Lleoliad: Remotely via Mocrosoft Teams
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Gwnaeth yr aelodau canlynol ddatganiad o fudd ar
ddechrau'r cyfarfod: Y Cynghorydd P Richards Parthed
cynrychiolaeth y cyngor ar gyrff allanol gan mai ef yw cynrychiolydd y cyngor
ar gyfer gwasanaethau Gofal a Thrwsio Castell-nedd Port Talbot. Y Cynghorydd S Rahaman Parthed
cynrychiolaeth y cyngor ar gyrff allanol gan ei fod yn un o gynrychiolwyr y
cyngor ar Gymdeithas Cymunedau Lleiafrifoedd Ethnig a Du Castell-nedd Port
Talbot ac ar hyn o bryd mae'n ysgrifennydd y gymdeithas. Y Cynghorydd S Reynolds Parthed y
newidiadau i gynrychiolaeth Tai Tarian gan mai hi yw cynrychiolydd y cyngor ar
fwrdd gwirfoddol Tai Tarian. Y Cynghorydd D Jones Parthed
cynrychiolaeth y cyngor ar gyrff allanol gan ei bod yn un o gynrychiolwyr y
cyngor ar Gymdeithas Cymunedau Lleiafrifoedd Ethnig a Du Castell-nedd Port
Talbot ac mae'n aelod o fwrdd Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Castell-nedd Port
Talbot (CGGCNPT) mewn cymhwyster annibynnol. Y Cynghorydd S Penry Parthed
Cynrychiolaeth y Cyngor ar Gyrff Allanol gan ei bod yn un o gynrychiolwyr y
cyngor ar fwrdd Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot
(CGGCNPT). Y Cynghorydd L Jones Parthed
Cynrychiolaeth y Cyngor ar Gyrff Allanol gan ei bod yn un o gynrychiolwyr y
cyngor ar Gymdeithas Cymunedau Lleiafrifoedd Ethnig a Du Castell-nedd Port
Talbot . Y Cynghorydd N Hunt Parthed Cynrychiolaeth y Cyngor ar
Gyrff Allanol gan ei fod yn aelod o fwrdd Ardal Gwella Busnes Port Talbot (BID)
mewn cymhwyster annibynnol. |
|
Craffu Cyn Penderfynu ·
Dewis eitemau
priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau
ar gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar
agenda'r Cabinet: Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020 - 2024 Eglurwyd bod Cynllun Cydraddoldeb Strategol
2020-2024 yn cael ei gyflwyno i'r Aelodau mewn dwy ran: ·
Rhan un – yr amcanion
cydraddoldeb strategol a'r holl wybodaeth berthnasol arall yr oedd yn ofynnol
ei chynnwys yn y cynllun er mwyn sicrhau bod y cyngor yn bodloni'r holl
reoliadau cydraddoldeb. Soniwyd bod y comisiwn yn gofyn bod yr holl gynlluniau
cydraddoldeb strategol ar waith erbyn mis Hydref. Nodwyd bod angen cwblhau gwaith ar y camau gweithredu a
fydd yn sail i gyflawni'r amcanion a geir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd; roedd
y gwaith hwn eisoes wedi dechrau, gyda thrafodaethau'n cael eu cynnal o fewn y Gymdeithas
Cymunedau Lleiafrifoedd Ethnig a Du ac ymhlith y staff, a byddai'n ffurfio
cynllun gweithredu. ·
Rhan dau – y cynllun
gweithredu ar gyfer cyflawni'r amcanion a gyflwynir i Bwyllgor Craffu'r Cabinet
tua diwedd y flwyddyn. Awgrymodd yr Aelodau pan fyddai unigolion yn
cyflwyno cais am swydd o fewn y cyngor, y dylid rhoi rhif i'w cais yn hytrach
na’u henw er mwyn osgoi unrhyw gysylltiadau â rhyw, ethnigrwydd ac ati. Nodwyd
y gellid trafod hyn yn ail ran cyflawni'r cynllun cydraddoldeb strategol, pan
fyddai'r camau gweithredu'n cael eu cyflwyno. Cafwyd dyfyniad yn yr adroddiad a ddosbarthwyd sef
'fel person di-Gymraeg sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru, rwyf eisoes yn
teimlo bod polisi ac arferion Llywodraeth Cymru yn gwahaniaethu yn fy erbyn'.
Gofynnodd yr Aelodau a oedd yr unigolyn wedi rhoi unrhyw fanylion mwy penodol
mewn perthynas â'i bryderon. Nodwyd na ddarparwyd rhagor o fanylion, fodd
bynnag byddai swyddogion yn ceisio penderfynu beth arall y gallai'r cyngor fod
yn ei wneud a pha wybodaeth ychwanegol y gellid ei chasglu mewn ymarferion
ymgynghori yn y dyfodol. Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn
gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet. Cynrychiolaeth ar Gyrff Allanol (Cadarnhaodd y Cynghorydd S Rahaman ei fudd ar y pwynt
hwn a gadawodd y cyfarfod) (Cadarnhaodd y Cynghorydd P Richards ei fudd ar y pwynt hwn
a gadawodd y cyfarfod) (Cadarnhaodd y Cynghorydd D Jones ei budd ar y
pwynt hwn a gadawodd y cyfarfod) (Cadarnhaodd y Cynghorydd N Hunt ei fudd ar y pwynt
hwn a gadawodd y cyfarfod) Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad ar Gynrychiolaeth y
Cyngor ar Gyrff Allanol i ystyried manteision ac anfanteision Aelodau'n cael eu cynnwys yn ffurfiol ar fyrddau
gwirfoddol detholiad o sefydliadau. Roedd swyddogion wedi cynnig dewisiadau
amgen i'r trefniad i amddiffyn Aelodau rhag y gwrthdrawiadau buddiannau a
fyddai'n codi mewn perthynas â pharhau â'r trefniadau presennol. Amlygwyd nad oedd canllawiau penodol gan CLlLC ar y
mater hwn, ac yn hytrach mater i gynghorau unigol oedd penderfynu pa drefniadau
y dylid eu rhoi ar waith a pha rôl roeddent yn rhagweld y byddai eu Haelodau’n
ei chael yn y gymuned. O ran yr hyn yr oedd cynghorau eraill wedi'i wneud, nodwyd bod nifer o gynghorau lle nad oedd Aelodau'n rhan o fyrddau a chynghorau eraill lle roeddent yn gwneud hynny, ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2. |