Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot and Microsoft Teams
Cyswllt: Charlotte Davies - 01639 763745
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai'r pwyllgor yn
craffu ar eitemau 7, 9, 10, 11, 12, 13, 15, 16, 20. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Y Cyng J.Henton, Eitem 10 (Cabinet) - Personol,
Gwirfoddolwr gyda Chyfeillion Cwmni Haearn Abaty Nedd |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 369 KB ·
19 Ebrill 2023 ·
28 Mehefin 2023 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd
ar 19 Ebrill 2023 a 28 Mehefin 2023 fel cofnod gwir a chywir. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriodd yr aelodau’r Adroddiad Blynyddol fel a
nodwyd yn y pecyn agenda. Cytunodd yr Aelodau fod y Pwyllgor Craffu'r Cabinet
yn nodi ac yn cymeradwyo Adroddiad blynyddol 2022/2023 sy'n atodedig yn Atodiad
1 ac yn ei gymeradwyo i'r cyngor. |
|
Craffu Cyn Penderfynu ·
Dewis
eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir
adroddiadau’r Cabinet ar gyfer aelodau’r pwyllgor Craffu) Cofnodion: Rhagolwg Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel a nodwyd yn y
pecyn atodiad. Cadarnhaodd y Prif Weithredwr mai pwrpas yr
adroddiad yw rhoi darlun manwl o sefyllfa bresennol y cyngor, o ran cyllid a'r
cynnydd yn y galw ar wasanaethau'r awdurdod. Cafodd yr aelodau ddiweddariad gyda'r ffigurau
chwyddiant, sy'n adlewyrchu pa mor anwadal yw'r sefyllfa ariannol bresennol ar
draws y wlad. Er bod cynllunio ariannol cyfredol yn ystyried ystod o senarios
posib, mae'r awdurdod yn gweithio gyda ffigwr setliad o 3.1% ar hyn o bryd.
Fodd bynnag, mae hyn yn destun newid. Amlinellodd y panel yn yr adroddiad, os cytunir
arno, y byddai'n gweithredu'n ychwanegol at y mecanweithiau eraill sy'n
digwydd. Fe'i defnyddir i helpu i lunio a datblygu polisïau a gwasanaethau'r
awdurdod wrth symud ymlaen. Cadarnhaodd swyddogion oherwydd yr amser
cyfyngedig ar ddiwedd y broses o bennu'r gyllideb, a maint y bwlch yn y
gyllideb y bydd yr awdurdod yn ei wynebu, mae'n debygol y bydd cynigion lle
bydd angen newid polisi neu benderfyniadau gwasanaeth yn cael eu cyflwyno'n
gynharach. Bydd hyn yn golygu y bydd gan y pwyllgorau craffu olwg ar gynigion
yn gynharach ac y bydd hyn yn caniatáu cyfraniad pan fydd cynigion ar gyfer y
flwyddyn i ddod yn cael eu llunio. Yn dilyn craffu, cymeradwywyd yr argymhellion i'w
cyflwyno i'r Cabinet. Gorymdeithiau Coffa - Castell-nedd a Phort Talbot Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel a nodwyd yn y pecyn agenda. Holodd yr Aelodau am ddadansoddiad o'r gost ar gyfer y digwyddiadau.
Cadarnhaodd swyddogion y rhan fwyaf o'r costau sy'n ymwneud â chau'r briffordd,
ynghyd â rhai costau ar gyfer darparu cymorth cyntaf a threfnu pobl yn y
digwyddiad. Wrth symud ymlaen, cadarnhaodd swyddogion y byddai staff yr
awdurdod yn derbyn hyfforddiant mewn cynlluniau rheoli traffig a fyddai'n helpu
i leihau costau'r digwyddiad yn y dyfodol. Mynegodd yr aelodau eu pryder bod y cyllid wedi'i ddyrannu ar gyfer y
digwyddiadau yn y ddwy dref ac nad oedd cymunedau'r cymoedd wedi'u cynnwys yn
yr eitem hon. Gofynnodd yr Aelodau am ystyriaeth ehangach ar gyfer digwyddiadau
yn y dyfodol. Dywedodd swyddogion fod y rheswm dros y ffocws ar y ddwy dref yn
ymwneud â'r adborth a dderbyniwyd y llynedd pan nad oedd modd cynnal y
gorymdeithiau. Roedd cymunedau'r cyn-filwr yn enwedig yn yr ardaloedd hyn yn
ofidus oherwydd nad oeddent yn gallu gorymdeithio y llynedd. Nid yw unrhyw ran
arall o'r Fwrdeistref wedi cysylltu, ac nid yw'r awdurdod yn ymwybodol o unrhyw
orymdaith arall sy'n ei chael hi'n anodd. Cadarnhaodd y Prif Weithredwr ei bod wedi gofyn am adolygiad o
ddigwyddiadau a gwyliau ar draws y fwrdeistref. Cadarnhawyd y byddai'r costau ar gyfer 2023 yn dod o gronfeydd wrth gefn
cyffredinol. Yn dilyn craffu, cymeradwywyd yr argymhellion i'w cyflwyno i'r Cabinet. Strategaethau Diwylliant a Chyrchfannau Ystyriodd yr Aelodau yr adroddiad fel y'i dosbarthwyd yn y pecyn agenda a'r
strategaethau a ddosbarthwyd o fewn y pecyn atodol. Ystyriodd yr Aelodau'r strategaeth ddiwylliant mewn perthynas â chwaraeon ac roeddent yn falch o weld bod y strategaeth wedi nodi bod angen comisiynu asesiad ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|
Blaenraglen Waith 2023/24 PDF 417 KB Cofnodion: Nododd yr Aelodau'r Flaenraglen Waith. |
|
Eitemau brys · Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |
|
Mynediad i gyfarfodydd Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu
a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem
ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau
eithriedig perthnasol o Ran
4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod. Cofnodion: Penderfynwyd: gwahardd y cyhoedd o'r eitem(au)
ganlynol/canlynol yn unol ag Adran 100a (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol
1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod. |
|
Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu ·
Dewis eitemau preifat
priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir
adroddiadau’r Cabinet ar gyfer aelodau’r pwyllgor Craffu) Cofnodion: Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (eithriedig o dan
Baragraff 14) Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad gan y
Cabinet. |