Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot and Microsoft Teams
Cyswllt: Charlotte Davies - 01639 763745
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Y Cyng. T Bowen Eitem 4 (Eitem 7 ar Agenda Bwrdd y
Cabinet) Personol
– aelod o'r teulu yn gweithio yn Y Gnoll |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 218 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar
20 Medi 2023 fel cofnod gwir a chywir. |
|
Craffu Cyn Penderfynu ·
Dewis eitemau priodol o
agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau’r Cabinet
ar gyfer aelodau’r pwyllgor Craffu) Cofnodion: Chwarter 2 - Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel a nodwyd yn y
pecyn agenda. Dywedodd swyddogion fod gorwariant rhagamcanol o
£3.4m ar ddiwedd mis Medi. Mae'r Cyngor wedi parhau i geisio ffrwyno hyn fel
bod y gorwariant yn cael ei leihau a bod balansau wrth gefn yn cael eu diogelu
cyn belled ag y bo modd. Mae swyddogion wedi ystyried pob cronfa wrth gefn
benodol ac wedi penderfynu a oes eu hangen o hyd ac a ellir eu hailbwrpasu.
Trwy'r ymarfer hwn, mae'r Cyngor wedi llwyddo i ailbwrpasu £7.899 miliwn o
gronfeydd wrth gefn penodol. Y bwriad yw paratoi tair menter drawsnewid hwy gan
ddefnyddio'r cronfeydd wrth gefn hynny. Holodd yr Aelodau, ar dudalen 27, mewn perthynas ag
Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes, yn seiliedig ar gostau hyd yn hyn y
gorwariant o £132,000. Holodd yr Aelodau pa gyllid ychwanegol y cyfeirir ato yn
yr adroddiad mewn perthynas â thalu am y gorwariant hwn. Cadarnhaodd swyddogion
pan osodwyd cyllidebau y pennwyd lwfans cyflog o 4% a dyfarniad cyflog
ychwanegol o 2% sy'n disgyn dros 4%. Bydd y cyllidebau hyn yn cael eu defnyddio
i ddyrannu'r costau'n ôl i gyfarwyddiaethau gwasanaethau ac ysgolion i sicrhau
bod dyfarniadau cyflog yn cael eu hariannu'n llawn. Holodd yr Aelodau pwy gafodd ei gomisiynu i weld y
Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol a beth oedd cost hyn. Cadarnhaodd swyddogion mai
Edge Public Consulting a gomisiynwyd, a bod hyn wedi costio £900,000 dros dair
blynedd. Cadarnhaodd swyddogion fod adroddiad yn amlinellu manylion y gwaith
hwn wedi cael ei gyflwyno i'r Cabinet yn flaenorol. O ran strategaethau'r Gwasanaethau Cymdeithasol
sy'n cael eu cyflwyno, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr y byddai mwy o fanylion yn
cael eu cyflwyno i'r Cabinet ar ôl y Nadolig. O ran Cynhyrchu Incwm, tudalen 33, cadarnhaodd
swyddogion fod cronfeydd refeniw wrth gefn gwerth £1.5m wedi'u hailbwrpasu i
ariannu cynigion buddsoddi tymor hwy. Mae angen ailbwrpasu cronfeydd refeniw
wrth gefn i gyflawni cynigion trawsnewid tymor hwy wrth ddal i gynnal cyllideb
cynhyrchu incwm flynyddol i gefnogi hyn, a hynny o fewn y rhaglen gyfalaf. Nid yw'r eitem goch a nodir ar dudalen 42 sy'n
cyfeirio at yr arbediad ym Mharc Gwledig y Gnoll yn gallu cael ei gyflwyno i'r
gwaith arfaethedig sy'n cael ei wneud drwy'r Gronfa Ffyniant Bro. Felly, ni
ellir cyflawni'r arbedion yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Cadarnhaodd swyddogion, o ran digwyddiadau yn Y
Gnoll, y bydd hyn yn mynd trwy broses gaffael briodol i sicrhau bod gan y
Cyngor y gwerth gorau am arian ar y digwyddiadau hyn. Cododd yr Aelodau bryderon cyffredinol am lefel y craffu y gellir ei rhoi i eitemau pan fydd y papurau ar gyfer agendâu'n hir iawn. Er bod aelodau'n cydnabod bod papurau'n cael eu cyhoeddi o fewn yr amserlen gyfreithiol, roedd yr aelodau'n pryderu am nifer yr eitemau ar agenda. Atgoffodd y Prif Weithredwr aelodau o'r adolygiad craffu parhaus. Awgrymwyd, nes i'r adolygiad hwn yn cael ei gwblhau, y sefydlir rhagor o gyfarfodydd i sicrhau y cynhelir yr holl fusnes ond ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
Blaenraglen Waith 2023/24 PDF 405 KB Cofnodion: Nodwyd y Flaenraglen Waith. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw eitemau brys. |
|
Mynediad i gyfarfodydd Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod. Cofnodion: Penderfynwyd: Gwahardd y cyhoedd o'r eitem(au)
ganlynol/canlynol yn unol ag Adran 100a (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol
1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod. |
|
Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu · Dewis eitemau preifat priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau’r Cabinet ar gyfer aelodau’r pwyllgor Craffu) Cofnodion: Comisiynu Gwasanaeth Eiriolaeth a Chefnogaeth
Rhieni a Chymheiriaid, (Yn eithriedig o
dan baragraff 14) Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad gan y
Cabinet. Tendro Bysus Lleol - Dyfarniad Cymhorthdal De
Minimis (Yn eithriedig o dan baragraff 14) Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad gan y
Cabinet. Canolfan Celfyddydau Pontardawe (Yn eithriedig o
dan Baragraff 14) Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad gan y
Cabinet. Cyllid i Wella'r Swyddogaeth Digartrefedd a Thai
Strategol (Yn eithriedig o dan baragraff 14) Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad
diwygiedig a ddarparwyd gan swyddogion yn y cyfarfod, i'w gyflwyno i'r Cabinet. Buddsoddiad Strategol y Gwasanaethau i Oedolion (Yn
eithriedig o dan baragraff 14) Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad
diwygiedig a ddarparwyd gan swyddogion yn y cyfarfod, i'w gyflwyno i'r Cabinet. |