Lleoliad: Via Microsoft Teams
Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Gwnaeth yr aelod canlynol ddatganiad o fudd ar
ddechrau'r cyfarfod: Y Cynghorydd S Reynolds Parthed: Eitem 5 ar yr agenda - Kickstart yr Adran
Gwaith a Phensiynau - Cynrychiolydd y Porth gan ei bod yn ymddiriedolwr
Canolfan Maerdy Y Cynghorydd N Hunt Parthed: Eitem 4 ar yr agenda - Parcio Ceir dros y
Nadolig gan ei fod yn gweithio yng Nghanol Tref Port Talbot. |
|||
Cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 62 KB ·
30 Medi 2020 Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar
30 Medi 2020. |
|||
Craffu Cyn Penderfynu ·
Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu
cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr
Aelodau Craffu) Cofnodion: Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar
agenda'r Cabinet: Kickstart yr Adran Gwaith a Phensiynau –
Cynrychiolydd y Porth Canmolodd yr aelodau'r cynllun a thrafodwyd cwmpas
a hyblygrwydd cymhwysedd y cynllun. Gofynnwyd a fyddai gan bobl ifanc nad
oeddent ar gredyd cynhwysol ond yn ennill cyflog bach hawl i'r cynllun hwn.
Esboniodd Swyddogion fod y meini prawf yn llym iawn, fodd bynnag pe bai gan yr
aelod unrhyw unigolion penodol yr oedd angen cymorth arnynt, gallai Swyddogion
eu cynghori ymhellach. Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn
gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet. |
|||
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus
neu wedi’u heithrio) yn ol
disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag
Adran 100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Oherwydd yr angen i ymdrin yn awr â'r materion a
gynhwysir yng Nghofnod Rhif 5 isod, cytunodd y Cadeirydd y gellid codi'r
eitemau hyn fel eitemau brys yn unol ag Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290 (fel
y'i diwygiwyd). Rheswm dros y Mater Brys Oherwydd yr elfen amser. |
|||
Parhad cymorth i'r Diwydiant Bysus yn ystod COVID-19. Cofnodion: Cafodd yr Aelodau yr wybodaeth ddiweddaraf am y
cytundebau Cymorth i'r Diwydiant Bysus yn ystod COVID-19 gyda Gweithredwyr
Trafnidiaeth Teithwyr. Cynhaliwyd trafodaethau ynghylch hysbysebu ar fysus
gwasanaeth gan nad yw Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn hyrwyddo hyn ar hyn o
bryd. Diwygiodd Swyddogion yr argymhelliad yn y cyfarfod,
fel a ganlyn: 1.
Rhoi awdurdod dirprwyedig i
Gyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio, y Pennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth a'r
swyddogion hynny a ddynodwyd ganddynt i roi canllawiau Llywodraeth Cymru ar
weinyddu'r Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau ar waith wrth i’r mecanwaith
hwn barhau i gefnogi'r diwydiant bysus. 2.
Rhoi awdurdod dirprwyedig i
Gyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio a’r Pennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth i
ymrwymo i Gytundebau Indemniad COVID-19 gyda Gweithredwyr Trafnidiaeth Teithwyr
yn unol â'r canllawiau a ddarparwyd gan Weinidogion Cymru, Cymorth i'r
Diwydiant Bysus yn ystod COVID-19 Llywodraeth Cymru mis Ebrill 2020 ac unrhyw
ganllawiau dilynol y gallai Llywodraeth Cymru eu cyhoeddi. Yn dilyn craffu, cefnogodd yr Aelodau'r
argymhellion diwygiedig i'r Cabinet.
|
|||
Mynediad i gyfarfodydd Yn
unol ȃ Rheoliad 4 (3)
a (5) Offeryn Statudol 2001
Rhif 2290, gellir gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o gynnwys
datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff
14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion:
|
|||
Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu ·
Dewis eitemau preifat priodol o agenda cyn craffu Bwrdd
y Cabinet (Adroddiadau Bwrdd
y Cabinet yn amgaeedig ar gyfer yr
aelodau craffu). Cofnodion: Craffodd y pwyllgor ar yr eitem breifat ganlynol ar
agenda'r Cabinet: Ailfodelu Gorsaf Drosglwyddo Twyni Crymlyn – Penodi Ymgynghorwyr Cafodd yr Aelodau yr wybodaeth ddiweddaraf am yr
adroddiad preifat ar benodi ymgynghorwyr i gefnogi’r gwaith i Ailfodelu Gorsaf
Drosglwyddo Twyni Crymlyn. Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r
cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet Gorchymyn Pwrcasu Gorfodol Cafodd yr Aelodau yr wybodaeth ddiweddaraf am
adroddiad preifat yn ymwneud â'r broses cynnal Gorchymyn Pwrcasu Gorfodol mewn
perthynas ag eiddo yng nghyffiniau Hwb Trafnidiaeth arfaethedig Castell-nedd. Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r
cynnig i'w ystyried gan Fwrdd y Cabinet |