Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Alison Thomas E-bost: a.thomas6@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Cadarnhawyd y byddai'r Pwyllgor yn craffu ar eitemau 7, 8 ac 12 ar Agenda Bwrdd y Cabinet |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Y Cyng. Rob Jones, Eitem 12 ar Agenda'r Cabinet –
Ymddiriedolwr Llyfrgell Gymunedol Tai-bach, Budd Personol Y Cyng. Sean Pursey, Eitem 12 ar Agenda'r Cabinet –
Ymddiriedolwr Llyfrgell Gymunedol Tai-bach, Budd Personol Y Cyng. Scott Jones, Eitem 12 ar Agenda'r Cabinet -
Ymddiriedolwr AVCL (cysylltiad â Phwll Nofio Cymer), Budd Personol Y Cyng. Simon Knoyle, Eitem 12 ar yr Agenda – Aelod o Fwrdd
Canolfan Hyfforddi Glyn-nedd, Budd Personol Y Cyng. Sian Harris, Eitem 12 ar Agenda'r Cabinet –
Cadeirydd Ffrindiau Creunant, Budd Personol Y Cyng. Wyndham Griffiths, Eitem 12 ar Agenda'r Cabinet –
aelod o Bulldogs a Hyrwyddwr y Lluoedd, Budd Personol Y Cyng. Tim Bowen, Eitem 12 ar Agenda'r Cabinet – Hyrwyddwr
y Lluoedd, Budd Personol Y Cyng. Sonia Reynolds, Eitem 12 ar Agenda'r Cabinet –
Ymddiriedolwr Canolfan Maerdy, Budd Personol |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 301 KB ·
28 Tachwedd 2023 ·
13 Rhagfyr 2023 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28
Tachwedd 2023 ac 13 Rhagfyr fel cofnod gwir a chywir. |
|
Craffu Cyn Penderfynu Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu
(amgaeir adroddiadau’r Cabinet ar gyfer aelodau’r pwyllgor Craffu) Cofnodion: Archwilio Cymru – Llamu Ymlaen – Rheoli Gweithlu’n Strategol – Cyngor
Castell-nedd Port Talbot Cyfeiriodd yr aelodau at dudalen 33, paragraff 24 o
adroddiad Archwilio Cymru a gynhwysir ym mhecyn Agenda'r Cabinet. Nododd yr
adroddiad nad yw graddfa risg strategol gyfredol y cyngor yn adlewyrchu'n
ddigonol y risg weddilliol a wynebir oherwydd oedi wrth ddatblygu cynlluniau
olyniaeth a nodi rolau busnes hanfodol. Holodd yr aelodau a yw'r gofrestr
risgiau wedi'i diweddaru i adlewyrchu'r pwynt hwn, a pha waith a wnaed ers
cyhoeddi'r adroddiad i fynd i'r afael â'r sefyllfa. Cadarnhaodd y Pennaeth Pobl a Datblygu Sefydliadol fod y
Gofrestr Risgiau Strategol yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd, a bydd y broses
hon yn cynnwys gwaith ar gynllunio olyniaeth. Crynhodd y Pennaeth Gwasanaeth y
camau gweithredu a roddwyd ar waith i gynyddu nifer y gwasanaethau a chanddynt
gynlluniau olyniaeth ar waith, gyda sefyllfaoedd busnes hanfodol a nodwyd. Yn ystod
y flwyddyn galendr ddiwethaf, mae 72 o Reolwyr wedi mynychu Gweithdai Cynllunio
Olyniaeth ac mae'r gweithdy wedi'i wreiddio fel rhan o'r Rhaglen Datblygu
Craidd ar gyfer Rheolwyr. Mae gwaith yn mynd rhagddo i adolygu'r pecyn cymorth
a ddefnyddir ar gyfer cynllunio olyniaeth gyda'r nod o'i ddigideiddio.
Ymgymerwyd â dadansoddiad o'r cynlluniau olyniaeth sydd ar waith ar hyn o bryd.
Mae Rheolwyr Atebol wedi cael eu hatgoffa o bwysigrwydd sicrhau bod cynlluniau
olyniaeth ar waith. Mynegodd yr aelodau bryder bod nifer o uwch reolwyr
allweddol wedi gadael yr awdurdod ac mae profiad y swyddogion busnes hanfodol
hyn wedi'i golli. Dywedodd yr aelodau nad oedd y gyfradd recriwtio yn cyfateb i
nifer y swyddi gwag. Cydnabu'r Pennaeth Pobl a Datblygu Sefydliadol bwysigrwydd
rheolwyr yn ymwneud â chynllunio olyniaeth. Nodwyd bod cyfradd benodi
lwyddiannus y cyngor wedi cynyddu dros gyfnod o ddwy flynedd o 82% i 93% ac mae
gweithgarwch recriwtio wedi cynyddu 40%, gyda chyfradd trosiant gadarnhaol.
Cydnabuwyd bod rhai swyddi'n parhau i fod yn anodd eu llenwi, yn enwedig mewn
meysydd arbenigol. Rhoddodd y Prif Weithredwr sicrwydd bod hwn yn faes gwaith
pwysig a fydd yn parhau i fod yn flaenoriaeth wrth symud ymlaen. Ar hyn o bryd
mae'r cyngor yn gweithredu mewn marchnad lafur dynn. Rhennir gwybodaeth am y
gweithlu gyda'r Pwyllgor Personél i alluogi aelodau i olrhain cynnydd. Roedd yr aelodau'n falch o glywed am y cynnydd mewn targedau
recriwtio ond mynegwyd pryder ynghylch cadw staff a'r gost ariannol o
ddefnyddio taliadau atodol ar sail y farchnad mewn perthynas â swyddi anodd eu
llenwi. Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth fod taliadau atodol ar
sail y farchnad yn offeryn y gellir ei ddefnyddio pan fo'n briodol ac mae
disgwyl i'r cynllun gael ei adolygu. Nodwyd mai dim ond un agwedd ar y pecyn
taliad cydnabyddiaeth gweithwyr yw tâl ac roedd buddion eraill yn gwneud y
cyngor yn gyflogwr deniadol. Cadarnhaodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fod y defnydd o daliadau atodol ar sail y farchnad yn y Gwasanaethau Cymdeithasol wedi gweithio'n dda ac wedi helpu i gadw staff profiadol. Mae manteision ariannol i'w cael wrth gymhwyso taliadau atodol ar sail y farchnad ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
Cofnod Gweithredu'r Pwyllgor PDF 503 KB Cofnodion: Nodwyd Cofnod Gweithredu'r Pwyllgor. |
|
Blaenraglen Waith 2023/24 PDF 397 KB Cofnodion: Nodwyd y Flaenraglen Waith. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd) Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |
|
Mynediad i gyfarfodydd Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod. Cofnodion: Penderfynwyd: gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au)
ganlynol/canlynol yn unol ag Adran 100a (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol
1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod. |
|
Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu · Dewis eitemau preifat priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau’r Cabinet ar gyfer aelodau’r pwyllgor Craffu). Cofnodion: Grantiau
Trydydd Sector – Dyfarnu Grantiau ar gyfer 2024-2025 (Wedi'u heithrio o dan
Baragraff 14) Yn
dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad gan y Y
Cabinet. |