Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Cyswllt: Stacy Curran 01639 763194 E-bost: s.curran@npt.gov.uk 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 55 KB

·        30 Ionawr 2020

·        12 Mawrth 2020

·        21 Gorffennaf 2020

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd blaenorol canlynol o'r Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles:

 

·        30 Ionawr 2020

·        12 Mawrth 2020

·        21 Gorffennaf 2020

 

2.

Diweddariad Llafar am effaith COVID-19 ar gartrefi gofal, gwasanaethau gofal cartref ac oedi wrth drosglwyddo gofal

Cofnodion:

Cafodd yr Aelodau gyflwyniad gan y Cyfarwyddwr Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Thai mewn perthynas â'r effaith y mae COVID-19 wedi'i chael ar gartrefi Gofal, Gwasanaethau Gofal Cartref, Oedi wrth Drosglwyddo Gofal, Gwasanaethau Seibiant/Dydd a Digartrefedd.

 

Cafodd yr Aelodau yr wybodaeth ddiweddaraf am yr effaith y mae COVID-19 wedi'i chael ers cyhoeddi'r pandemig. Amlygwyd mai'r Gwasanaethau Cymdeithasol sy'n bennaf gyfrifol am gefnogi unigolion diamddiffyn yn y gymuned. Nodwyd bod COVID-19 wedi gwneud hyn yn heriol iawn i'r Gwasanaethau Cymdeithasol, gan orfodi swyddogion i wneud penderfyniadau anodd a chydbwyso adnoddau.

 

Cynhaliwyd trafodaethau ynghylch y pandemig yn ei gyfanrwydd, gan gael diweddariadau o fis Mawrth 2020 a'r gweithdrefnau cynllunio mewn argyfwng a roddwyd ar waith ar gyfer ton gyntaf y feirws. Yna trafododd swyddogion y gostyngiad mewn achosion positif o feirws COVID-19 wrth i ni nesáu at fisoedd yr haf. Wrth i swyddogion gynllunio ar gyfer dechrau ar gam adfer, dechreuodd y ffigurau gynyddu wrth i ni nesáu at yr hydref, pan gyhoeddwyd y cyfnod atal byr. Fodd bynnag, yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd achosion wedi gostwng yn gyflym wrth i ni nesáu at fisoedd y gaeaf.

 

Nodwyd bod trefniadau llywodraethu cadarn wedi'u rhoi ar waith, gan sicrhau bod aelodau'r cabinet a'r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd Craffu yn cael eu diweddaru'n gyson ar y broses yn ystod y pandemig.

 

Nodwyd bod adroddiad trosolwg yn seiliedig ar y gwersi a ddysgwyd wedi'i lunio, sydd ar gael i'r cyhoedd a'r pwyllgor. Manylu ar y gwersi a ddysgwyd ar atal COVID-19 rhag ymledu mewn cartrefi gofal.

 

Hysbyswyd yr Aelodau y bu cynnydd yng nghyfrifoldebau’r cyngor yn ystod ail don COVID-19, fel cynnal profion a chyflwyno brechiadau.

 

Tynnwyd sylw'r Aelodau at y pwysau ar deuluoedd gan eu bod wedi gofalu am aelodau diamddiffyn o'r teulu yn ystod cychwyniad y feirws a'r angen am seibiant, sy'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd fel gwasanaeth dewis olaf.

 

Roedd yr Aelodau'n ymwybodol bod gofal preswyl a gofal nyrsio yn cael eu cynnal ar gyfradd lleoedd isel. Gan fod 20 o'r 24 cartref dan gyfyngiadau symud ar hyn o bryd, gan adael 4 cartref ar gael yn unig i breswylwyr newydd.

 

Tynnwyd sylw'r aelodau at drafodaethau ynghylch staff asiantaeth, oherwydd diffyg adnoddau.

 

Tynnwyd sylw at y ffaith bod y broses o ailfodelu'r Gwasanaethau i Oedolion yn dal i fynd yn ei blaen ac yn cael i gael ei drafod.

 

Trafodwyd galwadau gofal cartref a hysbyswyd yr aelodau fod galwadau gofal cartref wedi'u graddio yn ôl statws CAG yn barod ar gyfer cyfnodau problemus.

 

Canmolodd y Pwyllgor waith y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol a'u hymdrechion i sicrhau bod y gymuned yn cael y gofal mwyaf yn ystod yr amserau digynsail hyn.

 

Canmolodd yr Aelodau'r newyddion diweddar am gyflwyno'r brechlyn COVID-19 ac felly holwyd pryd y byddai'r brechlyn ar gael i Gastell-nedd Port Talbot, yn benodol i flaenoriaethu Staff Gofal. Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith bod preswylwyr Cartrefi Gofal a staff ar frig y rhestr, fodd bynnag, roedd trafodaethau'n cael eu cynnal ar logisteg gweinyddu'r brechlynnau hyn gan fod ffactorau anodd iw’  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.

3.

Diweddariad Llafar am effaith COVID-19 ar wasanaethau seibiant/dydd

Cofnodion:

Mae'r diweddariad ar gyfer Gwasanaethau Seibiant/Dydd wedi'i gynnwys yng nghofnod rhif dau uchod.

 

4.

Diweddariad Llafar am ddigartrefedd

Cofnodion:

Cafodd yr Aelodau ddiweddariad llafar am effeithiau COVID-19 ar ddigartrefedd yng Nghastell-nedd Port Talbot.

 

Nodwyd bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd y dylid darparu llety i bob un sy'n cysgu allan, gan sicrhau nad oedd neb yn cysgu allan yn ystod yr amserau digynsail hyn. Nodwyd hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi dileu 'angen blaenoriaethol', gan arwain at gynnydd mewn ceisiadau am dai. Roedd pwysau ychwanegol hefyd ar y tîm Digartrefedd gan y tynnwyd sylw at y ffaith y bydd angen gadael 2 ganolfan llety, sy'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd, erbyn diwedd mis Mawrth 2021, gan arwain at nifer o unigolion o bosib yn ddigartref. Sicrhaodd y swyddogion yr aelodau eu bod yn ystyried nifer o opsiynau i sicrhau y byddai llety amgen ar gael.

 

Gofynnodd yr Aelodau a yw asesiadau risg yn cael eu cwblhau ar gyfer pobl ifanc sy'n ddigartref dros dro oherwydd cymhlethdodau yn eu cartref. Sicrhaodd swyddogion yr aelodau y byddent yn bodloni bob protocol angenrheidiol i sicrhau bod problemau unigolion sy'n ddigartref dros dro o'u cartref arferol yn cael eu datrys neu eu bod yn cael cynnig llety amgen.

 

Trafododd yr Aelodau'r amserlenni ynghylch pryd y byddai'r newid diweddar yn y rheoliadau ynghylch digartrefedd yn dychwelyd i'w ganllawiau gwreiddiol. Cadarnhaodd swyddogion y byddai'r canllawiau newydd yn parhau am gyfnod eto.

 

Canmolodd y Pwyllgor Craffu ynghyd ag Aelodau'r Cabinet waith y Tîm Digartrefedd.

 

5.

Blaenraglen Waith 2020-21 pdf eicon PDF 77 KB

Cofnodion:

Nodwyd Blaenraglen Waith Craffu Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles.

 

6.

Blaenraglen Waith y Cabinet pdf eicon PDF 44 KB

Cofnodion:

Soniwyd y byddai Blaenraglen Waith y Cabinet yn eitem sefydlog ar yr agenda, er mwyn caniatáu i'r tîm craffu ddewis meysydd sy'n dod o fewn y cylch gwaith Gofal Cymdeithasol y mae angen craffu arnynt.

 

7.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn

ol disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf

Llywodraeth Leol 1972.

Cofnodion:

Oherwydd yr angen i ymdrin â'r materion sydd wedi'u cynnwys yng Nghofnod Rhif. 8 isod, cytunodd y Cadeirydd y gellid codi'r eitemau hyn yng nghyfarfod heddiw fel eitemau brys yn unol ag Offeryn Statudol Rhif 2290 (fel y'i diwygiwyd).

 

Rhesymau dros y brys:

 

Oherwydd yr elfen amser.

 

8.

Mynediad i gyfarfodydd

Yn unol ȃ Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290,

gellir gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

Yn unol ag Adran 100A(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gwaherddir y cyhoedd o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn cynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 13 a 14 Adran 4 o Atodlen 12A y Ddeddf uchod.

 

 

9.

Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017

Cofnodion:

Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am yr ymweliadau chwarterol â Chanolfan Diogel i Blant Hillside gan yr Unigolyn Cyfrifol i fodloni gofynion rheoliadau gwasanaethau a reolir (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017, fel a nodir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

10.

Adroddiad y Rheolwr am Gartref Diogel i Blant Hillside (yn eithriedig dan Baragraff 13)

Cofnodion:

Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y bobl ifanc, y staff, cynllunio a datblygu gwasanaethau ar gyfer y cyfnod 1 Ionawr 2020 – 31 Hydref 2020 (10 mis), fel a nodir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd. Nodwyd bod cyfnod amser yr adroddiad wedi'i estyn oherwydd cyfyngiadau ynghylch pandemig COVID-19 ac adrodd i'r pwyllgor.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.