Lleoliad: Cyfarfod Aml-leoliad Siambr y Cyngor, Timau Port Talbot a Microsoft
Cyswllt: Charlotte Davies - 01639 763745
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw gyhoeddiadau. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 403 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar
28 Gorffennaf 2022 fel cofnod cywir. |
|
Craffu Cyn Penderfynu Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet aa gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Adroddiad
Monitro'r Gyllideb Gyfalaf 2022/23 - yn ôl diwedd mis Medi 2022 Derbyniodd yr
aelodau wybodaeth mewn perthynas â chyflawni Rhaglen Gyfalaf 2022/23. Holodd yr aelodau
ynghylch llinellau’r gyllideb yn atodiad 1 yr adroddiad a ddosbarthwyd sydd â
gwariant o 0 ar hyn o bryd. Roedd aelodau am gael sicrwydd ynghylch gwariant yr
arian hynny. Roedd gan yr aelodau ddiddordeb arbennig mewn cael rhagor o
wybodaeth ynghylch y gyllideb mewn perthynas ag 'Adfywio: Tasglu'r Cymoedd'.
Dywedodd swyddogion wrth yr aelodau y byddent yn casglu gwybodaeth y tu allan
i'r cyfarfod ac yn siarad â'r swyddogion perthnasol er mwyn darparu ymateb i'r
aelodau. Yn dilyn craffu,
roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet. Adroddiad
Monitro'r Gyllideb Refeniw 2022/2023 - yn ôl diwedd mis Medi 2022 Rhoddwyd gwybodaeth
i'r aelodau mewn perthynas â sefyllfa'r gyllideb refeniw ragamcanol y cyngor. Trafodwyd y
dyfarniad cyflog ar gyfer 2022/23 a holodd yr aelodau ynghylch yr effaith y
gallai'r dyfarniad cyflog ei chael ar ysgolion. Gofynnwyd a fyddai ysgolion yn
gallu talu'r 1% oherwydd bod y dyfarniad cyflog a ragwelir yn 5% ac mae setliad llywodraeth Cymru yn caniatáu ar
gyfer 4% yn unig. Eglurodd swyddogion y byddai'r Cyngor yn dyrannu 4% i'r
dyfarniad cyflog gan mai dyma'r hyn a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru. Tynnodd
swyddogion sylw at y ffaith, oherwydd y dyfarniad cyflog a'r costau ychwanegol,
efallai y bydd angen i ysgolion ddefnyddio cronfeydd wrth gefn i ariannu
gwarged o 2 filiwn. Nid oedd swyddogion yn ymwybodol o unrhyw ysgolion a all
fod mewn ddiffyg oherwydd y dyfarniad cyflog hwn, ond cadarnhaodd swyddogion y
byddent yn casglu dadansoddiad ac yn ei rannu gydag aelodau. Rhannodd aelodau
eu pryderon ynghylch y diffyg posib o 2 filiwn a’r defnydd o’u cronfeydd wrth
gefn. Nodwyd y bydd y gost ychwanegol o 1% mewn perthynas â chyllideb rhai
ysgolion yn sicr yn cael effaith andwyol ar y rheini sydd â chyllideb fwy o
gymharu ag ysgolion llai. Gofynnwyd bod gwybodaeth yn cael ei darparu am yr
effaith y bydd y gost ychwanegol o 1% mewn perthynas â'r dyfarniad cyflog yn ei
chael ar ysgolion cynradd ac uwchradd sydd ar gynlluniau adfer sy'n seiliedig
ar ddiffygion wrth symud ymlaen. Gofynnwyd hefyd i'r wybodaeth hon gael ei
dosbarthu i'r pwyllgor a'i throsglwyddo i'r Cadeirydd y Pwyllgor Craffu ar
Addysg, Sgiliau a Lles i'w hystyried. Holodd yr aelodau
ynghylch y costau ar gyfer cyflwyno Prydau Ysgol Am Ddim ar gyfer yr holl blant
y derbyn mewn ysgolion cynradd. Nodwyd bod costau bwyd ac ynni wedi cynyddu a
gofynnwyd a fyddai effaith ar y gyllideb, ynghyd â Llywodraeth Cymru'n
adolygu'r gyfradd fesul pryd i sicrhau bod cyllid yn sylweddol. Cadarnhaodd
swyddogion y bydden nhw'n casglu ffigurau a gwybodaeth bellach y tu allan i'r
cyfarfod. Yn dilyn Craffu,
roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet Cynllun
Ariannol Tymor Canolig 2022/23 i 2027/2028 Rhoddwyd y diweddaraf am y Cynllun Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 2023/24 i 2027/28 i aelodau, yn seiliedig ar ragdybiaethau ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
Rhaglen Gwaith Cychwynnol 2022/23 PDF 404 KB Cofnodion: Nodi'r Flaenraglen Waith. |
|
Eitemau brys (Unrhyw eitemau
brys (boed yn gyhoeddus neu
wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn
y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972) Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw gyhoeddiadau. |