Agenda a chofnodion drafft

Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles - Dydd Iau, 1af Ebrill, 2021 2.00 pm

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor A/B - Canolfan Ddinesig Castell-nedd - Canolfan Ddinesig Castell-nedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Stacy Curran 01639 763194 E-bost: s.curran@npt.gov.uk 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Gwnaeth yr Aelod canlynol ddatganiad o fudd ar ddechrau'r cyfarfod:

 

 

Mae'r Cynghorydd C Galsworthy yn gynorthwy-ydd personol ac mae ganddi oddefeb i siarad a phleidleisio.

 

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 59 KB

Cofnodion:

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 3 Rhagfyr 2020 fel cofnod cywir.

 

3.

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu

cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet aa gyfer yr

Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Dewisodd y pwyllgor graffu ar yr eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet:

 

2. Diweddariad Blynyddol ar Gynllun Comisiynu Lleol Cefnogi Pobl

 

 

Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y Cynllun Comisiynu Lleol Cefnogi Pobl blynyddol fel y manylir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Canmolodd y Pwyllgor dîm Ymgynghorwyr Trais Domestig Annibynnol (IDVA) Cyngor Castell-nedd Port Talbot oherwydd eu bod wedi derbyn Gwobr Uchel Siryf Gorllewin Morgannwg 2021 am eu gwaith wrth gefnogi dioddefwyr trais domestig drwy gydol y pandemig.

 

Roedd yr Aelodau'n falch o weld astudiaethau achos yn cael eu cynnwys yn y cynllun. Hefyd, canmolwyd y ffaith bod y camau gweithredu a awgrymwyd gan y defnyddwyr gwasanaeth wedi'u cynnwys a oedd wedi'u manylu ar dudalen 27 yr adroddiad.

 

Nododd y Pwyllgor fod y cyngor dan gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru, cyn dechrau'r pandemig presennol, i lunio Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai 4 blynedd newydd erbyn diwedd 2020, gan ddisodli Cynllun Comisiynu Lleol Cefnogi Pobl, a byddai hyn hefyd wedi mynd i'r afael â holl wariant cynghorau ar atal digartrefedd a gweithgarwch cymorth arall sy'n gysylltiedig â thai. Fod bynnag, oherwydd y pandemig, cynigwyd estyniad i'r cyngor lunio'r strategaeth newydd. Eglurodd swyddogion fod yr estyniad tan ddiwedd 2021 ac nid 2022 fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Yn dilyn yr wybodaeth hon, trafododd yr Aelodau'r cyfle in chwarae rhan pellach yn y gwaith o graffu ar ddatblygiad y strategaeth hon ar gamau cynharach. Croesawodd swyddogion yr ymagwedd a chadarnhaodd y byddai'r ymagwedd hon yn cael ei chynnwys yn y camau datblygu.

 

Cafwyd trafodaethau ynghylch yr ymyrraeth yn ymwneud â digartrefedd yng Nghastell-nedd Port Talbot. Hysbysodd swyddogion yr Aelodau fod digartrefedd yn parhau i beri bryder yng Nghastell-nedd Port Talbot, oherwydd effeithiau'r pandemig. Nodwyd bod angen i strategaeth y cyngor ar ddigartrefedd ystyried atal digartrefedd yn y lle cyntaf.

 

Trafododd yr Aelodau nad oedd pwynt cyfeirio canolog ar gyfer iechyd meddwl neu achosion cam-drin domestig a gofynnwyd am eglurder. Cadarnhaodd swyddogion fod hwn ar eu hagenda ar hyn o bryd ac y byddai'n cael ei ystyried fel rhan o'r broses o ailfodelu’r Gwasanaethau i Oedolion. 

 

Mynegodd yr Aelodau eu pryder ynghylch hygyrchedd y dudalen ymgynghori ar wefan Castell-nedd Port Talbot. Cadarnhaodd swyddogion y byddent yn ymchwilio i hyn ac yn mynd i'r afael â'r broblem. 

 

Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.

 

Fframwaith Sicrhau Ansawdd ar gyfer Darpariaeth Dysgu

Gwasanaethau Byw â Chymorth i bobl ag Anableddau a phroblemau Iechyd Meddwl yng Nghastell-nedd Port Talbot.

 

Cyflwyno Fframwaith Sicrhau Ansawdd arfaethedig i'r Aelodau a cheisio cymeradwyaeth i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus 90 niwrnod.

 

Gofynnodd yr Aelodau i'r swyddogion ailystyried eu hymagwedd ynghylch dogfennau hawdd i'w deall, oherwydd bod y cynnwys yn rhy ddatblygedig. 

 

Trafodwyd yr Asesiad Effaith Integredig - rhoddodd swyddogion sicrwydd pe nodwyd unrhyw effeithiau negyddol y byddai'r effeithiau hyn yn cael eu trafod eto mewn cyfarfod yn y dyfodol. 

 

Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.

 

4.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 509 KB

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau fod fformat y Blaenraglen Waith Craffu wedi'i diweddaru i gynnwys yr holl bwyllgorau Craffu, gan alluogi'r Aelodau i gael cipolwg cyffredinol ar y meysydd oedd yn cael eu craffu ar draws y cyngor. Nodwyd hefyd y cyfeirir at Flaenraglen Waith y Cabinet mewn Agendâu Craffu yn y dyfodol i'w hystyried cyn craffu. 

 

Gofynnodd y swyddogion am eglurhad pellach ynghylch y cais am adroddiad ar effaith y rheini sy'n cael eu rhyddhau o ysbytai ar argaeledd pecynnau gofal, yr wybodaeth ddiweddar ar Oedi wrth Drosglwyddo Gofal. Yn dilyn trafodaeth, cytunodd yr Aelodau i ohirio'r eitem i ddyddiad yn y dyfodol, gan gasglu eglurder pellach ynghylch y manylion penodol sydd eu hangen ar yr Aelodau i'w cynnwys yn yr adroddiad mewn sesiwn Blaenraglen Waith yn y dyfodol.

 

Yn dilyn y drafodaeth, nododd yr Aelodau'r Blaenraglen waith.

 

5.

Mynediad i gyfarfodydd

Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd

o'r eitem ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf

Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

Gwahardd y cyhoedd yn unol ag Adran 100A (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn debygol o gynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 ac Adran 4 o Atodlen 12A y Ddeddf uchod.

 

 

6.

Adroddiad Diweddaru ar Opsiynau Tai a Digartrefedd (Eithriedig o dan Baragraff 14]

Cofnodion:

Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am yr effeithiau y mae COVID-19 wedi'u cael ar opsiynau tai a digartrefedd yng Nghastell-nedd Port Talbot, fel a nodir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

 

 

 

7.

Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu

cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet ar gyfer yr

Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Dewisodd y Pwyllgor graffu ar yr eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet:

 

Ildio Grant Cyfleusterau i'r Anabl

 

Derbyniodd yr Aelodau wybodaeth mewn perthynas â chais i ildio grant cyfleusterau i'r anabl fel y manylir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

 

Yn dilyn y broses graffu, roedd y Pwyllgor yn gefnogol i'r argymhelliad fynd at Fwrdd y Cabinet.

 

 

Dyfodol Cartref Gofal Preswyl Trem y Glyn

 

Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ddyfodol Cartref Gofal Preswyl, Trem y Glyn, fel a nodir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

 

Yn dilyn y broses graffu, roedd y Pwyllgor yn gefnogol i'r argymhelliad fynd at Fwrdd y Cabinet.