Agenda a chofnodion drafft

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Cyswllt: Stacy Curran 01639 763194 E-bost: s.curran@npt.gov.uk 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Yn dilyn y newyddion diweddaraf am lifogydd Sgiwen, canmolodd yr Aelodau'r Swyddogion am eu hymateb brys a'u cefnogaeth i'r sefyllfa.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Gwnaeth yr aelod canlynol ddatganiad o fudd ar ddechrau'r cyfarfod:

 

Y Cynghorydd C Galsworthy          Parthed: Ymgynghoriad ar Gynigion Cyllideb 2021/22, gan ei bod yn derbyn Taliadau Uniongyrchol ar gyfer aelod o'r teulu.

 

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 64 KB

Cofnodion:

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 3 Rhagfyr 2020 fel cofnod cywir.

 

4.

Diweddariad Llafar ar yr Effeithiau a gafodd COVID-19 ar y Gwasanaethau Cymdeithasol pdf eicon PDF 125 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd yr Aelodau gyflwyniad PowerPoint a ddosbarthwyd yn y cyfarfod ynghylch diweddariadau ar effeithiau COVID-19 yn y Gwasanaethau Oedolion a Phlant.

 

Cafwyd trafodaethau ynghylch nifer y brechiadau a oedd wedi'u rhoi mewn cartrefi gofal, ynghyd â'r broses ddiogel o drosglwyddo preswylwyr oherwydd y llifogydd yn Sgiwen, yn ystod y pandemig. Tynnodd Swyddogion sylw at y ffaith bod yr holl breswylwyr yng nghartrefi gofal Castell-nedd Port Talbot wedi'u brechu. Sicrhawyd yr Aelodau ei fod yn drosglwyddiad llyfn a oedd wedi'i drefnu'n dda.

 

Sicrhaodd Swyddogion yr Aelodau bod lles gweithwyr yn flaenoriaeth a'u bod yn sicrhau bod gweithwyr yn cymryd gwyliau blynyddol yn ôl y galw i'w hatal rhag teimlo eu bod wedi'u gorlwytho â phwysau. Tynnodd swyddogion sylw yr Aelodau hefyd at y ffaith bod effeithiau COVID-19 hir hefyd yn cael eu hystyried ac y byddai hyn hefyd yn elfen lle byddai angen darparu cymorth i weithwyr.

 

Nododd yr Aelodau ei bod yn debygol y gall fod llai o alw am ofal preswyl yn y dyfodol a galw uwch am ragor o ofal yn y gymuned.

 

Canmolodd Aelodau'r Cabinet dros Wasanaethau Oedolion a Phlant y Swyddogion am eu gwaith a'u cefnogaeth yn ystod yr amseroedd digynsail hyn.

 

Tynnodd Aelod y Cabinet dros Gyllid sylw at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid pellach gwerth 6.5 miliwn ar gyfer y Gronfa Galedi. 

 

Gofynnodd y Cadeirydd i’r Aelodau anfon unrhyw gwestiynau pellach at y Swyddog Craffu mewn perthynas â’r diweddariad ar yr effeithiau y mae COVID-19 wedi'u cael ar Wasanaethau Oedolion a Phlant, fel a nodir yn y cyflwyniad a ddosbarthwyd.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

5.

Ymgynghoriad ar Gynigion Cyllideb 2021/22 pdf eicon PDF 288 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd trosolwg o gynigion cyllidebol drafft 2021/2022 y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai.

 

Tynnwyd sylw at y ffaith bod y cynigion a gynhwyswyd yn yr adroddiad yn nifer bach o strategaethau arbed y craffwyd ac yr ymgynghorwyd arnynt eisoes, ac a gymeradwywyd gan y cyngor ar 6 Mawrth 2020.

 

 

Rhoddwyd gwybodaeth i'r Aelodau hefyd am y pwysau cyllidebol i'r gwasanaeth, ynghyd â'r arbedion, y toriadau a'r cyfleoedd i greu incwm a nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Trafodwyd effeithiau COVID-19 ar y gyllideb ac felly gofynnodd yr Aelodau i'r Swyddogion am sicrwydd ynghylch y rhagfynegiadau yr oeddent wedi'u llunio ar gyfer y gyllideb sydd ar ddod ac am eglurder ynghylch a roddwyd unrhyw arian wrth gefn wrth baratoi ar gyfer unrhyw gynnydd anrhagweledig yn y gyllideb. Sicrhaodd Swyddogion yr Aelodau eu bod wedi cymryd golwg rhesymol ar draws y cyngor a'u bod wedi darparu golwg realistig dros y flwyddyn nesaf.

 

Yn dilyn ymholiad, eglurodd Swyddogion fod y ffigur o £135,000 a nodir yn yr adroddiad yn incwm a oedd wedi'i greu ar draws y cyngor, ac nid gan yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol yn unig.

 

Cafwyd trafodaethau ynghylch y prosiect Adeiladu Cymunedau Diogel a Chadarn a oedd yn cael ei gynnal. Hysbysodd Swyddogion yr Aelodau y gwnaed penderfyniad i atal y prosiect hwnnw oherwydd y pwysau yn dilyn COVID-19. Sefydlwyd gwasanaeth Diogel ac Iach i ddarparu cymorth i'r rheini oedd yn agored i niwed.

 

Holodd yr Aelodau a oedd y ffigur rhagweledig o £400,000 ar gyfer digartrefedd yn mynd i fod yn ddigonol yn ystod yr amserau hyn. Gofynnodd yr Aelodau a oedd Swyddogion wedi ystyried cynlluniau wrth gefn a defnyddiwyd llifogydd Sgiwen fel enghraifft o amgylchiadau anrhagweledig. Hysbysodd swyddogion yr Aelodau y cafwyd cyllid pellach o 1.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru a oedd yn gostwng y ffigur a ragfynegwyd i £400,000. Nodwyd y byddai adroddiad a oedd yn darparu rhagor o fanylion ar ddigartrefedd yn cael ei gyflwyno i bwyllgor yn y dyfodol.

 

Yn dilyn trafodaeth ynghylch awgrym creu incwm gan yr aelodau craffu sy'n ymwneud â gwasanaeth bysus ar gyfer sefydliadau a chymunedau, cadarnhaodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai ac Aelod y Cabinet dros Gyllid y byddent yn ystyried yr awgrym hwn yn dilyn ymarfer cwmpasu mewn cyfarfod y panel Creu Incwm.

 

Ar ôl craffu ar fanylion y gyllideb a gynhwyswyd yn yr adroddiad, atgoffwyd yr Aelodau y byddai eu sylwadau o'r cyfarfod hwn yn ffurfio rhan o'r ymateb ffurfiol i'r ymgynghoriad ar gyfer cyllideb 2021/22. Gofynnwyd iddynt, os oedd ganddynt unrhyw gynigion eraill ar gyfer arbedion cyllidebol nad oeddent wedi'u cynnwys yn yr adroddiad amgaeedig, fynd ati i gysylltu â swyddogion i'w hystyried.

 

 

 

6.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 125 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Blaenraglen Waith.

 

7.

Mynediad i gyfarfodydd

Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

gwahardd y cyhoedd yn unol ag Adran 100A (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn debygol o gynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 ac Adran 4 o Atodlen 12A y Ddeddf uchod.

 

 

8.

Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu

cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet ar gyfer yr

Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Dewisodd y Pwyllgor graffu ar yr eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet:

 

Eiddo gwag nad oes ei angen mwyach

 

Derbyniodd yr Aelodau wybodaeth mewn cais a oedd yn datgan bod eiddo gwag nad oes ei angen mwyach, fel a nodir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

 

Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.