Lleoliad: Via Microsoft Teams
Cyswllt: Charlotte Davies / Chloe Plowman - 01639 763745 / 01639 763301
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Gwnaeth
yr aelodau canlynol ddatganiad o fudd ar ddechrau'r cyfarfod. Y Cynghorydd S Rahaman
Parthed: Eitem 3 ar yr Agenda, Rhaglen Sgiliau a Thalent Bargen Ddinesig Bae
Abertawe Am ei fod yn aelod o Gyd-bwyllgor Craffu Dinas-Ranbarth Bae Abertawe Y Cynghorydd S
Freeguard Parthed: Eitem 3 ar yr Agenda,
Rhaglen Sgiliau a Thalent Bargen Ddinesig
Am ei bod yn aelod o Gyd-bwyllgor Craffu Dinas-Ranbarth Bae Abertawe Y Cynghorydd A
Llewelyn Parthed: Eitem 3 ar yr Agenda,
Rhaglen Sgiliau a Thalent Bargen Ddinesig Bae Abertawe Am ei fod yn aelod o
Gyd-bwyllgor Craffu Dinas-Ranbarth Bae Abertawe |
|
Craffu Cyn Penderfynu ·
Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu
cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr
Aelodau Craffu) ·
Dewis eitemau priodol o agenda Is-bwyllgor (Cyllid) y Cabinet at ddiben craffu cyn penderfynu
(amgaeeir adroddiadau Is-bwyllgor Cyllid y Cabinet ar gyfer yr
Aelodau Craffu) Cofnodion: Craffodd
y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet: Rhaglen
Sgiliau a Thalent Bargen Ddinesig Bae Abertawe Darparwyd gwybodaeth i'r aelodau am achos busnes Sgiliau a Thalent
Bargen Ddinesig Bae Abertawe, fel a fanylwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Nodwyd bod aelodau o'r Pwyllgor Craffu Addysg, Sgiliau a Diwylliant
a'r Pwyllgor Craffu Adfywio, Sgiliau a Diwylliant yn bresennol i gymryd rhan yn
y sgwrs. Darparwyd cyflwyniad PowerPoint ar y prosiect Sgiliau a Thalent i
aelodau a oedd yn darparu gwybodaeth bellach am yr achos busnes. Cafwyd trafodaethau am bwysigrwydd cysylltedd cynhwysol mewn ardaloedd
gwledig a'r cymoedd. Nodwyd y byddai'r prosiect Sgiliau a Thalent yn gweithio
ochr yn ochr â'r prosiect Isadeiledd Digidol i sicrhau'r canlyniadau cysylltedd
gorau posib. Byddai cysylltedd yn agwedd bwysig ar weithio yn y dyfodol ac yn
darparu cymorth gyda gweithio gartref. Trafodwyd cysylltiadau trafnidiaeth hefyd i sicrhau y gallai'r rheini
ym mhob ardal gael mynediad at gyfleoedd gwaith. Rhoddwyd sicrwydd i aelodau y
byddai prosiectau megis prosiect y ddaear yn darparu adnoddau. Amlygodd aelodau Cyd-bwyllgor Craffu Dinas-Ranbarth Bae Abertawe a
Phwyllgor Craffu'r Cabinet fod y prosiect hwn yn brosiect rhanbarthol ac y
byddai hefyd dan gylch gwaith Cyd-bwyllgor Craffu Dinas-Ranbarth Bae Abertawe.
Nododd yr aelodau y byddai'r pwyntiau a godwyd yng nghyfarfod heddiw yn cael eu
nodi ac y byddai'r cynnydd yn cael ei fonitro yng nghyfarfodydd Cyd-bwyllgor
Dinas-Ranbarth Bae Abertawe. Canmolodd aelodau'r adroddiad a manylder y prosiect. Amlygwyd ei bod
yn hanfodol i'r rheini yr oedd ganddynt swyddi ar hyn o bryd fod yn ymwybodol
o'r hyfforddiant ychwanegol sydd ar gael iddynt fel y gallant uwchsgilio'u
haddysg a'u sgiliau, gan ddarparu rhagor o gyfleoedd iddynt. Yn dilyn craffu, roedd y Pwyllgor yn gefnogol o'r argymhellion i'w hystyried gan y cabinet. Prosiect Sinema Canolfan Celfyddydau Pontardawe Rhoddwyd y diweddaraf i aelodau am gais am gymeradwyaeth i ddyrannu
£600 mil yn rhagor ar gyfer datblygu sinema allanol newydd â 70 o seddi, ac
adeiladau cysylltiedig yng Nghanolfan Celfyddydau Pontardawe, fel a fanylwyd yn
yr adroddiad a ddosbarthwyd. Nodwyd bod aelodau'r Pwyllgor Addysg, Sgiliau a Diwylliant yn
bresennol i gymryd rhan yn y drafodaeth. Cafwyd trafodaethau am y costau ychwanegol. Gofynnwyd pam roedd angen
yr arian ychwanegol a pham nad oedd wedi cael ei amcangyfrif yn y lle cyntaf.
Esboniodd swyddogion fod angen arian ychwanegol ar gyfer y gwaith adeiladu
oherwydd agweddau technegol ar yr adeilad, yn ogystal â dyluniadau mwy manwl er
mwyn creu cyfleuster sy'n well yn weledol i gwsmeriaid. Gofynnodd aelodau a fyddai'r adeilad wedi bod yn gymwys am y gronfa
codi'r gwastad. Cadarnhaodd swyddogion eu bod wedi ystyried y gronfa codi'r
gwastad, fodd bynnag ar ôl rhoi ystyriaeth i’r prosiect, roedd yn
anghymwys. Trafododd aelodau'r effaith gadarnhaol y byddai'r adeilad yn ei chael
ar y cymoedd ac roedd aelodau felly'n cefnogi'r argymhellion. Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r argymhellion i'w hystyried gan y cabinet. Adolygiad Archwilio Cymru o'r System Rheoli Perfformiad Corfforaethol
(CPMS) I dderbyn gwybodaeth am ymateb y cyngor i'r 'cyfleoedd ar gyfer gwella' a nodwyd gan ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2. |
|
Cofnodion: Nodi'r
Flaenraglen Waith. |