Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot and Microsoft Teams
Cyswllt: Charlotte Davies - 01639 763745
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod Eitem 7 ar Agenda'r
Cabinet wedi'i dynnu'n ôl oherwydd camgymeriad gweinyddol ar yr adroddiad a
bydd yn dychwelyd yn ystod y cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 28 Tachwedd 2023. Cadarnhawyd y byddai'r pwyllgor yn craffu ar
eitemau 8, 10, 11 a 14. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Y Cynghorydd S Freeguard
Eitem 11 Personol, mae
aelod o'r teulu'n gweithio yn TATA Steel |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 209 KB Cofnodion: The
minutes of the meeting held on 13th October 2023 were approved as a
true and accurate record. |
|
Craffu Cyn Penderfynu ·
Dewis eitemau priodol o
agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau’r Cabinet
ar gyfer aelodau’r pwyllgor Craffu) Cofnodion: Cynllun Dyletswydd
Bioamrywiaeth (2023-2026) Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel a nodwyd yn y
pecyn agenda. Nododd yr Aelodau fod ceisiadau cynllunio yn cael
eu hystyried yn unigol a gofynnwyd sut y bydd y Ddyletswydd Bioamrywiaeth yn
effeithio ar y cyngor wrth gyflawni ceisiadau datblygu mawr eu hangen.
Cadarnhaodd swyddogion fod bioamrywiaeth yn ystyriaeth berthnasol yn y broses o
wneud penderfyniadau cynllunio. Nodwyd bod safleoedd o bwys cenedlaethol megis
Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) yn cael eu gwarchod gan
bolisi cynllunio cenedlaethol gyda rhai dynodiadau'n destun Asesiad Rheoleiddio
Cynefinoedd. Mae polisi'r CDLl yn amlinellu y dylid osgoi unrhyw safleoedd o
bwys ond mae'n rhaid cydbwyso hyn â'r angen am dwf economaidd. Mae ffactorau
economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol yn cael eu hystyried. Os
bydd rhesymau pennaf dros adeiladu yn bresennol, mae gofynion lliniaru a/neu
iawndal yn cael eu hystyried. Mae'r Tîm Ecoleg yn chwilio am ffyrdd arloesol i
hybu bioamrywiaeth. Cadarnhaodd y Pennaeth Cynllunio a Diogelu'r
Cyhoedd fod y cynllun hwn yn fwy na'r broses gynllunio, roedd yn cynnwys sut y
mae'r cyngor yn ymateb yn ehangach i'r ddyletswydd ac yn arddangos
cydymffurfiaeth. Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad gan y
Cabinet. 2022/23 - Adroddiad Alldro
Rheoli'r Trysorlys Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel a nodwyd yn y
pecyn agenda. Cyfeiriodd yr aelodau at dabl benthyciadau'r
Awdurdod Lleol ar dudalen 197 a gofynnwyd am ragor o wybodaeth ynghylch y
benthyciad o £10m a restrwyd ar ddiwedd mis Mawrth. Cadarnhaodd y Prif Swyddog
Cyllid fod angen y benthyciad tymor byr i dalu am hylifedd a llif arian ar
ddiwedd y flwyddyn ariannol ar gyfer y cyfnod rhwng 20 Mawrth a 12 Ebrill 2023.
Y gost llog oedd £28k sy'n cael ei chynnwys yng nghyllideb Rheoli'r Trysorlys
ac ad-dalwyd y benthyciad yn llawn ar 12 Ebrill 2023. Holodd yr Aelodau a oedd
modd cymryd y diffyg hwn o gronfeydd wrth gefn yn yr achos hwn. Cadarnhaodd y
Prif Swyddog Cyllid fod yr awdurdod wedi buddsoddi £53m mewn buddsoddiadau
cyfnod penodol a gynhyrchodd log o £1.5m. Holodd yr Aelodau a oedd yr amgylchiadau hyn wedi
codi yn ystod unrhyw flwyddyn flaenorol. Cadarnhaodd y Prif Swyddog Cyllid fod
benthyca tymor byr/hir i dalu am lif arian yn weithdrefn safonol ar gyfer pob
awdurdod lleol fel rhan o drefniadau'r trysorlys. Ar yr achlysur hwn roedd y
benthyca wedi ymestyn dros gyfnod diwedd y flwyddyn. Nodwyd y gallai benthyca
o'r llywodraeth fod ar gyfer cyfnod o flwyddyn yn unig, caiff anghenion tymor
byr eu diwallu drwy fenthyca rhwng awdurdodau lleol. Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad. Monitro'r Gofrestr Risgiau
2023/24 Cyfeiriodd yr aelodau at SR14, SR18 a SR19 o'r Gofrestr Risgiau, a holwyd a ystyriwyd effaith diffyg cynhyrchu dur yn lleol ar yr economi leol yn enwedig mewn perthynas â'r Porthladd Rhydd Celtaidd a'r posibilrwydd o golli cwsmeriaid pwysig. Nodwyd y byddai cau yn cael effaith sylweddol ar yr economi, diweithdra a gwasanaethau cymdeithasol. Gofynnodd yr aelodau pa gefnogaeth y gall y cyngor ei rhoi ar waith i gefnogi gweithwyr Tata Steel, a oes Cynllun ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
Blaenraglen Waith 2023/24 PDF 418 KB Cofnodion: Nodwyd y Flaenraglen Waith. |
|
Eitemau brys Unrhyw
eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |
|
Mynediad i gyfarfodydd Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod. Cofnodion: Penderfynwyd: Gwahardd y cyhoedd o'r eitem(au)
ganlynol/canlynol yn unol ag Adran 100a (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol
1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod. |
|
Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu · Dewis eitemau preifat priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau’r Cabinet ar gyfer aelodau’r pwyllgor Craffu). Cofnodion: Adolygiad Trafnidiaeth Teithwyr - Penodi
Ymgynghorwyr (yn eithriedig o dan Baragraff 14) Yn dilyn craffu, Diwygiad i argymhelliad: Rhoi terfyn amser a chamau cyfochrog ar waith i edrych ar
wella sgiliau'r tîm a thyfu'r tîm. Cefnogwyd yr argymhelliad i'r Cabinet gyda'r diwygiad
uchod. |
|
Cofnodion: Nododd aelodau'r adroddiad. |