Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor A/B - Canolfan Ddinesig Castell-nedd - Canolfan Ddinesig Castell-nedd. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Cynnal a Chadw a Rheoli Lleoedd Chwarae Cyhoeddus PDF 226 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd gwybodaeth i'r
aelodau am reoli a chynnal a chadw lleoedd chwarae'r cyngor. Tynnwyd sylw at y
ffaith bod 47 o leoedd chwarae ar draws y Fwrdeistref Sirol o fewn cylch gwaith
y cyngor; nid oedd yr adroddiad a ddosbarthwyd yn cynnwys y rhai a reolir gan
bartïon eraill e.e. cynghorau tref a chymuned. Roedd Atodiad A yr adroddiad a
ddosbarthwyd yn nodi'r broses barhaus o arolygu ac adolygu a oedd ar waith i
sicrhau bod lleoedd chwarae sy'n eiddo i'r cyngor yn parhau i fod yn ddiogel i
bawb eu defnyddio; roedd yr adroddiad hefyd yn darparu gwybodaeth am geidwad
teithiol a oedd yn cynnal arolygiadau wythnosol o'r lleoedd chwarae. Hysbyswyd y pwyllgor am y
cyllidebau sy'n ymwneud â'r gwaith hwn; nodwyd swm yr arian o fewn y gyllideb
refeniw ar gyfer Gwasanaethau Cymdogaeth yn yr adroddiad, ynghyd â'r arian a
glustnodwyd tuag at gynnal a chadw lleoedd chwarae. Dywedwyd bod tua £30,000 y
flwyddyn yn y gyllideb ar gyfer adnewyddu offer; dyma'r arian a oedd yn weddill
ar ôl clustnodi arian ar gyfer y mesurau rheoli, arolygu a diogelwch o ddydd i
ddydd. Esboniwyd nad oedd dyraniad
cyfalaf sefydlog ar gyfer adnewyddu'r offer; felly bu'n rhaid i swyddogion
gyflwyno ceisiadau, yn ôl yr angen, ym mhroses y gyllideb sy'n cael ei
hystyried fel rhan o rowndiau blynyddol y gyllideb. Soniwyd bod rhaglen
fuddsoddi sylweddol yn parhau yn y flwyddyn gyfredol; fodd bynnag, bu'n rhaid i
swyddogion aros ar y gadwyn gyflenwi o ran yr offer a oedd yn cyrraedd.
Hysbyswyd yr aelodau fod y pandemig wedi amharu ar gadwyni cyflenwi ar draws
nifer o feysydd gwaith. Yn dilyn yr uchod, nodwyd bod
swyddogion yn gweithio gyda chydweithwyr mewn gwasanaethau eraill ac yn chwilio
am gyfleoedd arian cyfatebol; gweithiodd y tîm yn agos gyda'r Rheolwr Datblygu
Prosiectau a Chyllid ac aelodau a oedd am ychwanegu buddsoddiad ychwanegol a
gwneud gwelliannau i leoedd chwarae yn eu wardiau, drwy Gronfa Gymunedol yr
aelodau. Ychwanegwyd bod Atodiad B yr adroddiad a ddosbarthwyd yn tynnu sylw at
y buddsoddiad wedi'i raglennu ar gyfer lleoedd chwarae a oedd yn mynd rhagddo
ar hyn o bryd, sef cyfanswm o tua £350,000. Roedd swyddogion yn obeithiol am
arian ychwanegol o broses y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf; cynhwyswyd yr
arian ychwanegol hwn yn yr ymgynghoriad a oedd yn cael ei gynnal ar hyn o bryd
ar gyllideb refeniw'r cyngor. Rhoddodd swyddogion yr
wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am un o'r materion a nodwyd yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd, a oedd yn ymwneud â nifer y siglenni a dynnwyd o leoedd chwarae'r
cyngor yn ystod 2020 fel rhan o fodloni'r mesurau cadw pellter cymdeithasol
cenedlaethol. Nodwyd bod y tîm wedi derbyn pob rhan ar gyfer y siglenni, ar
wahân i lond llaw o gadwyni a oedd yn dal i fod eu hangen er mwyn ailadeiladu'r
siglenni crud; Roedd swyddogion yn gobeithio y bydd y mwyafrif yn cael eu
hailosod yn ystod y pythefnos nesaf, gyda'r rhai sy'n weddill erbyn diwedd
Chwefror. Cododd yr aelodau yr angen am ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 1. |
|
Gorfodi Sbwriel, Tipio Anghyfreithlon a Gwastraff ar yr ochr PDF 674 KB Cofnodion: Derbyniodd y pwyllgor
adroddiad a oedd yn amlinellu'r gweithgarwch gorfodi yr oedd y tîm yn ei wneud
mewn perthynas â gorfodi sbwriel, tipio anghyfreithlon a gwastraff ar yr ochr. Tynnodd swyddogion sylw at y
ffaith bod y gwasanaeth hwn yn faes yr amharwyd arno'n sylweddol gan y
pandemig; roedd safleoedd amwynderau dinesig wedi'u cau, gwasanaethau
casgliadau swmpus wedi’u hatal ac ataliwyd proses gyfweld yr heddlu a’r Deddf
Cyfiawnder Troseddol sy'n caniatáu i dystiolaeth gael ei chasglu ac erlyniadau
gael eu trosglwyddo ymlaen i'r llys. Soniwyd bod y ffigurau yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd yn adlewyrchu'r tarfu hynny. Yn flaenorol, nodwyd mai Cyngor
Castell-nedd Port Talbot oedd yr awdurdod arweiniol ar gyfer cymryd camau
gorfodi yn erbyn tipio anghyfreithlon; efallai fod hyn yn wir o hyd, fodd bynnag,
roedd y niferoedd wedi lleihau, gan y byddai pob awdurdod wedi profi anawsterau
yn ystod y pandemig. Esboniodd swyddogion nad oedd ganddynt y ffigurau cymharu
cenedlaethol presennol hyd yma, ond roedd y math hwn o wybodaeth yn debygol o
fod ar gael ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Cynhaliwyd trafodaeth mewn
perthynas â ffyrdd ac ardaloedd heb eu mabwysiadu lle'r oedd tir wedi'i restru
dan berchnogaeth breifat, lle'r oedd tipio anghyfreithlon yn broblem. Hysbyswyd
yr aelodau y byddai llawer o berchnogion tir yn ymateb ar ôl i Swyddog Gorfodi
gysylltu â nhw, a byddant yn clirio'r gwastraff o'r ardal; fodd bynnag, roedd
eraill a oedd yn anos cysylltu â hwy, a bu'n rhaid i swyddogion gyflwyno
hysbysiadau gorfodi iddynt. Soniwyd bod rhywfaint o dir nad oedd wedi'i
gofrestru, ac roedd yn heriol i swyddogion ddod o hyd i bwy oedd yn berchen ar
y tir; gweithiodd y tîm yn agos gyda'r gwasanaeth prawf, sy'n mynd i'r
ardaloedd preifat, anhysbys ac yn cwblhau gwaith glanhau cymunedol. Ychwanegwyd
yr aethpwyd i'r afael â'r mathau hyn o ardaloedd yr un modd â'r rhai a oedd yn
hysbys ac wedi'u mabwysiadu. Gofynnwyd a allai Cynghorwyr
Lleol gynorthwyo swyddogion i nodi pwyntiau 'casglu', lle'r oedd nifer mawr o
sachau du yn cael eu gadael - fel y nodwyd, a fyddai’n destun ymchwiliad drwy
orfodi. Cadarnhaodd Pennaeth Gofal Strydoedd fod hyn yn bosib. Tynnodd yr aelodau sylw at y
ffaith ei bod yn aml yn wir nad oedd y rhai y tybiwyd eu bod yn troseddu dro ar
ôl tro'n cael eu galw i'r llys oherwydd diffyg tystiolaeth; felly, gofynnwyd a
ellid cyflwyno datganiadau tyst fel tystiolaeth. Cadarnhaodd swyddogion y gall
datganiadau tyst chwarae rôl, ond efallai y bydd angen tystiolaeth arall o hyd
gan ddibynnu ar y drosedd. Cytunwyd y byddai swyddogion yn cysylltu â'r Gwasanaethau
Cyfreithiol i gasglu rhagor o wybodaeth am y defnydd o ddatganiadau tyst ar
gyfer troseddau. Gofynnwyd i swyddogion a oeddent yn teimlo bod y lonydd â gatiau’n lleihau achosion o dipio anghyfreithlon, neu'n dwysáu'r mater; ac a fyddent yn ystyried cynllun peilot, lle y symudwyd rhai giatiau o'r ardaloedd hyn. Cydnabuwyd nad oedd y gatiau, mewn rhai ardaloedd, wedi helpu'r sefyllfa gyda gwastraff yn y lonydd, er iddynt gael eu gosod ar gyfer ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2. |
|
Cofnodion: Nodwyd y Blaenraglen Waith ar
gyfer Pwyllgor Craffu’r Strydlun a Pheirianneg. |