Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot and Microsoft Teams
Cyswllt: Charlotte Davies - 01639 763745
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Cadarnhawyd
y byddai'r pwyllgor yn craffu ar eitemau 7, 8 a 11 ar Agenda'r Cabinet. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni
chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 211 KB Cofnodion: Cymeradwywyd
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Tachwedd 2023 fel cofnod gwir a chywir. |
|
Craffu Cyn Penderfynu ·
Dewis eitemau priodol o
agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau’r Cabinet
ar gyfer aelodau’r pwyllgor Craffu) Cofnodion: Hunanasesiad 2022-2023 Rhoddodd swyddogion drosolwg o adroddiad Hunanasesiad
2022-2023 a gynhwysir ym mhecyn Agenda'r Cabinet. Cyfeiriodd yr Aelodau at dudalen 29 yr adroddiad (Crynodeb o
Berfformiad) a mynegwyd siom yn nifer y meysydd a gwblhawyd. Holodd yr Aelodau
am yr oedi cyn cwblhau SA22 (mireinio ymagwedd y cyngor o ran ymdrin â'r
strategaeth Hunanasesiad) ac SA3 (sefydlu tasglu recriwtio) a mynegwyd pryder
ynghylch faint o amser a gymerir i ddarparu Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl, y
rhai sy'n gadael yr Awdurdod Lleol a'r amserlen o ran ceisiadau cynllunio.
Mynegodd aelodau siom nad oedd ffigurau canran yn cynnwys data llawn, fel y
gofynnwyd amdano'n flaenorol, sy'n golygu roedd craffu ac argymell i'r Cabinet
yn anodd. Cadarnhaodd swyddogion nad oedd modd cwblhau'r cyfeirnod
SA22 yn 2022/2023 oherwydd materion gallu, ond y gobaith yw y bydd hyn yn cael
ei gwblhau ar gyfer hunanasesiad 2023/2024. Ymddiheurodd swyddogion am y diffyg
ffigurau cyfatebol yn yr adroddiad mewn perthynas â'r canrannau a chadarnhawyd
y bydd hyn yn cael ei gynnwys cyn caiff y ddogfen ei chyhoeddi. Cadarnhaodd y Pennaeth Pobl a Datblygu Sefydliadol fod y
tasglu recriwtio wedi'i sefydlu, ond mae gwaith yn mynd rhagddo gan fod nifer o
swyddi sy'n anodd eu llenwi yn y cyngor o hyd. Mae gwaith yn mynd rhagddo i
gyflwyno data ymadawyr mwy manwl ac mae categorïau rhesymau ymadawyr wedi cael
eu gwella. Mae'r data a ddarperir yn adlewyrchu 2022/23 a bydd gwybodaeth
fanylach ar gael wrth i amser fynd yn ei flaen. Dywedodd yr aelodau y byddai wedi bod yn gliriach pe bai'r
adroddiad wedi nodi bod y tasglu recriwtio wedi'i sefydlu ac yn parhau â'r
gwaith sy'n mynd rhagddo. Cyfeiriodd yr Aelodau at dudalen 20 yr adroddiad a gofynnwyd
am eglurhad o'r ymagwedd a fabwysiadwyd eleni, a pham nad oedd adroddiadau
eraill yn cyd-fynd fel sydd wedi digwydd mewn awdurdodau eraill. Cadarnhaodd swyddogion fod ymchwil wedi'i wneud i sefydlu'r
ymagwedd orau ar gyfer hunanasesu gan fod yr arweiniad yn gyfyngedig. Nodwyd
mai hwn oedd yr ail hunanasesiad sydd wedi'i gwblhau yn unig a bydd adborth yr
aelodau'n cael ei ystyried mewn perthynas â chwblhau'r trydydd hunanasesiad.
Bydd y pecyn cymorth yn gallu dangos y cynnydd a wnaed dros amser a rhoddir
ystyriaeth i sicrhau nad oes dyblygu a bod yr asesiad yn ychwanegu gwerth. Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel a nodwyd yn y pecyn
agenda. Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad gan y Cabinet. Adroddiad ynghylch y Diweddaraf am Sefyllfa'r Setliad Dywedodd y Prif Swyddog Cyllid wrth y pwyllgor mai adroddiad
gwybodaeth ar gyfer y Cabinet yw hwn, sy'n nodi'r sefyllfa ariannol sy'n
gwaethygu o ganlyniad i'r setliad dros dro is. Mae'r adroddiad hefyd yn manylu
ar dri grant penodol lle bu toriadau sylweddol ar draws Cymru. Gofynnodd yr Aelodau am ragor o wybodaeth am oblygiadau
colli grantiau. Cadarnhaodd y Prif Swyddog Cyllid fod y cyngor wedi derbyn
manylion y gostyngiadau grant penodol ar yr un pryd ag y cyhoeddwyd y setliad
dros dro ar 20 Rhagfyr 2023. Cadarnhaodd Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai fod y ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
Blaenraglen Waith 2023/24 PDF 400 KB Cofnodion: Nodwyd
y Flaenraglen Waith. |
|
Cofnod Gweithredu'r Pwyllgor PDF 410 KB Cofnodion: Nodwyd
Cofnod Gweithredu'r Pwyllgor. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). Cofnodion: Roedd
un eitem frys: Cadeirydd APSE Cymru – Tai, Digartrefedd a Chymorth
Cymunedol Ni wnaeth yr Aelodau graffu ar yr eitem hon. |
|
Mynediad i gyfarfodydd Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu
a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem
ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau
eithriedig perthnasol o Ran
4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod. Cofnodion: Penderfynwyd: Gwahardd y cyhoedd o'r eitem(au)
ganlynol/canlynol yn unol ag Adran 100a (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol
1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod |
|
Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu · Dewis eitemau preifat priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau’r Cabinet ar gyfer aelodau’r pwyllgor Craffu) Cofnodion: Ymgynghoriad y
Swyddfa Gartref ar Lwybrau Diogel a Chyfreithiol (Yn eithriedig dan Baragraff
14) Ystyriodd yr
aelodau’r adroddiad fel a nodwyd ym mhecyn yr agenda. Yn dilyn craffu,
cefnogwyd yr argymhelliad gan y Cabinet. |