Lleoliad: Via Microsoft Teams
Cyswllt: Charlotte Davies / Chloe Plowman - 01639 763745 / 01639 763301
Rhif | Eitem |
---|---|
Craffu Cyn Penderfynu ·
Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu
(amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Craffodd
y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar agenda'r Cabinet: Cronfa
Codi'r Gwastad y DU - cynigion prosiect Castell-nedd Port Talbot Rhoddwyd
diweddariad a chyflwyniad i'r aelodau ar y pecyn arfaethedig o gynigion ar
gyfer etholaethau Castell-nedd ac Aberafan er mwyn cyflwyno cais am gyllid gan
Gronfa Codi'r Gwastad y DU i Lywodraeth y DU. Mynegodd
yr aelodau eu pryderon ynghylch darparu Cronfa Codi'r Gwastad y DU, fodd bynnag
roeddent yn croesawu'r cynnig am gyllid. Cafwyd
trafodaethau ynghylch cau banciau ar draws y DU a p'un a oedd y cyngor mewn
sefyllfa i atal adeiladau banciau rhag cael eu prynu drwy ddefnyddio'r grant
eiddo masnachol, a'u defnyddio at ddibenion eraill gan fod hen fanciau yn
adeiladau pwysig yn y gymuned. Soniwyd
bod trafnidiaeth yn flaenoriaeth a bod swyddogion yn cydnabod bod trafnidiaeth
yn hollbwysig i sicrhau bod cysylltedd ar gyfer twristiaeth a chyflogaeth.
Nodwyd bod swyddogion yn archwilio ffyrdd o wneud trafnidiaeth gymunedol yn fwy
cynaliadwy dan y gronfa hon. Cafwyd
trafodaethau am amserlenni cynhyrchu ceisiadau ar gyfer y cais, a nodwyd bod y
broses o gasglu a chynhyrchu'r ceisiadau yn un gyflym iawn. Awgrymwyd yn y
dyfodol y byddai angen cynyddu nifer y timau sy'n paratoi ceisiadau er mwyn
helpu i ddatblygu'r cynigion wrth wynebu amserlenni byr iawn. Roedd
yr aelodau'n awyddus i weld budd go iawn ac effaith gadarnhaol i'r cymoedd yn
dilyn derbyn buddsoddiad Cronfa Codi'r Gwastad y DU. Gofynnodd
yr aelodau am esboniad ynghylch yr hyn a olygir gan gynnwys y cyngor fel
Awdurdod Lleol Categori 1 ym meini prawf Cronfa Codi'r Gwastad y DU.
Cadarnhaodd swyddogion y byddent yn darparu gwybodaeth y tu hwnt i'r cyfarfod
ynghylch sut mae Castell-nedd Port Talbot yn rhan o Gategori 1. Roedd
yr aelodau eisiau eglurder mewn perthynas â chyfranogaeth ysgolion cymunedol yn
y broses ymgynghori. Esboniodd swyddogion nad oedd digon o amser wedi bod i
ymgynghori â phawb, fodd bynnag amlygwyd bod nifer o randdeiliaid yr
ymgynghorwyd â nhw, megis ASau Castell-nedd ac Aberafan, cynrychiolwyr y Sector
Preifat a'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Canmolodd
yr aelodau y tîm am eu gwaith caled i gyflwyno'r cynigion o fewn amserlenni mor
dynn. Yn
dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried
gan y Cabinet. |
|
Cofnodion: Nodwyd
y Blaenraglen Waith. |