Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor A/B - Canolfan Ddinesig Castell-nedd - Canolfan Ddinesig Castell-nedd. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd yr Aelod Cabinet newydd dros
Strydlun a Pheirianneg. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 90 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar
22 Ionawr 2021. |
|
Craffu Cyn Penderfynu Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn
penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Craffodd y Pwyllgor ar yr
eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet: Cynllun Rheoli Coedyddiaeth Cyflwynwyd yr wybodaeth
ddiweddaraf am Gynllun Rheoli Coedyddiaeth y cyngor i'r Pwyllgor. Hysbyswyd yr Aelodau fod y
cynllun rheoli wedi'i adolygu a'i ddiweddaru yn unol â hynny; un o'r prif
newidiadau a amlygwyd oedd ei fod bellach yn cynnwys gwybodaeth am glefyd coed
ynn. Cafwyd trafodaeth mewn
perthynas â manylion yr archwiliadau coed, yn enwedig yr ymyrraeth â cheblau
uwchben a'r ymyrraeth â derbyniad lloeren/teledu. Nodwyd yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd fod cyfrifoldeb cyfreithiol (ar y cwmnïau cyfleustodau perthnasol)
i sicrhau bod yr ardal o amgylch ceblau uwchben yn cael ei chlirio er mwyn
darparu gwasanaeth di-dor i'w cwsmeriaid; Gofynnodd yr Aelodau pe bai stryd neu
ardal benodol yn cael problemau oherwydd ymyrraeth â derbyniad lloeren/teledu,
a fyddai gan y cwmnïau lloeren yr opsiwn i dorri'r coed hynny yn ôl pe
dymunent. Cadarnhaodd swyddogion na fyddai hyn yn digwydd, gan nad oedd
ganddynt yr un pwerau statudol; rhoddwyd y pwerau statudol ar waith ar gyfer
ymyrryd â cheblau uwchben er mwyn diogelu adeiledd y ceblau. Yn dilyn y drafodaeth,
gofynnwyd a ellid gwneud unrhyw beth pe bai coed yn ymyrryd â'r rhyngrwyd neu
signal lloeren i stryd, gan fod mwy o bobl yn gweithio gartref ac yn dibynnu ar
y cysylltiadau hyn. Cadarnhaodd swyddogion yn y mathau hyn o amgylchiadau lle
yr effeithiwyd ar ardal, y byddai angen iddynt weithio gyda darparwyr
gwasanaethau i nodi sut y gallent ddarparu gwasanaethau i breswylwyr e.e. drwy
gebl; gan ystyried y polisi presennol, ni allai'r cyngor dorri coed i lawr er
mwyn gwella signal lloeren gan ei fod dan lawer o rwymedigaethau statudol i
amddiffyn coed a bioamrywiaeth. Ychwanegwyd bod adegau pan oedd gan breswylwyr
bryderon ynghylch golau, dail, cysylltiadau lloeren a diogelwch y coed; roedd
yn rhaid i fanylion y canllawiau yn yr adroddiad adlewyrchu'r rhwymedigaethau a
grybwyllwyd i amddiffyn coed. Mewn perthynas â systemau
gwraidd, soniwyd bod gwreiddiau'r coed wedi achosi i'r palmentydd godi mewn
rhai ardaloedd, gyda rhai ohonynt yn rhwystro'r llwybrau ac yn golygu nad oedd
preswylwyr yn gallu eu defnyddio. Gofynnwyd i swyddogion am wybodaeth am sut y
gellid datrys y math hwn o fater; pan fydd swyddogion yn derbyn adroddiadau am
y digwyddiadau hyn, bydd rhywun yn cael y dasg o archwilio'r ardal, ac os oes
angen, byddai'r tarmac yn cael ei dorri allan a byddai proses o'r enw 'tocio
gwraidd' yn cael ei chynnal, cyn ailosod y tarmac wedyn. Nodwyd nad oedd y
broses hon bob amser yn bosib, ond bod swyddogion yn anelu at ei gwneud gan ei
bod yn cadw'r goeden ac yn cadw'r briffordd mewn cyflwr ymarferol. Esboniodd yr Aelodau eu bod wedi derbyn cwynion dros amser mewn perthynas ag ymyriadau coed, a oedd yn cynnwys y rhai nad oeddent ar dir sy'n eiddo i'r cyngor; Gofynnodd yr Aelodau i swyddogion ystyried pwy fyddai'n gyfrifol am fynd i'r afael â'r materion a adroddwyd mewn perthynas â choed nad ydynt ar dir sy'n eiddo i'r cyngor, p'un ai'r cyngor ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus
neu wedi’u heithrio) yn ol
disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag
Adran 100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Oherwydd yr angen i ymdrin â'r materion sydd wedi'u
cynnwys yng Nghofnod Rhif 5 isod, cytunodd y Cadeirydd y gellid trafod yr
eitemau hyn yng nghyfarfod heddiw fel eitemau brys yn unol ag Offeryn Statudol
Rhif 2290 (fel y'i diwygiwyd). Rhesymau dros y brys: Oherwydd yr elfen amser. |
|
Fframwaith Gwasanaethau Peirianneg Sifil Rhanbarthol De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2021 i 2025 (fel yr amgaeir ym mhapurau Bwrdd y Cabinet) Cofnodion: Cyflwynwyd Fframwaith
Gwasanaethau Peirianneg Sifil Rhanbarthol newydd De-orllewin a Chanolbarth
Cymru i'r Aelodau. Dywedodd swyddogion
wrth y Pwyllgor mai'r adroddiad a ddosbarthwyd oedd trydedd iteriad Fframwaith
Peirianneg Sifil De-orllewin Cymru; fe'i cyflwynwyd yn wreiddiol gyda phedwar
awdurdod yn unig, ond roedd bellach wedi'i ehangu i gynnwys Cyngor Ceredigion.
Nodwyd bod y fframwaith ar gyfer amrywiaeth o brosiectau peirianneg sifil y maent
ar raddfa fwy fel arfer, ac fe'i cyflwynwyd i gydymffurfio ag amodau Ewropeaidd
a Llywodraeth Cymru ynghylch dyfarniadau grant; byddai hyn yn cyflymu'r broses
gan fod yr ymgynghorwyr llwyddiannus wedi bod drwy ymarfer caffael eang.
Soniwyd bod hyn hefyd yn rhoi hyblygrwydd i Gyngor Castell-nedd Port Talbot a
chydweithwyr ar draws y rhanbarth o ran darpariaeth ymgynghori; gellid cwblhau
dyfarniadau uniongyrchol, ond yn y rhan fwyaf o achosion byddai swyddogion yn
cynnal cystadlaethau bach ymhlith yr ymgynghorwyr hynny a ffefrir. Dywedodd
swyddogion eu bod wedi ceisio adeiladu ar allu, ac y byddent yn cynnwys elfen o
hyfforddiant i brentisiaid a gweithwyr proffesiynol, a allai naill ai weithio
gyda'r cwmnïau peirianneg sifil a/neu'r ymgynghorwyr pan oedd y fframwaith ar
waith; roedd hyn yn golygu y bydd pobl ifanc yn cael y cyfle i symud rhwng
gwahanol gontractwyr/ymgynghorwyr i gael y sgiliau a'r cymwysterau
angenrheidiol. Ychwanegwyd bod cysylltiadau â cholegau technegol lleol ar draws
y rhanbarth ac ar draws y gwahanol ddisgyblaethau a oedd yn ganlyniad
cadarnhaol iawn i'r trefniant hwn. Cafwyd trafodaeth ynghylch sail y fframwaith gan gynnwys y manteision, yr effeithiau a'r cost-effeithiolrwydd. Cadarnhaodd swyddogion fod y rhesymeg y tu ôl i gyflwyno'r fframweithiau yn gysylltiedig â symleiddio faint o amser ac adnoddau yr oedd eu hangen i'r staff technegol baratoi tendrau bob tro; roedd llawer iawn o waith yn gysylltiedig â'r broses dendro, yn enwedig pan fyddai'n rhaid i staff ddechrau eto bob tro ar brosiect mawr a hefyd y gofyniad i gyhoeddi Hysbysiadau Gwybodaeth Blaenorol (HBG) ar gyfer pob prosiect unigol er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gaffael. Nodwyd bod y broses hon yn hir iawn a thrwm, felly drwy lunio fframwaith peirianneg a fframwaith ymgynghori, lleihaodd yr amser hwnnw'n sylweddol. At hynny, tynnwyd sylw at y ffaith bod y dull rhanbarthol yn golygu y gellid rhannu'r llwyth gwaith ar draws y pum awdurdod yn hytrach na gorfod gwneud yr holl waith fel un cyngor; darparwyd enghreifftiau o ffyrdd o weithio a oedd yn cynnwys defnyddio staff a thimau'r awdurdodau eraill i helpu i gyflawni'r broses cyn cwblhau ymarfer caffael ar y cyd. Ychwanegodd swyddogion ei fod hefyd yn darparu rhywfaint o gysondeb o ran caffael a rheoli'r contractau ar gyfer yr ymgynghorwyr a'r contractwyr allanol; ar ôl iddynt gael eu cynnwys yn y fframwaith, gallent weld y byddent yn sicr o gael rhywfaint o swm a gwerth gwaith o fewn y rhanbarth, gan olygu y gallent wedyn gynllunio'n unol â hynny i adeiladu eu hadnoddau a'u cadwyni cyflenwi. Er mwyn i brosiectau ar raddfa lai (y rhai o dan £100,000 mewn gwerth) gael eu cwblhau gan y cyflenwyr lleol llai yn y sir, nodwyd y byddai Cyngor ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |