Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot and Microsoft Teams
Cyswllt: Charlotte Davies - 01639 763745
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod gan
gynnwys Mr Noelwyn Daniel, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Strategol a
Chorfforaethol a oedd wedi dechrau yn y swydd yn ddiweddar. Cadarnhawyd y byddai'r pwyllgor yn craffu ar
eitemau 9, 12, 13, 14, 17 a 18 o Agenda Bwrdd y Cabinet. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Y Cyng. P Rogers - Eitem 18 ar Agenda'r Cabinet –
personol, nad yw'n niweidiol Y Cyng. H. C Clarke – Eitem 17 ar Agenda'r Cabinet
– personol, nad yw'n niweidiol |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 202 KB ·
25 Ebrill 2022 ·
10 Mai 2022 ·
17 Mai 2022 ·
24 Mai 2022 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd
ar 25 Ebrill 2023, 10 Mai 2023, 17 Mai 2023, 24 Mai 2023 fel cofnod cywir. |
|
Adroddiad Grŵp Gorchwyl a Gorffen Strategaeth Hybu'r Gymraeg PDF 224 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Dywedodd yr Aelodau fod y Grŵp Gorchwyl a
Gorffen wedi bod yn gynhyrchiol ac wedi cynhyrchu syniadau diddorol, ac fe
fynegon nhw eu diddordeb mewn parhau fel aelodau i ymwneud â'r Gymraeg wrth
symud ymlaen. Dylai'r strategaeth fod yn ddogfen fyw sy'n cael ei hadolygu, ei
monitro a'i diweddaru'n rheolaidd i gryfhau ymwybyddiaeth a defnydd o'r iaith
ar draws ein cymunedau ac yng ngwaith y cyngor. Nodwyd bod y strategaeth yn
bwysig ar draws y cyngor cyfan ond yn enwedig o fewn y Gwasanaethau
Cymdeithasol. Dywedodd yr Aelodau ei bod wedi bod yn anodd i'r awdurdod,
partneriaid a sefydliadau cymunedol ddatblygu'r strategaeth flaenorol oherwydd
yr aflonyddwch a achoswyd gan y pandemig. Cytunodd Pwyllgor Craffu'r Cabinet i gymeradwyo
canfyddiadau'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn ogystal â'r Strategaeth
Hyrwyddo'r Gymraeg ddiwygiedig i'r Cabinet.
|
|
Craffu Cyn Penderfynu Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet aa gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Premiymau Treth y Cyngor – Cartrefi Gwag Tymor Hir
ac Ail Gartrefi Gofynnodd yr Aelodau fod yr amgylchedd ariannol
presennol yn cael ei ystyried pan fydd unrhyw benderfyniadau'n cael eu gwneud. Ychwanegodd yr aelodau fod effaith ariannol ac y
gellid cynhyrchu incwm pe bai'r polisi'n cael ei roi ar waith. Yn dilyn
ymgynghoriad, deuir ag adroddiad yn ôl i'r pwyllgor cyn i'r penderfyniad
terfynol gael ei wneud. Ni fydd unrhyw benderfyniad yn cael ei roi ar waith tan
y flwyddyn ariannol y flwyddyn ar ôl y flwyddyn nesaf. Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhellion i'w
cyflwyno i'r Cabinet. Monitro Perfformiad Chwarter 4 Gofynnodd yr Aelodau am ragor o wybodaeth am yr
amseroedd aros cyfartalog ar gyfer y rheini sy'n ymdrin â galwadau. Cadarnhaodd
swyddogion fod adroddiad manwl ynghylch Gwasanaethau Cwsmeriaid a Pherfformiad
wedi ei roi mewn seminar i aelodau yn gynharach eleni. Gan fod y Gwasanaethau
Cwsmeriaid bellach yn rhan o'r gyfarwyddiaeth Pobl a Datblygu Sefydliadol,
bwriedir cynnal adolygiad llawn a dyma fydd tasg gyntaf Rheolwr y Gwasanaethau
Cwsmeriaid sydd newydd ei benodi a bydd aelodau'n rhan o'r broses adolygu. Mae
llawer o ffactorau sy'n effeithio ar berfformiad ymdrin â galwadau, a tharged y
dangosydd perfformiad presennol yw 40 eiliad sy'n amser byr pan fydd staff yn cwblhau tasgau eraill. Gofynnodd yr aelodau a
oedd amseru'r alwad yn dechrau ar ôl y neges Gymraeg/Saesneg a recordiwyd neu
pan atebwyd yr alwad ffôn? Cadarnhaodd swyddogion fod yr amseru'n dechrau ar ôl
neges a recordiwyd. Ailadroddodd yr aelodau eu cynnig i fod yn rhan o'r broses
adolygu. Gofynnodd yr Aelodau pam nad oedd y gyfradd cwblhau
hyfforddiant diogelu gorfodol yn uwch. Bydd swyddogion yn cael rhagor o
wybodaeth gan Adnoddau Dynol a bydd yr eitem hon yn cael ei hychwanegu at
agenda nesaf y cyfarfod Craffu. Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad. Datganiad Sefyllfa Alldro a Chronfeydd Refeniw
2022-23 Mewn perthynas â'r gyllideb cludiant o'r cartref
i'r ysgol, gofynnodd yr aelodau a oedd unrhyw waith wedi'i wneud yn ystod y
broses o bennu'r gyllideb mewn perthynas â'r gorwariant ac a oedd ffyrdd
arloesol eraill o ddarparu'r gwasanaeth hwn. Cadarnhaodd swyddogion fod ystod o
adolygiadau strategol ar gludiant yn parhau, ac y byddai aelodau yn cael clywed
am ganlyniad hyn fel rhan o'r broses pennu'r gyllideb ar gyfer eleni. Mae
swyddogion yr un mor bryderus am y gorwariant a'r pwysau ar y gyllideb o'r
cartref i'r ysgol. Diolchodd yr Aelodau i'r staff am eu gwaith caled a'r
problemau yr oeddent wedi'u goresgyn yn ddiweddar. Roedd yr Aelodau'n falch, mewn perthynas â
lleoliadau y tu allan i'r sir, fod pobl ifanc yn cael eu haddysgu'n agosach at
adref a gwnaethant sylwadau hefyd ei fod yn braf gweld cyllid ychwanegol ar
gyfer y Gwasanaeth Cwnsela mewn Ysgolion.
Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ar symudiad tanwariant i gronfeydd wrth gefn a'r cyfeiriad yn yr adroddiad at 'allu i gefnogi prosiectau adfywio' ac fe ofynnon nhw ar gyfer beth y gellid defnyddio'r gronfa wrth gefn. Cadarnhaodd swyddogion y gellid defnyddio'r cyllid o bosib ar gyfer cyflogi ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|
Blaenraglen Waith 2023-2024 PDF 413 KB Cofnodion: Tynnwyd yr eitem yn ôl. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |
|
Mynediad i gyfarfodydd Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod. Cofnodion: Penderfynwyd: gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau
canlynol yn unol â Rheoliad 4 (3) a (5) o Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290 a'r paragraffau
eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12A Deddf
Llywodraeth Leol 1972. |
|
Craffu ar Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu Dewis
eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu cyn
penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet ar gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (yn eithriedig o dan
Baragraff 14) Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhellion i'w
cyflwyno i Fwrdd y Cabinet. Hen Ganolfan Hamdden Castell-nedd yn Heol Dyfed,
Castell-nedd (yn eithriedig o dan Baragraff 14) Yn dilyn craffu, cymeradwywyd yr argymhellion i'w
cyflwyno i'r Cabinet. |