Lleoliad: Via Microsoft Teams
Cyswllt: Charlotte Davies 01639 763745 E-bost: c.l.davies2@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 61 KB Cofnodion: Caiff cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd
ar 1 Ebrill 2021 eu cymeradwyo yn amodol ar y diwygiad canlynol:- ·
Nodwyd
nad oedd y geiriau "Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad." yn
eitem 6 y cofnodion, dan y teitl 'Adroddiad ynghylch y Diweddaraf am Dai a
Digartrefedd' yn darparu adlewyrchiad cywir o'r drafodaeth. Nodwyd y gofynnwyd
i'r swyddogion ystyried dod â thai gwag i berchnogaeth y cyngor gyda'r
posibilrwydd o'u hadnewyddu a'u defnyddio fel tai i’r rheini sy’n ddigartref.
Yn ogystal â chyflwyno Cyfrif Refeniw Tai at y diben hwn. Cytunodd yr aelodau
fod hwn yn adlewyrchiad cywir o'r drafodaeth a chytunwyd newid y geiriad i
adlewyrchu hyn. Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith, yn dilyn y
cyfarfod blaenorol, fod cydweithwyr TG yn unioni’r pryderon hygyrchedd sy'n
ymwneud â'r ymgynghoriadau ar wefan Castell-nedd Port Talbot. Tynnwyd sylw
hefyd at y ffaith bod 10 lle hyfforddi wedi'u sicrhau i swyddogion gael rhagor
o wybodaeth am ddogfennau hawdd eu darllen. Nododd yr Aelodau’r diweddariad
hwn. |
|
Craffu Cyn Penderfynu Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu). Cofnodion: Dewisodd y pwyllgor graffu ar yr eitemau canlynol
ar agenda Bwrdd y Cabinet: Polisi Codi Tâl am Ofal Preswyl a Dibreswyl Yn dilyn cais gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau
Cymdeithasol, Iechyd a Thai, cytunwyd y
dylid dileu'r eitem hon o gyfarfod heddiw er mwyn cysoni'r polisi’n agosach â
deddfwriaeth a’i gyflwyno yng nghyfarfod yn y dyfodol. Pecyn Cyd-gynhyrchu Rhanbarthol ar gyfer y
Bartneriaeth Ranbarthol Rhoddwyd diweddariad i'r aelodau ynghylch y Pecyn
Cyd-gynhyrchu Rhanbarthol ar gyfer y Bartneriaeth Ranbarthol, a oedd yn cynnwys
Fframwaith Cydgynhyrchu, Pecyn Cymorth Cydgynhyrchu a Siarter Cydgynhyrchu fel
y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Roedd Cyfarwyddwr CGG CNPT, Gaynor Richards, Mark
Davies, Dinesydd Castell-nedd Port Talbot a Kelly Gillings, Cyfarwyddwr Rhaglen
Drawsnewid Gorllewin Morgannwg, yn bresennol i gyflwyno'r adroddiad ar y cyd â
Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai. Yn dilyn y cyflwyniad, canmolodd Aelod y Cabinet
dros Wasanaethau i Oedolion ac Iechyd y ddogfen. Gofynnodd Aelodau Craffu pa wahaniaeth weledol
fyddai yn dilyn rhoi'r fframwaith ar waith. Tynnodd swyddogion sylw at y
ffaith, yn dilyn twf y fframwaith hwn, y byddai gan graffu fewnwelediad i’r
cynlluniau a’r strategaethau wrth symud ymlaen, gyda golwg ehangach ar
gynllunio gan aelodau'r cyhoedd, defnyddwyr y gwasanaeth a theuluoedd. Gofynnodd aelodau am nifer y dinasyddion a oedd yn
ymwneud â’r grŵp gan fod nifer isel o ddilynwyr ar y llwyfan cyfryngau
cymdeithasol. Nodwyd, yn dilyn y pandemig, nad oedd y niferoedd wedi cynyddu'n
sylweddol, fodd bynnag, gyda gwaith ymgysylltu pellach yn y dyfodol byddai
hynny'n cynyddu nifer y dilynwyr. Trwy gydol y drafodaeth roedd pwyslais ar
bwysigrwydd cael nifer o ddinasyddion yn rhan o’r grŵp i sicrhau bod
amrywiaeth eang o syniadau'n cael eu hystyried. Cynhaliwyd trafodaeth hefyd ynghylch cynnwys
Cynghorau Iechyd Cymunedol yn y dyfodol. Mynegodd yr Aelodau bryder ynghylch y bwlch a oedd
ar hyn o bryd yn ein trefniadau llywodraethu rhanbarthol fel y nodir yn yr
adroddiad. Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith bod gwaith yn cael ei wneud ar y
bwlch hwn ar hyn o bryd. Roedd mewn perthynas â'r broses werthuso a sicrhau bod
gwerthusiadau'n cael eu gwneud drwy broses cydgynhyrchu ac nid fel sefydliadau
gwahanol. Cynigwyd gwahoddiad agored i aelodau fod yn
bresennol mewn grŵp cydgynhyrchu i gael rhagor o wybodaeth os oedd angen. Cynhaliwyd trafodaethau ynghylch strwythur adrodd y
strategaeth ar gyfer y dyfodol. Nodwyd y byddai adroddiad yn cael ei
ailgyflwyno mewn 6 mis i ddarparu diweddariad pellach ar gynnydd y fframwaith
hwn. Caiff adroddiadau pellach eu darparu i'r pwyllgor yn ôl yr angen. Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn
gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet. Rhaglen Grant Cyfalaf Tai Llywodraeth Cymru Rhoddwyd gwybod i aelodau am Alldro Cynllun
Datblygu Rhaglen Grant Cyfalaf Tai Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019/20 a 2020/21. Ar y cyd â'r gwariant arfaethedig a
drefnwyd ar gyfer 2021/22-2024/25, fel y nodwyd yn yr adroddiad a dosbarthwyd. Gofynnodd aelodau am adeilad County Flats.
Cadarnhaodd swyddogion eu bod yn ddatblygiad Tai Tarian o'r enw County Flats. Cynhaliwyd trafodaethau ynghylch monitro'r gwaith ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2. |
|
Cofnodion: Nododd aelodau'r Blaenraglen Waith a chawsant wybod
bod sesiwn Blaenraglen Waith wedi’i threfnu ar gyfer 27 Mai, 2021, i drafod a
chwblau eitemau pellach ar gyfer cylch 2021/22. |
|
Blaenraglen Waith Bwrdd Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cabinet (wedi'i chynnwys ym mhapurau Bwrdd y Cabinet) Cofnodion: Nodwyd Blaenraglen Waith Bwrdd Gofal Cymdeithasol,
Iechyd a Lles y Cabinet. |