Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot and Microsoft Teams
Cyswllt: Alison Thomas E-bost: a.thomas6@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Dim. |
|
Craffu Cyn Penderfynu ·
To select appropriate items from the Cabinet agenda for pre-decision
scrutiny (cabinet reports enclosed for Scrutiny Members) Cofnodion: Gosod Sylfaen Treth y Cyngor 2024/25 (Tudalennau 11 - 16) Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ynghylch
gosod Sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer 2024/25. Cadarnhaodd y Prif Swyddog Cyllid fod pob
cyngor yng Nghymru yn darparu ei Sylfaen Treth y Cyngor i Lywodraeth Cymru ar 31 Hydref. Mae pob tŷ ym mand
Treth y Cyngor A - I yn cael ei gyfrif
a'i drosi i fand cyfwerth â Band D, ac mae'r swm amcangyfrifedig
o eiddo newydd yn cael ei ychwanegu
i roi Sylfaen Treth y Cyngor. Bydd Asesiad
o Wariant Safonol Llywodraeth Cymru (SSA) yn gwerthuso
faint y mae angen i'r cyngor ei wario i ddarparu
gwasanaethau, caiff swm yr incwm a gynhyrchir drwy dreth y cyngor ei ddidynnu a defnyddir
fformiwla i gyfrifo swm y Grant Cynnal Refeniw. Gofynnodd yr Aelodau a fyddai newidiadau
i'r system fandio bresennol
yn effeithio ar y fformiwla. Cadarnhaodd swyddogion fod 85% o eiddo yng
Nghastell-nedd Port Talbot yn dod o fewn bandiau A-C sy'n gostwng ffigwr y band D cyfatebol. Nodwyd y byddai cynigion Llywodraeth Cymru ynghylch newidiadau i'r system treth y cyngor yn cael eu hadrodd
i'r Cabinet er mwyn ystyried yr opsiynau arfaethedig. Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad gan y Cabinet. Adolygiad o Strategaeth Digidol Archwilio Cymru - Ymateb Sefydliadol (Tudalennau 17 - 66) Cyfeiriodd yr Aelodau at y gronfa drawsnewidiol
wrth gefn o £1.2m a grybwyllwyd yn yr adroddiad gan gwestiynu pam nad oedd
llinell amser ar gael. Dywedodd y Prif Swyddog Digidol fod y cynllun
cyflawni sy'n gysylltiedig
â Strategaeth Ddigidol,
Data a Thechnoleg y cyngor
yn cael ei ddatblygu ar adeg adolygiad Archwilio Cymru. Roedd yr adolygiad yn nodi trefniadau cadarn y cyngor ar gyfer cyflawni'r cynllun. Mae'r strategaeth bellach yn fyw ac mae proses lawn ynghylch blaenoriaethu gofynion i wasanaethau digidol. Unwaith y mae'r gofynion yn cael eu blaenoriaethu
drwy'r Bwrdd Trawsnewid Digidol cânt eu pennu
fel rhan o lwybr digidol a'u
monitro'n llawn a'u hadrodd yn ôl i Gyfarwyddwyr Corfforaethol yn chwarterol, a bydd adolygiad blynyddol yn cael ei gyflwyno i Is-bwyllgor (Polisi ac Adnoddau) y Cabinet. Gofynnodd yr Aelodau am y prosiectau a oedd eisoes yn rhan o'r Olrheiniwr
Llwybrau ac am eu cynnydd, a gofynnwyd sut y gellir gwneud
asesiad i nodi'r hyn y gellir ei gyflawni
gyda'r gronfa wrth gefn o £1.2m. Gofynnodd yr Aelodau hefyd sut y gellir rhoi strategaeth
tymor hir ar waith ar gyfer digideiddio gan ystyried cyflymder y newidiadau yn y maes hwn
a gofynnwyd i'r Strategaeth
Digidol gael ei hychwanegu at y Flaenrhaglen
Waith. Cadarnhaodd swyddogion nad oedd llinell amser wedi'i bennu ar gyfer y strategaeth oherwydd pa mor gyflym y mae technoleg ddigidol yn newid. Bydd y datganiadau strategol yn y strategaeth yn cael eu hadolygu'n flynyddol yn erbyn y rhaglenni gwaith sy'n rhan o'r cynllun cyflawni, yr amcanion cyffredinol yn y cynllun corfforaethol a blaenoriaethau'r gyfarwyddiaeth. O ran y gronfa drawsnewid, mae ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|
Blaenraglen Waith 2023/24 PDF 405 KB Cofnodion: Gofynnodd yr Aelodau a ddylid ychwanegu
diweddariad ar y Strategaeth
Digidol at y Flaenraglen
Waith. Nodi'r Flaenraglen Waith gyda'r ychwanegiad uchod. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |
|
Mynediad i gyfarfodydd Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod. Cofnodion: Penderfynwyd: Gwahardd y cyhoedd o'r eitem(au) ganlynol/canlynol yn unol ag Adran 100a (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod. |
|
Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu · Dewis eitemau preifat priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau’r Cabinet ar gyfer aelodau’r pwyllgor Craffu) Cofnodion: Cronfa Ffyniant Gyffredin
y DU a Rownd 2 y Rhaglen Sgiliau a Lluosi (eithriedig o dan baragraff 14) (Tudalennau 205 -
234) Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad gan y Cabinet. |