Lleoliad: Via Microsoft Teams
Cyswllt: Stacy Curran 01639 763194 E-bost: s.curran@npt.gov.uk
Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Yn dilyn y newyddion diweddaraf am lifogydd Sgiwen,
canmolodd yr Aelodau'r Swyddogion am eu hymateb brys a'u cefnogaeth i'r
sefyllfa. |
|||
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Gwnaeth yr aelod canlynol ddatganiad o fudd ar
ddechrau'r cyfarfod: Y Cynghorydd C Galsworthy
Parthed: Ymgynghoriad ar Gynigion Cyllideb 2021/22, gan ei bod yn derbyn
Taliadau Uniongyrchol ar gyfer aelod o'r teulu. |
|||
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 64 KB Cofnodion: Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol a
gynhaliwyd ar 3 Rhagfyr 2020 fel cofnod cywir. |
|||
Diweddariad Llafar ar yr Effeithiau a gafodd COVID-19 ar y Gwasanaethau Cymdeithasol PDF 125 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd yr Aelodau gyflwyniad PowerPoint a
ddosbarthwyd yn y cyfarfod ynghylch diweddariadau ar effeithiau COVID-19 yn y
Gwasanaethau Oedolion a Phlant. Cafwyd trafodaethau ynghylch nifer y brechiadau a
oedd wedi'u rhoi mewn cartrefi gofal, ynghyd â'r broses ddiogel o drosglwyddo
preswylwyr oherwydd y llifogydd yn Sgiwen, yn ystod y pandemig. Tynnodd Swyddogion
sylw at y ffaith bod yr holl breswylwyr yng nghartrefi gofal Castell-nedd Port
Talbot wedi'u brechu. Sicrhawyd yr Aelodau ei fod yn drosglwyddiad llyfn a oedd
wedi'i drefnu'n dda. Sicrhaodd Swyddogion yr Aelodau bod lles gweithwyr
yn flaenoriaeth a'u bod yn sicrhau bod gweithwyr yn cymryd gwyliau blynyddol yn
ôl y galw i'w hatal rhag teimlo eu bod wedi'u gorlwytho â phwysau. Tynnodd
swyddogion sylw yr Aelodau hefyd at y ffaith bod effeithiau COVID-19 hir hefyd
yn cael eu hystyried ac y byddai hyn hefyd yn elfen lle byddai angen darparu
cymorth i weithwyr. Nododd yr Aelodau ei bod yn debygol y gall fod llai
o alw am ofal preswyl yn y dyfodol a galw uwch am ragor o ofal yn y gymuned. Canmolodd Aelodau'r Cabinet dros Wasanaethau
Oedolion a Phlant y Swyddogion am eu gwaith a'u cefnogaeth yn ystod yr
amseroedd digynsail hyn. Tynnodd Aelod y Cabinet dros Gyllid sylw at y
ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid pellach gwerth 6.5 miliwn ar gyfer
y Gronfa Galedi. Gofynnodd y Cadeirydd i’r Aelodau anfon unrhyw
gwestiynau pellach at y Swyddog Craffu mewn perthynas â’r diweddariad ar yr
effeithiau y mae COVID-19 wedi'u cael ar Wasanaethau Oedolion a Phlant, fel a
nodir yn y cyflwyniad a ddosbarthwyd. Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad. |
|||
Ymgynghoriad ar Gynigion Cyllideb 2021/22 PDF 288 KB Cofnodion: Derbyniwyd trosolwg o gynigion cyllidebol drafft
2021/2022 y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai. Tynnwyd sylw at y ffaith bod y cynigion a
gynhwyswyd yn yr adroddiad yn nifer bach o strategaethau arbed y craffwyd ac yr
ymgynghorwyd arnynt eisoes, ac a gymeradwywyd gan y cyngor ar 6 Mawrth 2020. Rhoddwyd gwybodaeth i'r Aelodau hefyd am y pwysau
cyllidebol i'r gwasanaeth, ynghyd â'r arbedion, y toriadau a'r cyfleoedd i greu
incwm a nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Trafodwyd effeithiau COVID-19 ar y gyllideb ac
felly gofynnodd yr Aelodau i'r Swyddogion am sicrwydd ynghylch y rhagfynegiadau
yr oeddent wedi'u llunio ar gyfer y gyllideb sydd ar ddod ac am eglurder
ynghylch a roddwyd unrhyw arian wrth gefn wrth baratoi ar gyfer unrhyw gynnydd
anrhagweledig yn y gyllideb. Sicrhaodd Swyddogion yr Aelodau eu bod wedi cymryd
golwg rhesymol ar draws y cyngor a'u bod wedi darparu golwg realistig dros y
flwyddyn nesaf. Yn dilyn ymholiad, eglurodd Swyddogion fod y ffigur
o £135,000 a nodir yn yr adroddiad yn incwm a oedd wedi'i greu ar draws y
cyngor, ac nid gan yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol yn unig. Cafwyd trafodaethau ynghylch y prosiect Adeiladu
Cymunedau Diogel a Chadarn a oedd yn cael ei gynnal. Hysbysodd Swyddogion yr
Aelodau y gwnaed penderfyniad i atal y prosiect hwnnw oherwydd y pwysau yn
dilyn COVID-19. Sefydlwyd gwasanaeth Diogel ac Iach i ddarparu cymorth i'r
rheini oedd yn agored i niwed. Holodd yr Aelodau a oedd y ffigur rhagweledig o
£400,000 ar gyfer digartrefedd yn mynd i fod yn ddigonol yn ystod yr amserau
hyn. Gofynnodd yr Aelodau a oedd Swyddogion wedi ystyried cynlluniau wrth gefn
a defnyddiwyd llifogydd Sgiwen fel enghraifft o amgylchiadau anrhagweledig.
Hysbysodd swyddogion yr Aelodau y cafwyd cyllid pellach o 1.5 miliwn gan
Lywodraeth Cymru a oedd yn gostwng y ffigur a ragfynegwyd i £400,000. Nodwyd y
byddai adroddiad a oedd yn darparu rhagor o fanylion ar ddigartrefedd yn cael
ei gyflwyno i bwyllgor yn y dyfodol. Yn dilyn trafodaeth ynghylch awgrym creu incwm gan
yr aelodau craffu sy'n ymwneud â gwasanaeth bysus ar gyfer sefydliadau a
chymunedau, cadarnhaodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai
ac Aelod y Cabinet dros Gyllid y byddent yn ystyried yr awgrym hwn yn dilyn
ymarfer cwmpasu mewn cyfarfod y panel Creu Incwm. Ar ôl craffu ar fanylion y gyllideb a gynhwyswyd yn
yr adroddiad, atgoffwyd yr Aelodau y byddai eu sylwadau o'r cyfarfod hwn yn
ffurfio rhan o'r ymateb ffurfiol i'r ymgynghoriad ar gyfer cyllideb 2021/22.
Gofynnwyd iddynt, os oedd ganddynt unrhyw gynigion eraill ar gyfer arbedion
cyllidebol nad oeddent wedi'u cynnwys yn yr adroddiad amgaeedig, fynd ati i
gysylltu â swyddogion i'w hystyried. |
|||
Cofnodion: Nodwyd y Blaenraglen Waith. |
|||
Mynediad i gyfarfodydd Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem
ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau
eithriedig perthnasol o Ran
4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod Cofnodion:
|
|||
Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu Dewis eitemau priodol
o Agenda Bwrdd y Cabinet ar
gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir
adroddiadau Bwrdd y Cabinet
ar gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Dewisodd y Pwyllgor graffu ar yr eitemau canlynol
ar agenda Bwrdd y Cabinet: Eiddo gwag nad oes ei angen mwyach Derbyniodd yr Aelodau wybodaeth mewn cais a oedd yn
datgan bod eiddo gwag nad oes ei angen mwyach, fel a nodir yn yr adroddiad
preifat a ddosbarthwyd. Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn
gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet. |