Lleoliad: Siambr y Cyngor - Canolfan Ddinesig Port Talbot. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Gwnaed datganiad o fuddiant gan Brif Weithredwr
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ar ddechrau'r cyfarfod: Steven Phillips, parthed trefniadau'r dyfodol mewn perthynas â
chyfranddaliad Cyngor Castell-nedd Port Talbot yng nghwmnïau Baglan Bay Company
Limited a Coed Darcy Limited, gan ei fod yn Gyfarwyddwr y cwmnïau dan sylw. Gan
fod ei fuddiant yn rhagfarnol, gadawodd yntau'r ystafell yn ystod y drafodaeth
a'r pleidleisio am hynny. |
|
Dewis eitemau priodol o agenda'r Cabinet (Adroddiadau'r Cabinet yn amgaeedig ar gyfer yr aelodau craffu) Cofnodion: Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar
agenda'r Cabinet: Cynllun Gweithredu'r Cymoedd - Adroddiad Cynnydd Trafododd yr aelodau'r diffyg cludiant ar hyn o
bryd i wasanaethu cymunedau'r cymoedd. Nodwyd bod Cyd-bwyllgor y Fargen
Ddinesig wedi sefydlu Is-bwyllgor
Trafnidiaeth cysgodol yn ddiweddar, gyda chytundeb Llywodraeth Cymru, i fynd
i'r afael â blaenoriaethau'r dyfodol. Er bod angen gwneud llawer o waith yn yr
ardal hon, roedd y blociau adeiladau'n cael eu rhoi yn eu lle i wella'r
sefyllfa gyfredol. Trafodwyd deiliadaeth uchel unedau busnes bach yng
nghymunedau'r cymoedd, a nododd aelodau'r dyraniad ychwanegol a wnaed yn y
rhaglen gyfalaf adfywio er mwyn gallu manteisio ar gyfleoedd ariannu posib. Trafodwyd enghreifftiau o fentrau cymdeithasol, gan
gynnwys y gwasanaeth gofal cartref yn y dyfodol. Byddai'r gwasanaeth yn fwy
daearyddol yn y dyfodol, ac yn darparu swyddi lleol i bobl leol. Trafodwyd y
gwahaniaeth rhwng y gwasanaeth cymorth cartref (gofal personol lefel isel) a'r
gwasanaeth gofal cartref (lefel uwch a pheth gofal meddygol). Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn
gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet. Trefniadau'r Dyfodol mewn perthynas â
Chyfranddaliadau Cyngor Castell-nedd Port Talbot yng nghwmïau Baglan Bay
Company Limited a Coed Darcy Limited. Mewn ymateb i gwestiynau'r aelodau, eglurodd
swyddogion mai pris y cyfranddaliadau a ddaliwyd gan y cyngor mewn perthynas â
Coed Darcy Limited oedd £1. Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn
gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet. |
|
Blaenraglen Waith 2019-2020 PDF 83 KB Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y Blaenraglen Waith ar gyfer
2019/2020. |