Lleoliad: Siambr y Cyngor - Canolfan Ddinesig Port Talbot. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o gysylltiadau Cofnodion: Gwnaeth yr aelod canlynol ddatganiad o fudd ar
ddechrau'r cyfarfod: Y Cynghorydd S Reynolds: Parthed Polisi Hysbysebu a Noddi (papurau Bwrdd y
Cabinet) gan mai hi yw cynrychiolydd yr awdurdod ar gyfer sefydliadau trydydd
sector amrywiol. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 65 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd blaenorol a
gynhaliwyd ar 30 Hydref, 20 Tachwedd, 9 Rhagfyr 2019 a 10 Ionawr 2020. |
|
Craffu cyn penderfynu ·
Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu
cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet ar gufer yr Aelodau
Craffu) Cofnodion: Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar
agenda'r Cabinet: Sefydlu Cadetiaid y Maer Canmolodd yr aelodau ymrwymiad y cyngor at bobl
ifanc, a fyddai'n helpu iddynt gael profiadau yn y dyfodol. Nododd yr aelodau y penodir tri chadét y Maer ar
gyfer pob blwyddyn ddinesig o fis Mai 2020. Byddai'r rhain yn cael eu dewis o
aelodau'r fyddin, y llynges frenhinol a Chadetiaid yr Awyrlu Brenhinol. Byddai
darn o waith yn cael ei gynnal ar gyfer estyn y cyfrifoldeb i gynnwys cadetiaid
eraill, megis yr heddlu, y gwasanaeth ambiwlans a'r gwasanaeth tân. Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn
gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet. Polisi Hysbysebu a Noddi Trafodwyd cwmpas y polisi yn unol â chaffael
corfforaethol/moesegol, tendro a chreu incwm. Trafodwyd y trefniadau presennol
ynghylch noddi cylchfannau ac a fyddai'r trefniadau hyn yn parhau neu'n cael eu
cyflawni'n fewnol ar ddiwedd cyfnod y contract cyfredol. Roedd y pynciau eraill a drafodwyd yn cynnwys: ·
Ceisiadau cynllunio a
chaniatâd priffyrdd ·
Cydweithio â sefydliadau
trydydd sector ·
Sicrhau bod hysbysebu'n parchu'r amgylchedd. Oherwydd newidiadau diweddar i bortffolio aelodau'r
Cabinet, nododd yr aelodau y dylid newid y cyfeiriadau at y Dirprwy Arweinydd
yn y polisi, fel y manylwyd yn nhudalen 53 adroddiad Bwrdd y Cabinet a
ddosbarthwyd o 'Ddirprwy Arweinydd' i 'Aelod y Cabinet Dros Gyllid'. Yn dilyn y broses graffu,
roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet. |
|
Blaenraglen Waith 2019-20 PDF 83 KB Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y Blaenraglen Waith ar gyfer
2019/2020. |