Lleoliad: Via Microsoft Teams
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Gwnaeth yr aelod canlynol ddatganiad o fudd ar
ddechrau'r cyfarfod: Y Cynghorydd S Rahaman parthed – Hen Safle Lido Afan (Yn eithriedig dan
Baragraff 14) gan fod ganddo fusnes teuluol wrth ymyl y safle. |
|
Craffu Cyn Penderfynu ·
Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu
cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr
Aelodau Craffu) Cofnodion: Dewisodd y pwyllgor graffu ar yr eitemau canlynol
ar agenda Bwrdd y Cabinet: Diweddaru a Monitro'r Gyllideb Derbyniodd Aelodau drosolwg o
oblygiadau ariannol COVID-19 ar Adnoddau Ariannol y Cyngor a Chyllideb 2020/21,
fel a nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Tynnwyd sylw at y ffaith bod
camgymeriad ar dudalen 4 yr adroddiad sy'n datgan 'ac rydym yn aros am
gadarnhad gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â £1 arall'; cadarnhawyd y dylid
diwygio'r ffigur i £1.8m. Nododd swyddogion fod
Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £188.5m yn wreiddiol i awdurdodau lleol adennill
costau a cholled incwm drwy'r Gronfa Caledi - roedd hyn yn berthnasol i'r
cyfnod hyd at ddiwedd mis Mehefin yn bennaf. Nodwyd bod y cyngor wedi cyflwyno
hawliadau am wariant ychwanegol a gafwyd (£4.133m) a'i fod yn dal i aros am
gadarnhad o'r ad-daliad am yr hawliad a wnaed ym mis Gorffennaf. Dywedwyd wrth
yr Aelodau fod Llywodraeth Cymru, ers ysgrifennu'r adroddiad, wedi cytuno i
ad-dalu costau o £409k ar gyfer prydau ysgol am ddim a thua £207k o gostau
gwasanaethau cymdeithasol; gan adael tua £156k o arian dyledus ar gyfer costau
ychwanegol, yr oedd Llywodraeth Cymru wedi dweud na fyddent yn eu had-dalu.
Soniwyd bod y rhan fwyaf o'r arian dyledus ar gyfer costau caledwedd TGCh
ychwanegol yr oedd y cyngor wedi'u cael, lle'r oedd Llywodraeth Cymru ond yn
ad-dalu 50% o gostau a 25% o gostau cyfathrebu a marchnata'r cyfryngau. Nododd y Pwyllgor fod
Llywodraeth Cymru wedi ad-dalu gwerth £2.3m o incwm a gollwyd mewn perthynas â
pharciau, canolfannau hamdden, llyfrgelloedd, theatrau, prydau ysgol, gwastraff
masnach a pharcio; a bod y cyngor wedi cyflwyno cais pellach am £1.8m a oedd yn
ymwneud yn bennaf ag ysgolion, Hillside, incwm rhent o wasanaethau amgylcheddol
ac incwm o brosiectau cyfalaf. Tynnwyd sylw at y ffaith bod angen eglurhad o
hyd ynghylch sut y byddai Llywodraeth Cymru'n adolygu hawliadau ar gyfer colled
incwm, ond roedd yr adroddiad yn tybio y byddai £400k o'r £1.8m yn cael ei
ad-dalu ar hyn o bryd. Yn dilyn hyn, cadarnhawyd bod
Llywodraeth Cymru, ar 17 Awst 2020, wedi cyhoeddi £264m o gyllid ychwanegol i
Awdurdodau Lleol liniaru ymhellach yn erbyn effaith ariannol COVID-19 ac, fel
rhan o'r cyhoeddiad, nodwyd y byddai £25m yn gysylltiedig â glanhau ysgolion.
Nodwyd, o ganlyniad i hyn, fod y gorwariant rhagamcanol gwreiddiol o £10m a
adlewyrchwyd yn y dadansoddiad o'r adroddiad yn debycach i £5m ar hyn o bryd. Cafwyd trafodaeth mewn perthynas â chynnydd y blaengynllunio ariannol a'r taliadau incwm a gollwyd. Nodwyd nad oedd unrhyw sicrwydd gan Drysorlys y DU na'r Llywodraeth y byddai taliadau canlyniadol pellach yn cael eu rhoi yn y dyfodol, felly ni allai Llywodraeth Cymru warantu unrhyw daliadau incwm pellach a gollwyd; fodd bynnag, roeddent yn talu'r rhan fwyaf o'r hawliadau ac yn monitro'n effeithlon. Soniwyd y byddai angen i'r cyngor ddechrau edrych ar eu trefn treth y cyngor eu hunain, lle bu rhywfaint o arian ychwanegol ar gyfer cynlluniau rhyddhad treth y cyngor; ychwanegwyd y byddai gan y cyngor well syniad dros y misoedd nesaf ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2. |
|
Mynediad i gyfarfodydd Yn
unol ȃ Rheoliad 4 (3)
a (5) Offeryn Statudol 2001
Rhif 2290, gellir gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o gynnwys
datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff
14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: PENDERFYNWYD:Gwahardd y cyhoedd, yn unol ag Adran 100A (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol a oedd yn cynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen
12A y Ddeddf uchod. |
|
Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu · Dewis eitemau
priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu
cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr
Aelodau Craffu) Cofnodion: Dewisodd y pwyllgor graffu ar yr eitemau canlynol
ar agenda Bwrdd y Cabinet: Hen Safle Lido Afan Derbyniodd yr Aelodau wybodaeth am hen Safle Lido
Afan fel a nodir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd. Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn
gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet.
|