfynu ·
Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu
(amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet: Rheoli Risgiau a Chyfrifoldebau mewn perthynas â Thomenni
Glofeydd a Chwareli Segur o fewn yr Awdurdod a rheoli Diogelwch Tomenni Glo yn
y dyfodol. Cynghorwyd yr aelodau am y risgiau a'r cyfrifoldebau sy'n gysylltiedig
â'r tomenni gwastraff glofeydd a chwareli hanesyddol yn yr awdurdod.
Diweddarwyd yr aelodau hefyd am waith Tasglu Diogelwch Tomenni Glo Llywodraeth
Cymru ac ymarfer ymgynghori Comisiwn y Gyfraith ar reoli Diogelwch Tomenni Glo
yng Nghymru yn y dyfodol, fel a fanylwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Rhannodd yr aelodau bryderon am y cyfrifoldebau y mae perchnogion tir
preifat a’r awdurdod lleol bellach yn gyfrifol amdanynt. Teimlwyd mai diben yr
awdurdod glo oedd rheoli'r safleoedd hyn, fodd bynnag perchnogion tir oedd yn
gyfrifol am gynnal y tomenni hyn yn awr, sy'n cael effaith ar gost. Gofynnwyd
i'r pryderon hyn gael eu mynegi i Gomisiwn y Gyfraith. Roedd swyddogion yn
deall y pryderon a fynegwyd gan aelodau a gwnaethant sicrhau'r aelodau eu bod
hefyd wedi mynegi'r un pryderon i Lywodraeth Cymru. Nodwyd y cafwyd
trafodaethau am gyllid posib a allai fod ar gael i helpu i ariannu'r costau hyn
a roddwyd i'r perchnogion tir preifat. Mynegodd yr aelodau ymhellach yr hoffent roi ystyriaeth yn ysgrifenedig
i Gomisiwn y Gyfraith, gan fynegi'r pryderon am y cyfrifoldebau ynghylch
monitro a chynnal a chadw, y mae'r perchnogion tir bellach yn gyfrifol
amdanynt. Gofynnodd yr aelodau pa fonitro a wnaed ynghylch tomenni gwastraff
cloddio glo brig. Nodwyd bod y pyllau glo brig mawr yn y fwrdeistref sirol
wedi'u dylunio i fod yn gadarn, ac anfonir copïau o'r cynlluniau i CNC a'r
Awdurdod Glo i sicrhau diogelwch ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Ceisiwyd cadarnhad ynghylch a fyddai tomenni Categori C a D nad oeddent
wedi'u cynnwys yn y ceisiadau yn cael eu harolygu o hyd. Darparwyd sicrwydd, a
chadarnhaodd swyddogion y byddai arolygiadau tomenni Categori C a D yn parhau,
gan ddibynnu ar gyllid yn y dyfodol. Cafwyd trafodaethau am y 7% o domenni nad ydynt wedi'u cofrestru, a pha
fonitro fyddai ei angen. Amlygodd swyddogion nad oes gan y cyngor ddyletswydd
ar hyn o bryd lle byddai angen iddo gymryd cyfrifoldeb. Fodd bynnag, nodwyd
efallai y bydd y cyngor yn dymuno ymyrryd ar yr achlysuron hyn at ddibenion
mesur a diogelu ataliol. Felly, nodwyd o fewn yr ymateb i'r ymgynghoriad y
byddai swyddogion yn ailadrodd y pryderon hyn ac yn gofyn i'r cyfrifoldebau
gael eu hailystyried oherwydd y diffyg adnoddau a phrofiad yn y cyngor, gan
ganiatáu i Lywodraeth Cymru a'r Awdurdod Glo fod yn gyfrifol. Gofynnodd yr aelodau ym mhle mae'r tomenni glo yng Nghastell-nedd Port
Talbot. Esboniodd swyddogion fod 404 o domenni glo yng Nghastell-nedd Port
Talbot ac esboniwyd nad oes modd nodi'r lleoliadau ar hyn o bryd, fodd bynnag
gellir gwneud hyn y tu allan i'r cyfarfod. Esboniodd swyddogion hefyd fanylion
y categorïau tomenni glo. Trafododd yr aelodau pa fonitro oedd ar waith ar gyfer y bylchau a adawyd gan domenni blaenorol, gan fod pryderon ynghylch pa gorff ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 1. |
|||
Eitemau brys Unrhyw
eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn y
Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth
Leol 1972. Cofnodion: Oherwydd
yr angen i ymdrin yn awr â'r mater a gynhwysir yng Nghofnod Rhif 4 isod,
cytunodd y Cadeirydd y gellid eu trafod yng nghyfarfod heddiw fel eitemau brys
yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Rheswm: Oherwydd
yr elfen amser. |
|||
Mynediad i gyfarfodydd Yn
unol ȃ Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290, gellir
gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o
gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4
Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Cofnodion:
|
|||
Craffu Cyn Penderfynu Cofnodion: Cefnogaeth CBSCNPT o Bolisi Adleoli a
Chynorthwyo Affganiaid y Deyrnas Unedig(ARAP) Trafododd aelodau yr adroddiad brys, a
derbyniwyd gwybodaeth mewn perthynas â rhoi'r Polisi Adleoli a Chynorthwyo
Affganiaid ar waith, fel a fanylwyd yn yr adroddiad preifat. Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn
gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet |