Lleoliad: Via Microsoft Teams
Cyswllt: Charlotte Davies / Chloe Plowman - 01639 763745 / 01639 763301
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Hysbyswyd y Pwyllgor am newid i'r adroddiad
canlynol ar Agenda Bwrdd y Cabinet: ·
Eitem 10 ar
yr Agenda – Adroddiad Blynyddol y Cynllun Corfforaethol Roedd addasiad i'w wneud i'r frawddeg ganlynol ar dudalen 56 yr adroddiad a
ddosbarthwyd: 'Ar draws y tri amcan lles ar gyfer 2020/21, mae 64% (53 o 83) o'n 'camau',
h.y. y camau strategol a bennwyd gennym i gyflawni’n blaenoriaethau gwella ar y
trywydd iawn, mae 24 o'r camau 'ychydig oddi ar' y trywydd iawn' ac mae 6
ohonynt oddi ar y trywydd iawn' Roedd y frawddeg i'w haddasu i'r canlynol: 'Ar draws y tri amcan lles ar gyfer 2020/21, mae 65% (54 o 83) o'n 'camau',
h.y. y camau strategol a bennwyd gennym i gyflawni’n blaenoriaethau gwella ar y
trywydd iawn, mae 24 o'r camau 'ychydig oddi ar' y trywydd iawn ac mae 5
ohonynt oddi ar y trywydd iawn' Byddai angen gwneud yr un addasiad hefyd i dudalennau 66 a 182 o'r
adroddiad a ddosbarthwyd. Yn dilyn y diweddariad, roedd yr Aelodau'n hapus
â'r newidiadau, felly dewiswyd peidio â chraffu ar yr adroddiad. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 127 KB ·
9 June 2021 ·
30 June 2021 ·
28 July 2021 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd
ar 9 Mehefin 2021, 30 Mehefin 2021 a 28 Gorffennaf 2021, gyda'r diwygiad
canlynol i gofnodion 30 Mehefin 2021: Wrth graffu ar yr eitem agenda sy'n ymwneud â
'Buddsoddiadau o Gronfeydd Wrth Gefn 2021/22', trafododd y Pwyllgor Gronfa
Codi'r Gwastad. Gofynnodd yr Aelodau a ellid cynnwys y pwyntiau canlynol yn
naratif y cofnodion: · Nodwyd bod aelodau wedi mynegi eu siom yn ystod y
cyfarfod mai dim ond 25% o gymhwysedd Cronfa Codi'r Gwastad y gwnaed cais
amdano; fodd bynnag, darparodd Swyddogion atebion trylwyr a oedd wedi bodloni'r
Aelodau. · Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg ac Adfywio fod £125,000
ar gael ar gyfer gwaith ymgynghori a fydd yn caniatáu i Swyddogion weithio drwy
gynlluniau manwl unrhyw gyllid yn y dyfodol e.e. Y Gronfa Ffyniant Gyffredin · Roedd yr Aelodau am fynegi eu diolch i Swyddogion a
Chyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio. |
|
Craffu Cyn Penderfynu ·
Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu
cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr
Aelodau Craffu)9c ·
Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet (Cylliad) ar gyfer
craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau
Craffu) Cofnodion: Craffodd y Pwyllgor ar yr
eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet: Adroddiad Monitro a
Diweddaru'r Gyllideb Refeniw 2021/2022 Cafodd yr Aelodau'r wybodaeth
ddiweddaraf mewn perthynas â rhagamcanion cyfredol y gyllideb ar gyfer blwyddyn
ariannol 2021/22. Soniodd swyddogion fod yr
Adroddiadau Monitro a Diweddaru'r Gyllideb Refeniw yn cael eu darparu i'r
Aelodau bob mis oherwydd effaith COVID-19. Tynnwyd sylw at y ffaith mai
£1.583m oedd y tanwariant a ragwelwyd ar hyn o bryd eleni; roedd hyn yn
rhannol oherwydd ad-dalu colli incwm a'r gwariant o Gronfa Galedi Llywodraeth
Cymru. Roedd yr adroddiad a ddosbarthwyd yn nodi bod y cyngor, hyd yma, wedi
cael ad-daliad o £2.4m, ac y cytunwyd hefyd ar hawliad colli incwm o £1.221m ar
gyfer chwarter un. Mewn cyfarfod blaenorol o'r
Pwyllgor, hysbyswyd yr Aelodau fod £12m ychwanegol wedi'i glustnodi’r ddiweddar
i'r cyngor oddi wrth Llywodraeth Cymru; Gofynnodd yr Aelodau a oedd yr arian
ychwanegol hwn wedi'i adlewyrchu yn nhanwariant a gorwariant yr adroddiad a
ddosbarthwyd, ac os nad oedd, a ellid ei roi yn y cronfeydd wrth gefn i
wrthbwyso'r beichiau y gall preswylwyr eu hwynebu wrth symud ymlaen, megis
Treth y Cyngor. Tynnwyd sylw at y ffaith bod
yr Aelodau wedi cael gwybod am y £12m ychwanegol a roddwyd mewn cronfeydd wrth
gefn yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Mehefin 2021; yn ystod y cyfarfod hwn,
dywedwyd bod yr arian hwn wedi'i neilltuo i gronfeydd wrth gefn penodol ar
draws y gwahanol feysydd gwasanaeth. Cadarnhaodd swyddogion fod yr arian hwn yn
dal i fod yn y cronfeydd wrth gefn, ac eithrio'r symudiadau wrth gefn fel y
nodir ar dudalennau 26 a 27 o'r adroddiad a ddosbarthwyd. Ychwanegwyd bod adroddiad a gymeradwywyd gan
y Cabinet ar 30 Mehefin 2021 hefyd wedi nodi'r defnydd o tua £4m o gronfeydd
wrth gefn, a ddangoswyd yn yr cronfeydd wrth gefn a nodwyd yn Atodiad 3 yr
adroddiad a ddosbarthwyd. Hysbyswyd y Pwyllgor fod y
cronfeydd wrth gefn penodol a ragwelwyd tua £54m ar hyn o bryd; ni fydd y
sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn yn hysbys tan fis Mai 2022. Soniwyd y bydd y
cyngor yn pennu’i gyllideb ar gyfer 2022/23 ar ddechrau mis Mawrth 2022, a oedd
cyn diwedd y flwyddyn ariannol hon. Drwy roi diweddariadau misol i
aelodau, roedd yn rhoi gwybodaeth iddynt am beth fydd y sefyllfa a ragwelir ar
gyfer cyfarfod pennu'r gyllideb ym mis Mawrth; bydd cyfleoedd i adolygu lefel y
cronfeydd wrth gefn sy'n cael eu defnyddio er mwyn ategu'r gyllideb sylfaenol
a/neu ar gyfer mentrau penodol y mae'r cyngor yn eu cynnig. Fodd bynnag, nodwyd y dylai Aelodau fod yn
ymwybodol o'r gostyngiad mewn cronfeydd wrth gefn a chynaliadwyedd ariannol y
cyngor. Amlygwyd bod tanwariant o £17 mil ar gymhorthion a chyfarpar yn y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai. Gofynnwyd a oedd gan yr Awdurdod y ddarpariaeth i adennill ac ailddefnyddio unrhyw gyfarpar pan fydd preswylydd yn marw. Esboniodd swyddogion fod y tanwariant rhagweledig yn ganlyniad i ddyrannu arian ychwanegol i'r gyllideb honno yn ystod blynyddoedd blaenorol. Cadarnhawyd bod mecanweithiau ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|
Blaenraglen Waith 2020/21 PDF 428 KB Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Flaenraglen Craffu'r Cabinet ar
gyfer 2021/22. |