Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles - Dydd Iau, 20fed Ionawr, 2022 2.00 pm

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Cyswllt: Charlotte Davies 01639 763745 E-bost: c.l.davies2@npt.gov.uk 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 220 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 16 Medi 2021 a 9 Rhagfyr 2021 fel cofnod gwir a chywir.

 

2.

Cynigion y Bwrdd Iechyd i Newid Gwasanaethau Iechyd Meddwl Pobl Hyn pdf eicon PDF 323 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd aelodau'r diweddaraf ynghylch y newidiadau arfaethedig a oedd yn cael eu gwneud gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (BIP) i Wasanaethau Iechyd Meddwl Pobl Hŷn, fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Roedd Sian Harrop Griffiths a Stephen Jones yn bresennol ar gyfer y cyfarfod yn dilyn gwahoddiad gan y Pwyllgor Craffu mewn perthynas â'r ymgynghoriad blaenorol ar y newidiadau arfaethedig. Nodwyd bod y Pwyllgor wedi gwahodd swyddogion o'r Bwrdd Iechyd i fod yn bresennol i drafod y newidiadau arfaethedig oherwydd yn ystod cyfarfod blaenorol, tynnwyd sylw at y ffaith bod aelodau'n bryderus nad oeddent wedi bod yn rhan o'r broses ymgynghori wreiddiol ac roedd ganddynt nifer o bryderon roeddent am eu trafod gyda'r swyddogion perthnasol. 

 

Un o'r prif feysydd roedd yr aelodau am holi yn ei gylch oedd mewn perthynas â lleihau gwelyau yn Ysbyty Tonna a'r cynnig ar gyfer ymagwedd ganolog gyda'r gwelyau sy'n weddill yn Ysbryd y Coed. Codwyd pryder ynghylch y lleoliad a'r anawsterau ynghylch trafnidiaeth. Yn dilyn gohebiaeth y pwyllgor a'r nifer isel o ymatebion i'r ymarfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd, roedd y Bwrdd Iechyd wedi oedi'r ymarfer.

 

Yn dilyn pryderon y pwyllgor, rhoddwyd gwybod iddynt fod Ysbryd y Coed yn gyfleuster pwrpasol i reoli'r anghenion cymhleth ac nad oedd yr amgylchedd y tu mewn i Ysbyty Tonna yn bodloni'r safonau gofynnol. Roedd y swyddogion yn deall y pryderon ynghylch problemau cludiant i Ysbryd y Coed ac yn ôl a chadarnhawyd bod trefniadau wedi'u rhoi ar waith i sicrhau bod trafnidiaeth ar gael i ofalwyr a pherthnasoedd. Fodd bynnag, nid oes unrhyw un wedi defnyddio'r gwasanaeth.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

3.

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Dewisodd y pwyllgor graffu ar yr eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet:

 

Adroddiad Chwemisol y Grŵp Diogelu Corfforaethol

 

Cyflwynwyd adroddiad chwemisol Grŵp Diogelu Corfforaethol (GDC) Castell-nedd Port Talbot (CNPT). Mae'r adroddiad yn amlinellu'r gwaith a wnaed a'r gwaith y mae angen ei wneud gan y grŵp mewn perthynas â gweithgareddau diogelu ar draws y Fwrdeistref Sirol, fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Holodd aelodau ynghylch y term 'PASM', a chadarnhaodd swyddogion ei fod yn cyfeirio at gyfarfod strategaeth cam-drin proffesiynol.

 

Cynhaliwyd trafodaeth ynghylch y cynnydd mewn niferoedd ar gyfer pobl sydd ar goll. Eglurodd swyddogion y gall ffigurau newid oherwydd rhesymau gwahanol ac mae angen cyfri'r holl gyfrifon o bobl ifanc yn gadael eu cartref fel 'ar goll' hyd yn oed os nad yw'n ymddangos yn dechnegol fel achos 'ar goll'.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

Adroddiad Blynyddol Partneriaeth Gofalwyr Gorllewin Morgannwg 2020 - 2021

 

Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am y cynnydd ynghylch rhoi Adroddiad Blynyddol Partneriaeth Gofalwyr Gorllewin Morgannwg 2020 - 2021 ar waith.

 

Roedd Gaynor Richards, Chris O’Mally, Joanna Hall Davies a Kelly Gillings yn bresennol i gyflwyno'r Adroddiad Gofalwyr. Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf a chynnydd yr Adroddiad Blynyddol i'r aelodau. Yn yr adroddiad manylir ar y cymorth a ddarperir i ofalwyr di-dâl trwy gyfnodau digynsail y pandemig.

 

Diolchodd aelodau i'r swyddogion a'r gofalwyr a oedd yn bresennol yn y cyfarfod a chroesawyd yr elfen achrediad Meddyg Teulu ganddynt fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl - Cael gwared ar brawf modd ar gyfer grantiau bach a chanolig

Rhoddwyd manylion i aelodau ynghylch y cynnig i gael gwared ar y prawf modd ar gyfer grantiau Cyfleusterau i'r Anabl (GCA) bach a chanolig fel y cyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2021. Cynhaliwyd trafodaethau ynghylch goblygiadau hyn a'r amodau y gellir eu rhoi ar waith i reoli'r galw fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Gofynnodd aelodau am eglurder ynghylch y datganiad 'Cyfyngu ar nifer y ceisiadau i 1 flwyddyn y flwyddyn.' Fel y nodwyd yn yr adroddiad. Nodwyd bod hwn yn gamgymeriad ac y dylai ddarllen 'Cyfyngu ar nifer y ceisiadau i un y flwyddyn'.

 

Gofynnodd aelodau ynghylch y camau gweithredu os bydd amgylchiadau ariannol derbynwyr Grant Cyfleusterau i'r Anabl yn newid yn sylweddol yn dilyn dyfarnu'r grant. Cadarnhaodd swyddogion y  byddai pwerau disgresiynol i'w defnyddio, pe bai angen, i ddarparu grantiau cwmni Weavers i'r rheini yr oedd arnynt angen y grantiau hyn.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

4.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 533 KB

Cofnodion:

Nodi'r Blaenraglen Waith ar gyfer 2021/22.