Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Eitemau
Rhif Eitem

1a

Gofal Strydoedd - Y diweddaraf am wasanaethau a amlygwyd yn y Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 119 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad i'r Pwyllgor a oedd yn amlinellu'r pynciau y gofynnodd Aelodau am ddiweddariad arnynt yn dilyn eu Gweithdy Blaenraglen Waith Strydlun a Pheirianneg diweddar; roedd y pynciau hynny'n cynnwys gwastraff ac ailgylchu, adolygu'r potensial i ehangu'r defnydd o orchmynion diogelu mannau agored cyhoeddus (GDMACau) a mynwentydd.

Gwastraff ac Ailgylchu

Gofynnwyd a allai'r gwasanaeth casgliadau swmpus ailgyflwyno'r ail gerbyd a ychwanegwyd at y gwasanaeth dros dro gan fod galw am gasgliadau swmpus ar hyn o bryd a gallai'r cerbyd ychwanegol leihau'r broblem o dipio anghyfreithlon. Dywedodd swyddogion fod un cerbyd wedi bod yn ddigonol o'r blaen, fodd bynnag, oherwydd bod y gwasanaeth wedi'i atal dros dro rhwng mis Mawrth a mis Mai, roedd ôl-groniad o alw am y gwasanaeth yr oedd angen ymdrin ag ef; roedd y pwysau ar y gwasanaeth, yn ogystal ag ymdrin ag absenoldebau sy'n gysylltiedig â COVID-19 a'r ôl-groniad o ran galw, yn golygu bod gan y gwasanaeth griw ychwanegol dros dro i helpu gyda'r casgliadau swmpus. Tynnwyd sylw at y ffaith bod angen i'r gwasanaeth, cyn penodi rhagor o staff, cael rhagor o gerbydau a pharatoi at gyfrifoldeb cyllidebol parhaol, fod yn sicr o ffactorau fel incwm a gwasanaethau cyflenwi; nodwyd y galw penodol hwn fel galw byr, felly ar hyn o bryd ni fyddai angen dau gerbyd drwy gydol y flwyddyn. 

Nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd y bu cynnydd yn y galw am y pecyn ailgylchu yn ystod y pandemig; Gofynnodd yr Aelodau a oedd y cyngor wedi gweld cynnydd yn y ffigurau ar gyfer ailgylchu oherwydd hyn. Nodwyd bod swm yr ailgylchu a gasglwyd ar ymyl y ffordd yn tyfu, er enghraifft y llynedd tyfodd y gwastraff bwyd 600 tunnell; fodd bynnag, roedd nifer o ddeunyddiau gwahanol yn effeithio ar berfformiad y cyngor, ac roedd problemau ynghylch ailgylchu'r deunyddiau eraill hyn megis gwastraff coed, a oedd yn effeithio ar lefelau perfformiad. Ychwanegodd Swyddogion fod y ffigurau'n dangos cymysgedd o'r pecyn newydd yn cael ei archebu a phecyn newydd yn lle hen becyn yn cael ei archebu.

Mewn perthynas â Chynnyrch Hylendid Amsugnol (AHP), gofynnwyd a oedd unrhyw gysylltiadau neu systemau ar waith gyda'r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Bwrdd Iechyd. Nodwyd bod gan y cyngor wasanaeth hylendid ar waith ar gyfer pobl â chyflyrau meddygol yr oedd angen casglu gwastraff penodol iddynt ac nid oeddent yn rhan o gasgliadau'r GIG; cafodd y gwasanaeth ei flaenoriaethu a'i barhau drwy gydol y pandemig a gellid dod o hyd i ragor o fanylion am hyn ar-lein. Cadarnhaodd Swyddogion pe bai angen cysylltu â meysydd gwasanaeth eraill ynghylch y mater hwn y byddent yn hapus i wneud hynny.

Soniodd yr adroddiad fod cyfweliadau PACE yn cael eu cynnal yn y Canolfannau Dinesig; Gofynnwyd i Swyddogion egluro'r rhain yn fanylach. Eglurwyd bod cyfweliadau'r Heddlu a Thystiolaeth Droseddol (PACE) yn cael eu defnyddio i gasglu tystiolaeth droseddol ar gyfer achosion lle'r amheuwyd bod pobl yn cyflawni troseddau amgylcheddol; roedd cyfleusterau wedi'u sefydlu ar gyfer y cyfweliadau hyn, ond oherwydd COVID-19 nid oedd y cyfleusterau hyn yn ddiogel i'w defnyddio  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 1a

2.

Blaenraglen Waith 2020-21 pdf eicon PDF 68 KB

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau'r Blaenraglen Waith Craffu Strydlun a Pheirianneg ar gyfer 2020/21, a boblogwyd gan y Pwyllgor yn eu Gweithdy Blaenraglen Waith diweddar.

Soniodd yr Aelodau y byddai rhai gwasanaethau megis gorfodi a gwastraff yn llawer mwy effeithiol pe baent yn cael eu huno gan y gallai hyn annog mwy o gysylltu o fewn y gymuned. Cadarnhawyd bod Cyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio (Nicola Pearce) wedi gofyn i'r Pennaeth Gofal Stryd (Mike Roberts) a Phennaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd (Ceri Morris) edrych ar y rhyngwyneb rhwng rheoli plâu ac iechyd yr amgylchedd a phenderfynu a ddylid dod â'r ddwy elfen hynny at ei gilydd; mae'r trafodaethau hyn yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd.

 

 

3.

Blaenraglen Waith y Cabinet pdf eicon PDF 60 KB

Cofnodion:

Darparwyd Blaenraglen Waith y Cabinet i'r Aelodau at ddibenion gwybodaeth; Nodwyd y Blaenraglen Waith.