Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot and Microsoft Teams
Cyswllt: Charlotte Davies - 01639 763745
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Cadarnhawyd
y byddai'r pwyllgor yn craffu ar eitemau 7 ac 8 ar agenda'r cabinet. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni
dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.
|
|
Craffu Cyn Penderfynu Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet aa gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Strategaeth
Cyfranogiad y Cyhoedd Ddrafft 2023-2028 Ystyriodd yr
aelodau’r adroddiad fel a nodwyd yn y pecyn agenda. Mynegodd
aelodau bryderon ynghylch y strategaeth ddrafft. Nodwyd bod 71 o ymatebion gan
Banel y Dinasyddion mewn perthynas â'r holiadur cychwynnol a defnyddiwyd y
rhain i baratoi ar gyfer y Strategaeth Ddrafft. Mae 500 o aelodau ar Banel y
Dinasyddion, felly mae hyn yn adlewyrchu ymateb isel iawn i'r ymgynghoriad.
Mynegodd aelodau eu pryder ymhellach mewn perthynas â'r ymgynghoriad ehangach,
lle'r oedd cyfradd ymateb o 0.35% o boblogaeth Castell-nedd Port Talbot. Holodd
aelodau a dylai'r ymgynghoriad fandadu bod holl gwestiynau'r ymgynghoriad yn
cael eu hateb, fel bod data cymeradwy ar gael. Amlinellodd
aelodau, os caiff y strategaeth ei chymeradwyo gan y Cabinet, dylai bod
gofyniad am fonitro llym o'r strategaeth a gwelliannau ym maes ymgysylltu â'r
cyhoedd. Dywedodd
swyddogion fod y 71 o ymatebion gan Banel y Dinasyddion yn ymatebion manwl a
ddefnyddiwyd i lywio'r strategaeth. Cydnabu swyddogion, gyda'r ymgynghoriad
ehangach, efallai bod y nifer llai o ymatebion o ganlyniad i flinder
ymgynghori. Fodd bynnag, dywedodd swyddogion fod yr ymatebion a dderbyniwyd yn
fanwl. Cadarnhaodd swyddogion fyddai'r strategaeth yn cael ei monitro bob chwe
mis. Nododd
swyddogion awgrymiadau gan aelodau ynghylch gwella cyfathrebu ac ymgysylltu â'r
cyhoedd a chytunwyd i drafod hyn â'u cydweithwyr fel y bo'n briodol. Rhoddwyd
gwybod i aelodau bod dolen i'r adran 'Dweud eich dweud' ar y wefan ar hafan
bresennol wefan y cyngor. Cytunodd
swyddogion fod y pwyntiau sy'n berthnasol i adborth gwasanaeth cwsmeriaid yn
werthfawr, fodd bynnag, dywedwyd eu bod y tu allan i gylch gwaith yr eitem hon.
Ymdrinnir â'r pwyntiau a godwyd yn yr adolygiad o wasanaethau cwsmeriaid a
strategaethau eraill. Pwysleisiodd
yr aelodau bwysigrwydd gael adborth gan aelodau'r cyhoedd gan mai nhw yw'r bobl
yr effeithir arnynt yn uniongyrchol gan wasanaethau'r cyngor. Gofynnodd aelodau
hefyd sut y gall aelodau'r cyhoedd canmol y cyngor, oherwydd ffurflen gwyno yn
unig sydd ar gael ar y wefan. Sefydlwyd
Panel y Dinasyddion ychydig cyn y pandemig a dyluniwyd y panel i gynrychioli
poblogaeth oedolion y fwrdeistref. Y bwriad oedd i'w ddefnyddio i gael
canlyniadau a oedd yn ddilys yn ystadegol. Nid yw'n ddilys ar lefel fwrdd
unigol. Dywedodd y Prif Weithredwr ei fod yn debygol bod angen i'r panel gael
yr wybodaeth ddiweddaraf o ran y cyfranogwyr. Bydd y syniadau amrywiol a
gyflwynwyd gan aelodau yn ystod y cyfarfod yn cael eu hystyried yn fanylach. Yn dilyn
craffu, roedd yr aelodau'n gefnogol o'r argymhellion i'w hystyried gan y
Cabinet. Cynllun
Corfforaethol - Rhaglen Newid Strategol ar gyfer y cyfnod o 2023-2024 Ystyriodd yr
aelodau’r adroddiad fel a nodwyd yn y pecyn agenda. Cyfeiriodd aelodau at dudalen 160 o becyn yr agenda sy'n cyfeirio at deithio llesol ac annog rhagor o bobl i gerdded a beicio. Fodd bynnag, tynnwyd y cyfeiriad at leihau'r ddibyniaeth ar gerbydau preifat oddi ar y cynllun arfaethedig. Dywedodd swyddogion fod angen i'r broses o leihau'r ddibyniaeth ar gerbydau preifat fod yn gyfiawn. Cydnabuwyd wrth gynyddu teithio llesol, dylai hyn leihau'r ddibyniaeth ar gerbydau preifat. ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|
Blaenraglen Waith 2022/23 PDF 405 KB Cofnodion: Nodwyd
yr eitem hon. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd) Cofnodion: Nid
oedd unrhyw eitemau brys. |