Lleoliad: O Bell Trwy Teams
Cyswllt: Charlotte Davies / Chloe Plowman - 01639 763745 / 01639 763301
Rhif | Eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
Croeso a galw’r rhestr Cofnodion: Croesawodd y Cynghorydd S
Rahaman bawb i'r cyfarfod a galwyd yr enwau. |
|||||||
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau. |
|||||||
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion:
|
|||||||
Craffu Cyn Penderfynu · Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Craffodd y Pwyllgor ar yr
eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet: Strategaeth
Seiberddiogelwch Castell-nedd Port Talbot Darparwyd trosolwg i aelodau
o Strategaeth Seiberddiogelwch Cyngor Castell-nedd Port Talbot, fel y nodir yn
yr adroddiad a ddosbarthwyd. Cynhaliwyd trafodaethau
ynghylch diogelwch e-byst ac atal e-byst maleisus. Nodwyd bod protocolau ar
waith o fewn y gwasanaethau TG i helpu i ddiogelu gwasanaethau rhag unrhyw
e-byst maleisus. Yn dilyn craffu, roedd y
pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet Swyddfa Archwilio Cymru -
Archwilio asesiad Cyngor Castell-nedd Port Talbot o berfformiad 2020-21 Rhoddodd
aelodau glod i swyddogion ar yr adborth gan Swyddfa Archwilio Cymru mewn
perthynas â Chyngor Castell-nedd Port Talbot yn bodloni ei oblygiadau
cyfreithiol. Yn
dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad. Arian
Grant y Trydydd Sector - Cais ychwanegol am gyllid Derbyniodd
aelodau wybodaeth mewn perthynas â chais a dderbyniwyd ar gyfer arian grant y
trydydd sector ar ôl y dyddiad cau swyddogol. Gofynnodd
aelodau am y rhesymau dros y cais hwyr a gofynnwyd am sicrwydd na fyddai
ceisiadau hwyr yn y dyfodol yn cael eu blaenoriaethu. Cadarnhaodd swyddogion ei
bod yn broblem weinyddol ac na fyddent yn cael eu blaenoriaethu wrth symud
ymlaen. Yn dilyn craffu, roedd y
pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet |
|||||||
Blaenraglen Waith 2020/21 PDF 429 KB Cofnodion: Nodwyd
y Flaenraglen Waith. |