Lleoliad: Via Microsoft Teams
Rhif | Eitem |
---|---|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 57 KB • 29 Ionawr 2020 • 5 Chwefror 2020 • 12 Chwefror 2020 • 19 Chwefror 2020 • 5 Mawrth 2020 • 21 Mai 2020 • 25 Mehefin 2020 • 23 Gorffennaf 2020 • 30 Gorffennaf 2020 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd canlynol: ·
29 Ionawr 2020 ·
5 Chwefror 2020 ·
12 Chwefror 2020 ·
19 Chwefror 2020 ·
5 Mawrth 2020 ·
21 Mai 2020 ·
25 Mehefin 2020 ·
23 Gorffennaf 2020 ·
30 Gorffennaf 2020 |
|
Craffu Cyn Penderfynu ·
Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu
cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr
Aelodau Craffu) Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad i'r Pwyllgor
i ystyried parhad casgliadau tecstilau ar ymyl y ffordd. Gofynnodd Aelodau sut byddai'r
grwpiau cymunedol neu'r banciau tecstilau yn gallu cael pris ymarferol, os na
allai'r cyngor ei gael, drwy gasglu o ymyl y ffordd Eglurwyd nad oedd marchnad
ar gyfer y tecstilau cymysg yr oedd y cyngor yn eu casglu; roedd marchnad ar
gyfer dillad ailddefnyddiadwy oedd wedi'u didoli, ond pe bai'r cyngor yn
didoli'r tecstilau cymysg, byddai angen i'r incwm fod yn fwy na chost y didoli
er mwyn iddo fod yn ddichonadwy i'r cyngor, a chadarnhawyd gan swyddogion mai
nid fel yna yr oedd hi. Holwyd a oedd gan y cyngor
farchnad am decstilau a gasglwyd yn y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff cartref
(CAGC). Amlygodd swyddogion nad oedd gan y cyngor farchnad ar gyfer ailgylchu,
a bod y farchnad yn y sector gwirfoddol a oedd yn barod i fynd ati i ddidoli'r
tecstilau cymysg. Fodd bynnag roedd gan y cwmni gwastraff, FCC Environment,
sy'n gweithredu safleoedd y cyngor ar hyn o bryd, fynediad at y marchnadoedd
hynny. Cadarnhawyd bod y tecstilau a gasglwyd yn CAGC y cyngor yn mynd i gael
eu hanfon i'w didoli. Awgrymodd swyddogion y gallai
aelodau rannu eu profiadau cymunedol â'i gilydd i drosglwyddo gwybodaeth mewn
perthynas â threfniadau eraill er mwyn cael mynediad at ailgylchu, gan fod
nifer o fannau 'Cash for Clothes' wedi'u trefnu ledled y fwrdeistref sirol;
nodwyd hefyd y gallai swyddogion rannu manylion partïon y gwyddys eu bod yn
cynnig arian parod am ddillad, ac yn amodol ar gymeradwyaeth, fanylion
cynrychiolwyr cymunedol sy'n trefnu digwyddiadau. Amlygodd Aelodau fod cyfle i
godi arian ar gyfer y gymuned drwy 'Cash for Clothes', a hyd yn oed gyda'r
pandemig presennol, gellid ei wneud yn ddiogel a gellid dilyn rheolau cadw
pellter cymdeithasol. Ychwanegwyd bod angen i Aelodau fod yn ymwybodol bod
llawer o decstilau yn mynd i safleoedd tirlenwi yn y pen draw oherwydd bod llai
o hen ddillad yn cael eu casglu ar hyn o bryd. O ran amserlenni, pe bai'r
gwasanaeth casglu o ymyl y ffordd yn dod i ben, nodwyd y byddai angen rhoi o
leiaf un mis o rybudd, a digon o amser hefyd i hysbysu'r cyhoedd o'r newid. Gofynnodd Aelodau a fyddai'r
adnoddau casglu'n cael eu cadw e.e. cerbydau, pe bai'r amgylchiadau economaidd
yn newid ar gyfer casglu o ymyl y ffordd, a chadarnhaodd swyddogion y byddai;
Ychwanegwyd y byddai dwy flynedd yn mynd heibio cyn bod angen newid unrhyw un
o'r cerbydau cyntaf. Mynegwyd pryderon ynghylch y diffyg casglu deunyddiau oherwydd y pandemig a'r cyfyngiadau symud presennol; pe bai hyn yn parhau am amser hir, gallai'r deunyddiau gael eu gwaredu mewn safle tirlenwi yn y pen draw, a/neu gael eu tipio'n anghyfreithlon yn lle. Nodwyd bod y cyngor yn gweithio'n unol â'r strategaeth genedlaethol sy'n bolisi sy'n annog lefel uchel o ailddefnyddio, ailgylchu a chompostio; caiff y deunyddiau na all y cyngor eu hailddefnyddio, eu hailgylchu neu eu compostio i weithfeydd Energy for Waste yn hytrach na safleoedd tirlenwi. O ran aelodau'r cyhoedd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2. |