Agenda a chofnodion drafft

Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles - Dydd Iau, 29ain Gorffennaf, 2021 2.00 pm

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor A/B - Canolfan Ddinesig Castell-nedd - Canolfan Ddinesig Castell-nedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Charlotte Davies 01639 763745 E-bost: c.l.davies2@npt.gov.uk 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 57 KB

Cofnodion:

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf 2021 fel cofnod cywir.

 

2.

Craffu Cyn Penderfynu

To select appropriate items from the Cabinet Board agenda for Pre-Decision Scrutiny (Cabinet Board reports included for Scrutiny Members)

Cofnodion:

Dewisodd y pwyllgor graffu ar yr eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet:

 

Prosbectws Grant Tai Cymdeithasol 2021

 

Hysbyswyd yr aelodau am Brospectws Grant Tai Cymdeithasol 2021 y cyngor, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Canmolodd aelodau’r ffaith bod modd trosglwyddo'r cynlluniau presennol a oedd yn cael eu dal mewn cronfeydd wrth gefn yn ystod 2020/21 i'r brif raglen yn 2021/22.

 

Cynhaliwyd trafodaethau ynghylch terminoleg mewn perthynas â rhentu yn ogystal â'r diffiniad ar gyfer tai fforddiadwy, oherwydd tynnwyd sylw at y ffaith nad oedd tai fforddiadwy o reidrwydd yn fforddiadwy i bawb. Gofynnwyd am ragor o wybodaeth am y meincnod ar gyfer tai fforddiadwy, oherwydd tynnwyd sylw at y ffaith bod tai fforddiadwy'n rhy ddrud i bobl eu rhentu mewn rhai ardaloedd.

 

Gofynnodd aelodau a fyddai'r grant ar gael i'r cyngor ei ddefnyddio gyda'r posibilrwydd o adeiladu eu tai eu hunain. Tynnwyd sylw at y ffaith bod hwn yn opsiwn ar gyfer cynghorau eraill, fodd bynnag, gan fod Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi trosglwyddo eu stoc tai mewn blynyddoedd blaenorol, nid oedd hynny'n opsiwn.

 

Roedd aelodau'n hapus i weld bod yr adroddiad yn gysylltiedig â'r Cynllun Datblygu Lleol a bod yr adroddiad wedi ystyried cynllunio yn y dyfodol felly.

 

Eglurodd swyddogion mai'r ffigurau a gynhwyswyd yn y tabl ar dudalen 11 yr adroddiad oedd £9.9m o grant Llywodraeth Cymru sy'n cyfateb i tua 448 o unedau llety.

 

Cadarnhawyd nad oedd Dyffryn Aman wedi'i gynnwys yn atodiad 2 yr adroddiad yn dilyn y gwaith a wnaed gan y Gwasanaethau Ymchwil Barn (GYB) yn 2019 gan nad oeddent wedi nodi unrhyw angen am dai ychwanegol yn Nyffryn Amman. Cadarnhaodd swyddogion y byddant yn cadarnhau cywirdeb hyn.

 

Trafodwyd a oedd niferoedd y  tai yn ddigonol ar gyfer y blynyddoedd i ddod gyda'r cynnydd mewn poblogaeth. Nodwyd bod y niferoedd wedi'u cyfrifo ar y gwaith a wnaed gan y GYB ac roedd yn seiliedig ar dai fforddiadwy.

 

Gofynnodd aelodau am ddimensiynau'r anheddau i sicrhau eu bod yn ddigon mawr, oherwydd y lleihad mewn meintiau anheddau dros y blynyddoedd. Eglurwyd i’r aelodau fod canllawiau wedi'u gosod gan Lywodraeth Cymru ar ddimensiynau y mae’n rhaid cydymffurfio â nhw. Nodwyd y byddai rhagor o wybodaeth am faint yr anheddau a'r safonau ar gyfer dimensiynau yn cael ei dosbarthu i aelodau'r pwyllgor y tu allan i'r cyfarfod.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

 

 

 

 

3.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 636 KB

Cofnodion:

Nododd aelodau'r Blaenraglen Waith a gofynnwyd i'r eitem ganlynol gael ei chynnwys.

 

·        Adroddiad sy'n darparu trosolwg o sut mae adran Tai Castell-nedd Port Talbot a'i pholisïau'n cysylltu â chynlluniau datblygu ar gyfer y dyfodol.

 

4.

Mynediad i gyfarfodydd

Access to Meetings to resolve to exclude the public for the following item(s) pursuant to Section 100A(4) and (5) of the Local Government Act 1972 and the relevant exempt paragraphs of Part 4 of Schedule 12A to the above Act.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

gwahardd y cyhoedd yn unol ag Adran 100A (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn debygol o gynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 18 ac Adran 4 o Atodlen 12A y Ddeddf uchod.

 

 

5.

Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu

To select appropriate private items from the Cabinet Board agenda for Pre-Decision Scrutiny (Cabinet Board reports enclosed for Scrutiny Members)

Cofnodion:

Cynllun Blynyddol Drafft Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrryd yn Gynnar CNPT 2021-2022

 

Ar ddechrau'r eitem, dywedodd y Cyfarwyddwr wrth yr Aelodau Craffu y defnyddiwyd y Paragraff Eithriedig anghywir – dylai hyn fod wedi bod yn Baragraff 18 ac nid paragraff 14.

 

Derbyniodd yr Aelodau'r wybodaeth ddiweddaraf am Gynllun Blynyddol Drafft Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrryd yn Gynnar CNPT 2021-2022, fel y nodir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

 

Yn dilyn trafodaethau, codwyd y pryderon canlynol o fewn yr adroddiad i'w diwygio ym Mwrdd y Cabinet.

·        Dylai Effeithiau Cymunedau'r Cymoedd ddarllen 'Dim Effeithiau'.

·        Yn yr adran Ymgynghori, dylid dileu'r geiriau canlynol: '... ym mhob un o'r tri awdurdod lleol i gael sylwadau.’

·        Dylai manylion Cyswllt y Swyddog ar gyfer Alison Davies ddarllen 'a.davies8@npt.gov.uk'.

 

Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.