Lleoliad: Siambr y Cyngor - Canolfan Ddinesig Port Talbot. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Craffu Cyn Penderfyniad Dewis eitemau priodol o
Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu cyn
penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet ar gufer yr
Aelodau Craffu) Cofnodion: Craffodd y
Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar agenda'r Cabinet: Ymateb ar y
cyd i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru)
2015 Trafododd yr
aelodau gwmpas y Ddeddf mewn perthynas รข'r gwasanaethau a'r gefnogaeth a
gynigir yn lleol. Gall dynion a menywod gael mynediad at y gwasanaethau hyn yr
un mor hawdd, ac mae nifer o ddynion eisoes wedi derbyn cymorth yn yr ardal
leol. Tueddiad a
nodwyd yn ddiweddar oedd cam-drin domestig gan blant tuag at eu rhieni. Gellir
cynnig cymorth hefyd i bobl hŷn sydd wedi profi cam-drin emosiynol neu
ariannol gan eu partneriaid. Mae gwaith
partneriaeth yn allweddol, a chafodd trinwyr gwallt lleol eu briffio ynghylch
ble i gyfeirio dioddefwyr cam-drin domestig/trais posib, oherwydd y gallai rhai
cleientiaid fod yn fwy parod i ddweud pethau personol neu rannu gwybodaeth gyda
thrinwyr gwallt. Roedd hyn yn nodi'r dulliau gwahanol y mae angen eu defnyddio
i hybu pobl wahanol i gyfaddef. Enghraifft
weithredol arall o weithio mewn partneriaeth oedd yr heddlu, sy'n rhannu
gwybodaeth am adroddiadau o gam-drin domestig gydag ysgolion. Gellid monitro a
rhoi cymorth i ddisgyblion y mae eu rhieni wedi profi cam-drin domestig dros y
penwythnos neu'r gwyliau ysgol lle bo angen. Yn dilyn y
broses graffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y
Cabinet. |
|
Blaenraglen Waith 2019-20 PDF 83 KB Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y Blaenraglen Waith ar gyfer 2019/2020. |