Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Charlotte Davies - 01639 763745
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd y Pwyllgor. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni
chafwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Craffu Cyn Penderfynu Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet aa gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Cafodd
yr aelodau’r wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniad Cystadleuaeth Porthladdoedd
Rhydd Cymru a gyhoeddwyd gan lywodraethau Cymru a'r DU a’r cais i fwrw ymlaen
â’r gwaith sy’n gysylltiedig â chyflwyno Achos Busnes Amlinellol, sef cam nesaf
y broses polisi Porthladd Rhydd, fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Dywedodd
y swyddogion wrth y pwyllgor fod camgymeriad yn argymhelliad (e) fel y nodwyd
yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.Nodwyd bod argymhelliad (e) yn darllen: ·
‘Cymeradwyo’r ymrwymiad o £250,000 o refeniw i baratoi’r Achos Busnes
Amlinellol a’r Achos Busnes Ariannol ac yn nodi y bydd unrhyw geisiadau am
ymrwymiad ariannol ychwanegol yn cael eu dwyn yn ôl i’r Cabinet i’w cymeradwyo
ymhellach;’ – 200,000 ac nid 250,000. Nodwyd
y dylai £250,000 ddarllen fel £200,000 ac nid £250,000 fel y nodwyd yn yr
adroddiad. Roedd
David Gwynne o Eurus Consulting yn bresennol i gyflwyno'r adroddiad. Holodd
yr Aelodau ynghylch y manylion ariannol a nodwyd yn yr adroddiad.Nodwyd bod
risg ariannol o £150,000 i £250,000.Roedd yr aelodau'n bryderus a fyddai hyn yn
cael effaith ar y cronfeydd wrth gefn y gyllideb sydd i ddod pe na bai'r arian
yn cael ei adennill o fewn y flwyddyn ariannol hon.Rhoddodd swyddogion sicrwydd
i'r aelodau y byddai'r cronfeydd wrth gefn yn ddigon cyfforddus i ymdrin â'r
risg hon. Rhannodd
yr aelodau bryderon mewn perthynas â'r trefniadau llywodraethu gyda'r paneli
ychwanegol.Sicrhaodd y Prif Weithredwr yr aelodau y byddent yn cael cyfle i
graffu a gwahodd cynrychiolwyr o’r Panel Buddsoddi yn ogystal ag ystyried eu
Cylch Gorchwyl. Holodd
yr aelodau ynghylch ym mha portffolio y bydd y Porthladdoedd Rhydd yn berthyn
iddo yn y dyfodol at ddibenion llywodraethu.Dywedodd swyddogion y byddai
Porthladdoedd Rhydd yn cael eu cynnwys ym mhortffolio Gwasanaethau'r
Amgylchedd, Adfywio a Strydlun ar gyfer craffu yn y dyfodol. Cafwyd
trafodaethau ynghylch ardrethi busnes ac archwilio cynllun budd cymunedol yn y
dyfodol.Nodwyd nad oedd swyddogion wedi derbyn arweiniad eto ynglŷn â’r
disgwyliadau ar yr hyn sydd ei angen o ran yr achos busnes, ond nodwyd bod
trafodaethau wedi cychwyn ar sefydlu’r achos busnes i sicrhau buddion
economaidd ehangach.Byddai hyn yn arwain at y budd mwyaf o ran swyddi ac
felly'r angen am dai ychwanegol. Holodd
yr Aelodau o ran addysg mewn colegau i sicrhau bod y sgiliau priodol ar gael
i'r rheini yng nghymuned Castell-nedd Port Talbot i gael y swyddi posib
hyn.Sicrhaodd swyddogion fod sgyrsiau'n cael eu cynnal â'r swyddogion
perthnasol a phartïon allanol a byddai diweddariadau ar uwchsgilio o fewn
colegau yn cael eu darparu i aelodau maes o law. Yn
dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhellion (gan gynnwys diwygiad technegol
swyddogion i Argymhelliad (e)) i'w cyflwyno i’r Cabinet. |
|
Eitemau brys (Unrhyw eitemau
brys (boed yn gyhoeddus neu
wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn
y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972) Cofnodion: Nid
oedd unrhyw eitemau brys. |