Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Charlotte Davies - 01639 763745
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd y Pwyllgor. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Karen Jones - Parthed Eitem 5 o bapurau'r Cabinet - Rhoi Indemniad Swyddog i Karen Jones mewn perthynas ag Uned Ddata Llywodraeth Leol Cymru - gan mai hi yw'r swyddog sy'n cael ei drafod yn yr adroddiad. Datganodd Karen Jones fudd rhagfarnol yn y cyfarfod a gadawodd y cyfarfod pan drafodwyd yr eitem. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 381 KB ·
10/03/2023 ·
05/04/2023 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwywyd y cofnodion canlynol
fel cofnod cywir: • 10
Mawrth 2023 • 5 Ebrill 2023 |
|
Craffu Cyn Penderfynu Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet aa gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Rhoi Indemniad Swyddog i
Karen Jones mewn perthynas ag Uned Ddata
Llywodraeth Leol Cymru (Ailddatganodd Karen
Jones ei budd a gadawodd y cyfarfod ar gyfer yr eitem hon yn unig) Diweddarwyd yr aelodau ar y cais
i roi indemniad swyddog i'r Prif Weithredwr yng ngoleuni ei rôl
fel cyfarwyddwr Uned Ddata Llywodraeth
Leol Cymru. Gofynnodd yr aelodau a fyddai'r
swydd yn derbyn tâl am y gwaith sydd ynghlwm wrthi
Esboniodd swyddogion na fyddai tâl yn cael
ei roi ar gyfer y swydd ac y byddai'r Prif Weithredwr
yn cyflawni'r rôl ar sail wirfoddol oherwydd ei harbenigedd. Yn dilyn craffu, cafodd yr adroddiad gefnogaeth i fynd gerbron y Cabinet. Archwilio Cymru - Diweddariad ar Sefyllfa
Ariannol Sicrwydd ac Asesu Risgiau Cadarnhaodd y Cadeirydd nad oedd gan y pwyllgor craffu gyfres o ymholiadau ar gyfer yr eitem hon, fodd bynnag, nodwyd bod yr Aelod
Cabinet perthnasol yn dymuno
cyflwyno'r adroddiad ar lafar i'r pwyllgor. Diweddariad mewn perthynas â chyflwyno Cynllun Cymorth Caledi Castell-nedd Port Talbot Rhoddwyd diweddariad i'r aelodau
mewn perthynas â chyflwyno Cynllun Cymorth Caledi Castell-nedd Port Talbot, fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Roedd Katie Cook o Gymru Gynnes
yn bresennol yn y cyfarfod
i gyflwyno'r adroddiad. Cafwyd trafodaethau ynghylch
cysyniad cychwynnol y Cynllun Cymorth Caledi. Nodwyd bod aelodau wedi gofyn am y cynllun yn wreiddiol i gefnogi'r cyhoedd a oedd yn derbyn
budd-daliadau a hefyd etholwyr
sy'n gweithio y mae'r argyfwng costau byw cyfredol
yn effeithio arnynt. Gofynnodd yr aelodau a fyddai modd rhoi
ystyriaeth i gael ymagwedd helaethach o ran y meini prawf i sicrhau
bod mwy o gwmpas mewn perthynas â'r rheini y byddai
angen mwy o gefnogaeth arnynt. Gofynnodd yr aelodau a fyddai
modd iddynt dderbyn dadansoddiad fesul ward o'r rheini sydd wedi
gofyn am y cyllid. Gofynnodd yr aelodau hefyd a ellid
darparu taflenni Cymru Gynnes i aelodau i'w rhannu â'u
hetholwyr. Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad. |
|
Eitemau brys (Unrhyw eitemau
brys (boed yn gyhoeddus neu
wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn
y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972) Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw eitemau brys. |